Yn achlysurol mae ein timau’n ysgrifennu blog am y mannau arbennig y maent yn gofalu amdanynt. Dyma Paul Williams, swyddog rheolaeth tir yn ucheldir Eryri, i sôn am gynlluniau i adfer hen gors.

Yr hydref hwn dwi wedi bod yn ymweld â sawl ardal o goedwigaeth sydd wedi eu hychwanegu at y safleoedd dwi’n eu rheoli yng Ngwynedd.

Planhigfeydd masnachol ydi rhai ohonynt lle mae’n flaenoriaeth i dyfu coed ar gyfer y diwydiant pren a phapur. Ond mae eraill wedi dod yn nodweddion pwysig yn ein tirlun, a chanddynt lawer o botensial i roi hwb i fywyd gwyllt.

Un o’r rhain ydi Cors Wen ger Trawsfynydd. Cors wen, pyllau

Oherwydd y lleoliad, ar lan afon sy’n gynefin i’r fisglen berl dŵr croyw, mae’r safle 88 hectar bellach yn cael ei reoli er mwyn diogelu’r rhywgaeth prin iawn yma.

Fel rhan o brosiect LIFE yr Undeb Ewropeaidd i warchod Perlau mewn Perygl, crewyd nifer o byllau ar y safle a chauwyd rhai o’r ffosydd, er mwyn gwella ansawdd y dŵr sy’n llifo i’r afon.

Gydag amser, bydd y safle’n datblygu yn glytwaith o gynefinoedd, fel coedwigoedd gwlyb a chorsydd, fydd o fudd mawr i bryfaid, mamaliaid ac adar, yn ogystal â’r misglod.

Mae llawer i’w wneud eto.

Oherwydd y tir gwlyb a’r tyfiant tal, mae’n anodd croesi’r safle, ac felly mae gwaith cynnal a chadw, a monitro cynefinoedd a rhywogaethau braidd yn araf.

Wrth ymweld ar ddechrau Tachwedd, a’r haul yn isel yn yr awyr, roedd gwlith yn disgleirio ar ddail melyn glaswellt y gweunydd, a’u blodau tal yn gwyro dan bwysau’r diferion.

Gwyliais haid o fras y cyrs yn hedfan yn frysiog a diwyd o lwyn i lwyn, y ceiliogod bellach yn eu cotiau gaeafol ac wedi colli’r plu duon nodweddiadol ar eu pennau.

Denwyd fy sylw wedyn gan deulu o ditwod cynffon hir yn trydar yn frwdfrydig ymysg dail euraidd bedwen arian.

Araf iawn oedd fy nhaith trwy’r safle wrth i’r mieri a’r glaswellt twmpathog ei gwneud yn drafferthus i gerdded. Ar ben hynny roedd tyfiant newydd yn cuddio’r hen ffosydd, ac roedd yn anodd cadw’n frwd dros crwydro ymhellach!

Ond er gwaethaf gorfod achub y welingtyns o siglenni gwlyb a methu’n glir ac osgoi drain miniog y mieri. Gallaf sefyll yn ôl a dychmygu dyfodol yr egin-warchodfa newydd yma.

Dwi’n gobeithio, ar ôl cau mwy o ffosydd a rheoli’r coed conwydd ifanc, y gwelwn ffurfio mawn newydd yn y tymor hir, a hynny yn ei dro yn amsugno carbon, a chadw mwy o ddŵr glaw rhag llifo’n syth i’r afon.

Byddai clywed ‘ffliwt hyfrydlais’ y gylfinir ar y rhosdir, a gwylio dyfrgwn yn hela yn y pyllau, ymysg amrywiaeth o weision neidr yn uchafbwyntiau hyfryd. A byddai’n braf meddwl y bydd gweirlöyn mawr y waun, sy’n brin iawn, yn ymledu yma o’r Gors Goch gerllaw.

Gwyliwch y gofod!  

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru