Gwaith i amddiffyn cnwp-fwsogl prin sy'n dyddio'n ôl 400 miliwn o flynyddoedd
Mae planhigyn sydd mewn perygl wedi cael hwb diolch i waith i adfer cynefin.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi gwneud gwaith ar laswelltir ger Capel Curig, Conwy, i gefnogi adfywiad cnwp-fwsogl y gors.
Datblygodd y planhigyn anflodeuol, cyntefig hwn, sy'n perthyn yn agos i redyn, tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod daearegol Carbonifferaidd.
Fe'i ceir yn gyffredinol ar dir noeth agored, mawnaidd a lled gywasgiedig mewn rhostir gwlyb ac ar ymylon traciau neu lwybrau da byw.
Mae gan y cnwp-fwsogl goesynnau llorweddol sy'n tyfu i rhwng 5 a 20cm o hyd ac ar hyn o bryd mae wedi'i ddosbarthu fel un sydd mewn perygl yn y DU a chaiff ei warchod o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.
Mae'r gwaith a wnaed i greu ardaloedd wedi’u crafu wedi agor tir moel a chynefin newydd y gall y cnwp-fwsogl eu cytrefu.
Bydd gwartheg yn dechrau pori’r safle hefyd, sy'n tarfu rhagor ar y ddaear, gan hybu twf.
Dywedodd Lewis Pennant, o Dîm Amgylchedd Conwy CNC:
“Yn y gorffennol roedd y safle’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan gerbydau oedd yn tarfu ar y ddaear a oedd yn ffafriol i’r cnwp-fwsogl.
“Bu colled hefyd oherwydd diffyg pori gan wartheg sydd wedi caniatáu i lystyfiant arwynebol ymledu a gorchuddio’r tir agored a fyddai wedi cael ei gytrefu gan y cnwp-fwsogl.
“Bydd crafu pantiau yn y tir a rhoi gwartheg i bori, sy’n achosi mwy o aflonyddwch na phori gan ddefaid yn unig, o fudd i’r rhywogaeth.
“Mae pori’n hollbwysig, nid yn unig ar gyfer creu a chynnal cynefin, ond hefyd ar gyfer symud sborau’r planhigyn o gwmpas.
“Efallai y bydd y gwaith yn edrych yn wrthgynhyrchiol oherwydd yr holl lanast ond bydd yn helpu i gynyddu poblogaeth y planhigyn prin hwn.
“Mae dirywiad y rhywogaeth hon yn arwydd o’r pwysau sydd ar yr ecosystem ac mae’n haeddu cael ei gwarchod gennym. Mae colli bioamrywiaeth yn bygwth ein cyflenwad bwyd, ein hiechyd, ein swyddi, ein heconomi a’n hymdeimlad o le. Mae diogelu ac adfer byd natur o fudd i bawb ac yn ein helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.
“Mae hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth a hoffem ddiolch i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’r tirfeddiannwr am weithio gyda ni ar y prosiect hwn.”
Bydd gwaith monitro blynyddol nawr yn cael ei gynnal i asesu faint o gnwp-fwsogl sydd ar y safle a bydd gwaith pellach yn digwydd ar ail safle yn y dyfodol.