Gwaith wedi cychwyn ar adnewyddu mynydd wedi ddifrodi gan tân
Mae prosiect adfer uchelgeisiol wedi dechrau’r wythnos hon ym Mynydd Llantysilio, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig, er mwyn adfer yr ardal yn dilyn tân dinistriol yn 2018.
Mae’r prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mewn partneriaeth ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chyngor Sir Dinbych. Yr uchelgais fydd ailfywiogi’r cynefin naturiol ac adfer y mynydd I’w hen ogoniant.
Llosgodd y safle, sy’n darparu ardaloedd pori i ffermwyr lleol ac sy’n boblogaidd gyda cherddwyr, am bedair wythnos ar anterth y tywydd poeth yn haf 2018. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gweithiodd CNC gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i dorri’r llystyfiant a chreu seibiannau tân I geisio atal y tân rhag lledaenu.
Dinistriodd y tân hyd at 250 hectar o dir – sy’n cyfateb i tua 247 o gaeau rygbi.
Dywedodd Prif Ymgynghorydd Strategol Cyfoeth Naturiol Cymru, Nick Thomas:
“Mae Mynydd Llantysilio yn bwysig iawn i bobl a bywyd gwyllt. Yn dilyn y tân gwyllt, rydym wedi gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad Dinbych, tirfeddianwyr a phorwyr i adfer y llystyfiant ar y safle ar gyfer bywyd gwyllt a phori.
“Ers 2018 rydym wedi gweld y rhan fwyaf o’r safle yn gwella’n naturiol, gyda rhai planhigion rhostir yn tyfu’n ôl o wreiddiau ac o hadau. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen i ni ymyrryd er mwyn sefydlogi’r pridd a chreu gwell amodau i blanhigion rhostir fel grug a llus ffynnu.”
Bydd y prosiect yn cynnwys cynaeafu grug o ffynonellau lleol a fydd yn cael ei dorri a’i fagio fel rhan o reolaeth flynyddol y rhostir. Bydd wedyn yn cael ei godi gan hofrennydd i’r llethrau a ddifrodwyd gan y tân a’u gwasgaru dros tua 1 hectar o’r rhannau o’r mynydd a ddioddefodd waethaf. Bydd 68 hectar arall yn cael eu hau gydag hadau glaswellt ucheldirol i greu cnwd meithrin fel bod y planhigion rhostir yn ailsefydlu.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae hwn yn brosiect adfer pwysig sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn dilyn argymhellion a wnaed gan ymgynghorwyr annibynnol ynghyd ac arbenigwyr CNC.
“Achosodd y tân ddifrod sylweddol yn 2018 a bydd y gwaith eleni yn mynd i’r afael a hanner yr ardaleodd a ddifrodwyd fwyaf, gyda gwaith pellach wedi’I gynllunio ar gyfer y dyfodol.”