Rheoli Gwastraff: Ar leoliad gyda ThîmCyfoeth

Graddiais yn y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ac er fy mod i wedi cael canlyniadau da doedd gen i mo’r profiad gwaith yr oedd ôl-raddedigion eraill yn gallu ei gynnig.

Roedd yn anodd chwilio am swydd mewn cyfnod helbulus pan oedd gwaith yn brin a phan oedd COVID 19 yn risg gyson.

Yn wahanol i raddedigion o’m blaen, roedd y cyfle oedd gen i i fwrw ymlaen â’m gyrfa yn cael ei gyfyngu, ac o ganlyniad roedd bwlch anferth yn fy nhaith yrfaol ac nid oeddwn yn gallu dilyn unrhyw lwybr i ddatblygu’r sgiliau oedd eu hangen i gyrraedd fy nhargedau gyrfaol.

Gan fy mod angen cefnogaeth a rhagor o arweiniad, fe wnes i gofrestru â Chredyd Cynhwysol i gael cymorth i gael mynediad i’r farchnad swyddi a chael yr hyder oeddwn i ei angen i wneud rhagor o astudiaethau - ac rwy’n falch fy mod i wedi gwneud hynny!

Cefais gyfle i ymuno â chynllun Kickstart a oedd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol ac a allai fod yn cael trafferth i ddod o hyd i waith ar ôl COVID.

Ar ôl chwilio drwy'r lleoliadau gwaith niferus oedd gan y cynllun i’w cynnig, yr hysbyseb a ddaliodd fy llygad yn y pen draw oedd "cynorthwyydd tîm gwastraff" yma yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Gan fod gen i ddiddordeb mawr wedi bod erioed yn yr amgylchedd a'r deddfau cysylltiedig, roedd agwedd reoleiddio’r swydd yn apelio a’r ffaith fod rhywbeth mor amrywiol â gwastraff yn gallu cael ei reoleiddio yn unol â'r gyfraith.

Pan ddechreuais yn y swydd, cefais fy nghroesawu ar unwaith gan y tîm ac roeddwn i’n teimlo’n gartrefol iawn yn gweithio ochr yn ochr â phawb.

O fewn tri mis, roeddwn i’n cael cyfleoedd di-ben-draw na fyddwn wedi cael eu cynnig cyn dechrau ar fy lleoliad gwaith.

Gan fod hynny’n berthnasol i fy niddordeb yn y gyfraith, cefais wahoddiad i gysgodi cydweithwyr yn y llys er mwyn dod i ddeall yn well sut y mae CNC yn erlyn y rhai sy’n torri rheoliadau gwastraff – rheoliadau sy’n bodoli i ddiogelu cymunedau a’r amgylchedd.

Cefais hefyd gynnig i fynychu a gwrando ar alwadau cymhorthfa gyfreithiol lle’r oeddwn i’n gallu gweld sut yr oedd ymholiadau cyfreithiol yn cael eu trin a sut yr oedd statudau a rheoliadau perthnasol yn gallu cael eu cymhwyso ar gyfer senarios penodol.

Hefyd, yn gyson roedd fy rheolwr llinell yn rhannu diweddariadau o fewn y gymuned a oedd yn ymwneud ag unrhyw achosion cyfredol. Helpodd hyn i sicrhau fy mod yn gwybod y diweddaraf am unrhyw ddatblygiadau cyfreithiol.

Roedd fy lleoliad gwaith yn gyfle nid yn unig i mi ddatblygu fy ngwybodaeth am y gyfraith, ond hefyd i wella sgiliau oeddwn i wedi’u colli neu rai na chafodd eu datblygu ers i mi adael yr ysgol uwchradd.

Yn bennaf roedd fy ngwaith yn cynnwys creu a diweddaru taenlenni ar gyfer y tîm a chan nad oeddwn i wedi defnyddio Excel am gymaint o amser, roeddwn i’n poeni y byddwn yn cael trafferth i wneud hynny.

Fodd bynnag, po fwyaf oeddwn i’n gweithio gydag Excel ac yn dilyn canllawiau fy rheolwr llinell ac aelodau eraill y tîm, mwyaf yn y byd yr oedd popeth yn dod yn ôl. Ac o ganlyniad, rydw i’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn gweithio gydag Excel, sy’n sgil sydd wedi datblygu fwy fyth ers gweithio yma.

Roedd tasgau eraill yr oedd disgwyl i mi ymgymryd â nhw yn cynnwys nifer o ddyletswyddau gweinyddol megis paratoi cofnodion cyfarfodydd yn ystod ein cyfarfodydd wythnosol, archebu offer diogelu personol ar gyfer y tîm a chynorthwyo’r tîm os byddai angen cwblhau gwaith erbyn dyddiadau penodol.

Mae gweithio yma yn CNC wedi bod yn brofiad gwerthfawr i mi a hefyd wedi fy rhoi ar y llwybr cywir ar gyfer fy ymdrechion i’r dyfodol.

Mae wedi rhoi fy hyder yn ôl i mi drwy ei gwneud hi’n bosibl i mi berffeithio sgiliau y gallwn i fod wedi eu colli yn ystod y bwlch o ddwy flynedd ar ôl graddio.

Ac mae hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi weithio ochr yn ochr â thîm ardderchog sydd wedi bod yn groesawgar a pharod eu cymwynas ers y diwrnod cyntaf.

Byddwn yn argymell fod unrhyw berson ifanc sydd newydd raddio ac sy’n cael trafferth i gael gwaith yn ystyried lleoliad gwaith neu brentisiaeth, a hynny’n arbennig gyda sefydliad mor gynhwysol â CNC. Roedd yn gyfle delfrydol i mi ddatblygu fy mhrofiad a gwneud rhywbeth ystyrlon yr un pryd.

Byddwn hefyd yn annog y bobl ifanc hyn i fod yn agored i bob opsiwn, i beidio ag ofni rhoi cynnig ar bethau newydd, hyd yn oed os yw’n golygu mentro i wneud rhywbeth anghyfarwydd.

Rwyf wedi mwynhau o ddifrif gweithio ochr yn ochr â phawb yma yn CNC a hoffwn ddiolch i’r tîm am roi’r cyfle hwn i mi ac rwy’n dymuno’r gorau iddyn nhw i’r dyfodol.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru