Gwirfoddolwch a chyfrannwch at y gwaith o adfer mawndiroedd
Awyr iach, golygfeydd anhygoel a gwneud cyfraniad hanfodol i amddiffyn amgylchedd Cymru – rhai yn unig o’r manteision a gewch wrth wirfoddoli gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i amddiffyn rhai o gyforgorsydd prinnaf Cymru a helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Mae sawl cyfle gwirfoddoli ar gael gyda'r prosiect yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ger Tregaron yng Ngheredigion.
Dywedodd Jake White, Swyddog Monitro Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yng Nghors Caron: “Rydym yn chwilio am bobl dros 16 oed sy’n gallu cynnig rhwng awr yr wythnos o’u hamser hyd at ychydig ddyddiau’r mis.
Ychwanegodd: “Y cyfan sydd ei angen yw diddordeb yn yr amgylchedd, mewn cadwraeth a rhywfaint o frwdfrydedd, a’r awydd a pharodrwydd i weithio allan yn yr awyr agored ym mhob tywydd.”
Bydd gwirfoddolwyr yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael profiad o’r gwaith o adfer mawndir.
Ar hyn o bryd mae Chris yn gwirfoddoli yng nghyforgors Cors Fochno ger Borth. Meddai: “Rydw i wedi elwa gymaint wrth wirfoddoli. Rydw i wedi dod yn fwy bodlon ynof fy hun ac mae wedi fy helpu i roi pethau mewn persbectif. Rwy'n llawer mwy ffit nag oeddwn i ac ychydig yn deneuach hefyd!”
Hwn yw'r prosiect adfer mawndir cyntaf o'i fath yng Nghymru a'i nod yw adfer saith cyforgors.
Mae cyforgorsydd yn bwysig fel cynefin y migwyn (mwsogl y gors).
Gall migwyn ddal mwy nag wyth gwaith ei bwysau ei hun mewn dŵr ac mae'n helpu i gadw'r gors yn wlyb ac yn sbyngaidd.
Mae hyn yn cadw'r mawn yn wlyb, sy'n golygu y gall storio mwy o garbon a helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Ychwanegodd Jake: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i fod yn rhan o dîm ymroddedig a phrosiect arloesol a gwneud cyfraniad gwirioneddol i gadwraeth amgylcheddol.”
Ewch i'r wefan i ddarganfod mwy am rolau gwirfoddoli a lawrlwythwch y ffurflen gais. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun, 12 Hydref 2020.