Cymru'n cwblhau’r tymor dŵr ymdrochi er gwaethaf cyfyngiadau Covid
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llwyddo i samplu, profi a dynodi dyfroedd ymdrochi Cymru er gwaethaf y cyfyngiadau a roddwyd ar waith i ymateb i bandemig y Coronafeirws.
Eleni yw’r drydedd flwyddyn y mae traethau Cymru yn cydymffurfio 100% â'r Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi, gydag 80% o draethau dynodedig yn ennill statws 'rhagorol'.
Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Dŵr Cymru, ymwelodd CNC â phob un o'r 105 safle dŵr ymdrochi dynodedig, a chasglwyd a dadansoddwyd samplau ansawdd dŵr drwy gydol y tymor ymdrochi.
Oherwydd effeithiau’r coronafeirws ar arferion gwaith, cafwyd heriau sylweddol wrth geisio cwblhau rhaglen 2020. Gohiriwyd y tymor monitro, sydd fel arfer yn rhedeg o fis Mai i fis Medi, ar ôl canfod y byddai'r pandemig yn effeithio ar y gallu i samplu dŵr yn llawn ac yn ddiogel.
Dechreuodd y gwaith monitro o’r diwedd ym mis Mehefin gyda samplau'n cael eu cymryd o bob safle dynodedig a'u dadansoddi mewn labordy arbenigol. Dywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae monitro a chynnal ein hadnoddau naturiol yn gonglfaen i'r gwaith rydyn ni'n ei wneud ac rwyf mor falch o allu ein staff i gyd-dynnu a gwneud y gwaith pwysig hwn er gwaethaf y sefyllfa ddigynsail sydd ohoni.
"Mae canlyniadau eleni'n dangos pa mor galed rydym ni a'n partneriaid yn gweithio'n lleol ac yn genedlaethol ond hefyd yr ymroddiad aruthrol sydd gan ein sefydliadau i wasanaeth amgylcheddol pwysig.
"Rydym yn hynod falch o bawb a gyfrannodd at gael y canlyniadau hyn o fewn terfyn amser a ymddangosai’n amhosibl i gyflawni tasg o'r fath. Edrychwn ymlaen at weld Cymru'n parhau i weithio fel tîm i ddiogelu a gwella ein traethau a'r manteision maen nhw’n eu rhoi i ni."