Cafodd CNC flwyddyn brysur arall o weithgarwch rheoleiddio
Datgelodd adroddiad a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw bod rheoliadau amgylcheddol cryf yn cefnogi pobl a busnesau ledled Cymru i leihau’r risgiau o niweidio’r amgylchedd naturiol trwy eu gweithgareddau, ond bod angen gwneud mwy o waith i atal digwyddiadau llygredd rhag digwydd yn y dyfodol.
Mae Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol CNC ar gyfer 2022 yn nodi perfformiad rheoleiddio’r rhai sy’n dal trwyddedau amgylcheddol yng Nghymru a gweithgarwch rheoleiddio CNC. Mae’n edrych ar gydymffurfedd, achosion o lygredd, trosedd a gweithgarwch gorfodi a sut mae CNC wedi cyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio a gorfodi yn ystod blwyddyn galendr 2022.
Mae’r adroddiad yn amlygu bod CNC wedi derbyn 7,255 o ddigwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn ystod y cyfnod adrodd – 1,705 yn llai nag yn 2021. Mynychodd swyddogion CNC 29 y cant o’r rhain, cynnydd o ddau y cant ar y flwyddyn flaenorol.
Mae digwyddiadau sy'n gysylltiedig â dŵr ar draws y DU wedi cael eu hamlygu yn y cyfryngau dros y flwyddyn ddiwethaf, gydag CNC yn derbyn 2,566 o adroddiadau dŵr yn 2022. Roedd y rhain yn ymwneud â llygredd, diogelwch cronfeydd dŵr, tynnu dŵr, a rhwystro neu newid cwrs dŵr. Roedd y digwyddiadau hyn yn cynrychioli 31 y cant o gyfanswm nifer y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt.
Derbyniodd CNC 1,337 o adroddiadau am ddigwyddiadau sy’n ymwneud â gwastraff, gan gynnwys tipio anghyfreithlon ar raddfa fawr, llosgi gwastraff, safleoedd gwastraff a chludwyr gwastraff anghyfreithlon, a 1,536 o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â gweithgarwch a reoleiddir – y rhai a gwmpesir gan drwyddedau.
Arweiniodd adroddiadau am bysgota anghyfreithlon, cocos anghyfreithlon a lladd pysgod at 306 o adroddiadau, a chofnodwyd 652 o ddigwyddiadau yn y sector coedwigaeth.
Mae ffigurau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hefyd yn dangos bod mynd i’r afael â’r sefydliadau ac unigolion hynny sy’n ceisio elwa ar weithgarwch anghyfreithlon yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Yn 2022, cyfnododd CNC 849 o achosion gorfodi newydd, yn cynnwys 889 o droseddwyr, gyda 1,214 o gyhuddiadau gorfodi ar wahân. Er bod ymatebion gorfodi ar ffurf cyngor, canllawiau a rhybuddion yn gyson â blynyddoedd blaenorol, mae CNC wedi cynyddu nifer yr hysbysiadau, rhybuddiadau ac achosion erlyn a gymerwyd, gyda 298 o achosion ychwanegol yn dal i fynd rhagddynt ar ddiwedd y cyfnod adrodd.
Dywedodd Martyn Evans, Arweinydd Tîm Rheoleiddio’r Dyfodol CNC:
“Mae gwaith rheoleiddio cryf yn sail i’n pwrpas, sef gwarchod, cynnal a gwella adnoddau naturiol Cymru fel y gall pobl fyw bywydau gwell ac iachach a bod ein bywyd gwyllt yn gallu ffynnu.
“Er bod yr adroddiad hwn yn dangos rhai tueddiadau sy’n gwella, rydym yn gwybod bod llawer o waith i’w wneud o hyd, yn enwedig mewn meysydd blaenoriaeth fel llygredd. Nid yw ansawdd amgylchedd Cymru wedi cyrraedd lle rydym ni, ein partneriaid a phobl Cymru am iddo fod, a bydd angen dull cydweithredol arnom i fynd i’r afael â’r materion y mae Cymru’n eu hwynebu.
“Mae hyn yn cynnwys cyfres o offer i amddiffyn ein hamgylchedd, atal llygredd, a chefnogi’r argyfyngau hinsawdd a natur, o godi ymwybyddiaeth o faterion, cyfreithiau a rheoliadau amgylcheddol a hyrwyddo arferion amgylcheddol da, i gymryd camau gorfodi trwy gosbau sifil, hysbysiadau a rhybuddion, dirwyon ac erlyniadau am weithgareddau nad ydynt yn cydymffurfio neu weithgareddau cwbl anghyfreithlon.”
Mae CNC yn tanlinellu’r rôl bwysig sydd gan gydymffurfio â rheoliadau o ran amddiffyn cymunedau a natur rhag risgiau hinsawdd cynyddol yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn amlygu bod CNC wedi cyhoeddi 2,928 o drwyddedau yn 2022, i helpu diwydiant, busnes ac unigolion i gyflawni gweithgareddau mewn ffordd sy’n atal ac yn rheoli llygredd neu niwed i'r amgylchedd. Cofrestrodd CNC hefyd 1,991 o gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff newydd, gan helpu i sicrhau bod y broses o gludo, gwaredu neu adennill gwastraff yng Nghymru yn cael ei rheoli’n gywir.
Ychwanegodd Martyn Evans:
“Rydym yn parhau i weld pwysau ar ein hamgylchedd naturiol ac mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i leihau’r effaith y mae diffyg cydymffurfio â rheoliadau, troseddau amgylcheddol a digwyddiadau llygredd yn ei chael ar ein hadnoddau naturiol, ein heconomi a’n cymunedau.
“Mae helpu pobl a busnesau i warchod yr amgylchedd a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn rhan bwysig o ddyletswyddau rheoleiddio CNC.
“Byddwn yn parhau i archwilio dulliau newydd ac arloesol o wneud ein dull rheoleiddio mor effeithiol â phosibl, drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael inni i atal diffyg cydymffurfio ar draws pob sector, ac i fynd i’r afael â gweithgarwch anghyfreithlon lle bynnag y byddwn yn dod o hyd iddo.”
Gallwch ddarllen fersiwn lawn o Adroddiad Rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru 2022 yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol