Diweddariad Ymchwiliad Tirlenwi Withyhedge
Rydym yn cydnabod ac yn deall y pryder mawr sydd ymhlith y gymuned leol o amgylch safle tirlenwi Withyhedge.
Nid ydym yn tanbrisio'r effaith y mae'r adroddiadau parhaus o arogleuon o'r safle yn ei chael ar drigolion ac ymwelwyr yr ardal ac rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif.
Rydym hefyd yn ymwybodol o'r gorlif ymddangosiadol o bwll cyfyngu a’r llygredd posibl a achosir i Nant Rudbaxton. Mae'r mater hwn yn destun ymchwiliad
Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y gweithredwyr tirlenwi yn gweithredu ar unwaith cyn gwyliau'r Nadolig er mwyn cyfyngu ar yr effeithiau o'r safle dros gyfnod yr ŵyl.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r gymuned wrth i'n gweithgareddau rheoleiddio fynd rhagddynt.
Ymateb i adroddiadau
Rydym wedi derbyn niferoedd cynyddol o adroddiadau o arogl o safle tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro gan y cymunedau cyfagos ers mis Hydref:
Mae arogl a briodolir i safle tirlenwi Withyhedge wedi ei gadarnhau gan staff CNC ar bedwar achlysur. Rydym hefyd wedi canfod arogleuon eraill yn yr ardal sy’n dod o ffynonellau amaethyddol ac yn cydnabod bod ffynonellau aroglau eraill yn bresennol. Byddwn yn parhau â'n hasesiadau arogleuon, ac fe’n cefnogir gan Gyngor Sir Penfro yn y gweithgaredd hwn.
Ymweliadau Safle
Fel rhan o’n gwaith i reoleiddio'r safle a sicrhau cydymffurfiaeth â'i drwydded, mae’n swyddogion rheoleiddio yn cynnal adolygiadau o ddata, adroddiadau a gwybodaeth arall a ddarperir gan y gweithredwr. Rydym hefyd yn cynnal ymweliadau safle i weld yn uniongyrchol sut mae'r safle'n cael ei weithredu.
Mae’n swyddogion rheoleiddio wedi mynychu'r safle tirlenwi ar dri achlysur ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2023, er mwyn archwilio agweddau ar weithrediad a rheolaeth y safle a allai fod yn cyfrannu at arogleuon oddi ar y safle. Yn ystod yr ymweliadau, nodwyd fod allyriadau anawdurdodedig. Rhoddwyd cyngor a chyfarwyddyd i weithredwr y safle yn dilyn ein hymweliadau. Rydym wedi pwysleisio bod angen cwblhau rhai camau y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwr trwy gyflwyno hysbysiad gorfodi. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn cynyddu ein hymateb os bydd angen.
Mae swyddogion CNC hefyd yn ymchwilio i lygredd posib o'r safle sy'n gysylltiedig â digwyddiad penodol a gafodd ei ffilmio a'i bostio ar-lein. Yn anffodus, roedd oedi cyn adrodd hyn i CNC. Arolygwyd ardal y safle dan sylw ar 19 Rhagfyr 2023 ac mae ein ymholiadau'n parhau
Trwydded Amgylcheddol
Mae safle tirlenwi Withyhedge yn gweithredu o dan Drwydded Amgylcheddol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwyr gydymffurfio â set o reolau ac amodau. Er mwyn cydymffurfio â'u trwydded, mae’n rhaid i weithredwyr allu esbonio ac egluro pa fesurau y maent yn eu defnyddio i amddiffyn pobl a'r amgylchedd. Os aiff rhywbeth o'i le, mae angen i ni wybod beth mae'r gweithredwr yn mynd i'w wneud am y peth.
Mae trwydded safle tirlenwi Withyhedge yn nodi pa fathau o wastraff y gellir eu gwaredu yno, a faint y gellir ei dderbyn, ond nid yw'n cynnwys cyfyngiadau ar darddiad y Gwastraff. Nid yw maint y gwastraff y caniateir i'r safle ei dderbyn wedi newid ers 2011.
Rhowch wybod amdano
Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi adrodd am faterion sy'n ymwneud â'r safle i ni hyd yma, ac yn hyderus ein bod yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi'i effeithio gan arogl, neu sydd â phryderon am lygredd o safle tirlenwi Withyhedge, i gysylltu â CNC ac adrodd drwy ein rhif 24 awr - 0300 065 3000, neu adrodd ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhowch wybod am ddigwyddiad a sicrhau eich bod yn darparu disgrifiad o'r math o arogl rydych yn ei brofi.