Ymchwiliad yn dechrau i gwynion ynghylch halogiad plastig yng Ngelligaer

Mae gwaith cloddio archwiliadol mewn chwarel yng Nghaerffili yn dechrau heddiw yn dilyn pryderon am halogiad plastig mewn compost sydd wedi cael ei ddefnyddio fel uwchbridd.

Bydd timau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ynghyd ag ymgynghorwyr amgylcheddol annibynnol, yn cloddio i lawr i fwnd y chwarel sy’n cael ei reoli gan Bryn Group yng Ngelligaer i gasglu samplau o'r pridd.

Bydd samplau'n cael eu hanfon i labordy i'w dadansoddi, a bydd yr ymgynghorwyr yn craffu ar y canlyniadau.

Bydd drôn hefyd yn cael ei ddefnyddio i gymryd lluniau o'r safle o'r awyr i helpu arbenigwyr i ddeall pa mor eang y gallai'r broblem fod.

Disgwylir i’r gwaith cloddio gymryd tri diwrnod i'w gwblhau. Hoffai CNC atgoffa trigolion lleol mai ymchwiliad byw yw hwn ac mae’n gofyn iddynt gadw'n glir o'r gwaith a'r gweithredwyr ar y safle.

Dywedodd Jon Goldsworthy, Rheolwr Gweithrediadau CNC:

“Mae hwn yn waith cymhleth, ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd y rhai a fynegodd eu pryderon i ni wrth i ni roi’r trefniadau angenrheidiol ar waith i ganiatáu i hyn ddigwydd.
“Mae gweithredwyr y safle, Bryn Group, yn cydweithredu’n llawn â'n hymchwiliad. Unwaith y bydd y samplau pridd wedi'u dadansoddi, rydym yn disgwyl derbyn adroddiad gan yr ymgynghorwyr a fydd yn ein helpu i lywio ein camau nesaf.”

Mae Bryn Group yn ymgymryd â nifer o weithgareddau gwastraff ar safle Gelligaer, gan gynnwys cyfleusterau compostio, gorsaf trosglwyddo gwastraff a gwaith treulio anaerobig sydd i gyd yn cael eu trwyddedu a'u rheoleiddio gan CNC.

Mae gweithgareddau eraill ar y safle, fel gwaith y chwarel, yn cael eu rheoleiddio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.