Atgoffa ymwelwyr i ymddwyn yn gyfrifol yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch

Bydd patrolau ychwanegol ar waith yr wythnos hon a thros benwythnos gŵyl y banc yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn.

Bydd staff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ynghyd â swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru, yn patrolio’r safle i atal tanau, barbeciws a gwersylla anghyfreithlon.

Bu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n cynnau tân a barbeciws, y ddau ohonynt wedi’u gwahardd, sy’n golygu bod perygl tanau dinistriol posib. At hynny, mae gwersylla ar y safle yn anghyfreithlon o hyd, a gallai’r rhai sy’n cael eu dal wynebu dirwy.

Dywedodd Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru:

“Rydyn ni’n disgwyl nifer uchel o ymwelwyr y penwythnos hwn ac yn atgoffa pobl bod gwaharddiad llawn ar waith o hyd ar gyfer pob barbeciw a thân yn dilyn cynnydd mewn digwyddiadau.
“Yn dilyn y tywydd eithriadol o sych, dim ond un wreichionen mae’n ei gymryd i gychwyn tân a allai ddinistrio bywyd gwyllt a chymunedau a rhoi ein gwasanaethau brys o dan bwysau ychwanegol.
“Rydyn ni hefyd am atgoffa ymwelwyr na chaniateir aros dros nos.
“Mae’r safle yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru ac mae’n cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt prin. Rhaid cadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau’r awyr agored a’n cyfrifoldebau i warchod natur a pharchu cymunedau lleol.
“Mae mwyafrif llethol y bobl sy’n ymweld yn ymddwyn yn gyfrifol a hoffem ddiolch iddyn nhw am wneud eu rhan. Rydym yn gobeithio y bydd hynny’n parhau wrth i ni gychwyn ar benwythnos gŵyl y banc.”

Bydd mesurau rheoli traffig yn eu lle yn Niwbwrch a bydd meysydd parcio’r safle yn cau pan fyddant yn llawn (disgwylir y bydd hynny cyn 10am yn ystod y cyfnod prysur hwn) sy’n golygu na fydd modd i gerbydau gyrraedd y safle, ac ni fyddant yn ailagor tan yn hwyrach yn y prynhawn hyd yn oed wrth i fannau parcio ddod ar gael.

Nod hyn yw hwyluso llif traffig ac atal ceir rhag parcio ym mhentref Niwbwrch wrth iddynt ddisgwyl i leoedd ddod ar gael yn y maes parcio.

Nod arall y dull hwn o weithredu yw diogelu bywyd gwyllt gwerthfawr y safle – a gwella profiad ymwelwyr a lleihau tagfeydd.

Bydd Swyddogion Gorfodi Sifil Cyngor Sir Ynys Môn yn dal ati i batrolio a gorfodi mesurau parcio ym mhentref Niwbwrch ac ar yr A4080 Llyn Parc Mawr, a gofynnir i unrhyw un sy’n ymweld â’r ardal i barcio’n ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.

Rydym hefyd yn gofyn i ymwelwyr ystyried ymweld ag un o’r nifer o draethau a chyrchfannau eraill ar Ynys Môn.

Gallwch ddysgu mwy am ymweld yn gyfrifol yn ôl amlinelliad y Cod Cefn Gwlad yn www.cyfoethnaturiol.cymru/cod-cefn-gwlad