Gwasanaeth rhybuddio am lifogydd am ddim yn dod i gwsmeriaid Vodafone yng Nghymru

Llun yn dangos a tri symbol am llifogydd byddwch yn barod, rhybudd llifogydd a rhybudd llifogydd difrifol

Efallai y bydd pobl sy'n byw yng Nghymru yn cael neges destun gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar 4 Rhagfyr i’w hysbysu eu bod wedi'u cofrestru'n awtomatig ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim.

Bydd cwsmeriaid rhwydwaith symudol Vodafone sy'n byw mewn ardaloedd sydd â risg uchel o lifogydd ledled Cymru yn derbyn neges destun awtomataidd yn eu hysbysu eu bod wedi eu cofrestru, gyda dolen iddynt ei dilyn i wybod beth i'w wneud os byddant yn derbyn rhybudd llifogydd, a'r opsiwn i optio allan.

Ar ôl cofrestru, bydd pobl yn derbyn neges yn uniongyrchol i'w ffôn symudol os cyhoeddir rhybudd llifogydd ar gyfer eu hardal yn y dyfodol - gan roi amser hanfodol iddynt baratoi.

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Risg Llifogydd a Digwyddiadau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Gall bod wedi cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd roi rhybudd ymlaen llaw i bobl o lifogydd a rhywfaint o amser hanfodol i baratoi.
“Os byddwch chi'n cael y neges, mae hynny oherwydd eich bod chi'n byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd, felly byddem yn annog pobl i beidio ag optio allan o'r gwasanaeth ac i ddysgu beth i'w wneud os byddwch chi'n derbyn rhybudd trwy edrych ar ganllaw llifogydd am ddim sydd ar gael ar ein gwefan.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cofrestru tua 14,000 o bobl ledled Cymru ar rwydwaith symudol Vodafone i'w wasanaeth rhybuddio am lifogydd.

Gall pobl nad ydynt ar rwydwaith Vodafone ddal i dderbyn rhybuddion llifogydd am ddim a dylent fynd i'r dudalen Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd i wirio a yw eu cartref mewn perygl o lifogydd a chofrestru i gael rhybuddion llifogydd am ddim.

I gael y canllaw llifogydd am ddim ac i ddysgu sut i baratoi ar gyfer llifogydd, ewch i'r dudalen Sut i baratoi eich eiddo yn erbyn llifogydd.