Diweddariad ar reoli perygl llifogydd yn Llangefni

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae awdurdodau rheoli perygl llifogydd yn darparu diweddariad ar reoli perygl llifogydd yn Llangefni.

Mae cynllun llifogydd cymunedol ar gyfer yr ardal, sy'n amlinellu gwaith cydweithredol i baratoi ac ymateb i ddigwyddiadau llifogydd yn y dyfodol, yn dal i fod ar waith.

Datblygwyd y cynllun gan gymuned Llangefni, mewn ymgynghoriad â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Sir Ynys Môn a phartneriaid proffesiynol eraill, i sicrhau dull cydgysylltiedig a gwybodus o reoli perygl llifogydd.

O dan y cynllun ac fel rhan o’i rôl, bydd CNC yn parhau i fonitro lefelau afonydd gan reoli risgiau o brif afonydd, yn archwilio Afon Cefni am rwystrau a pherygl llifogydd ac yn parhau i gymryd camau pan fo angen i fynd i’r afael ag unrhyw faterion.

Fel yr awdurdod llifogydd lleol arweiniol, mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd o bob ffynhonnell leol, gan gynnwys dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin.

Bydd y Cyngor Sir a CNC yn parhau i gydweithio ar faterion perygl llifogydd sy’n ymwneud â’r brif afon.

Ar ôl llifogydd yn 2017, comisiynodd CNC astudiaeth i gael dealltwriaeth gliriach o berygl llifogydd presennol ac yn y dyfodol o Afon Cefni, ac i archwilio opsiynau posibl i leihau’r perygl hwnnw.

Roedd y broses hon, a oedd yn seiliedig ar weithdrefnau sefydledig Llywodraeth Cymru, yn cynnwys ymgynghori â'r gymuned, rhanddeiliaid allweddol ac awdurdodau perygl llifogydd gan gynnwys y Cyngor Sir a Dŵr Cymru.

Roedd hefyd yn cynnwys modelu llifogydd wedi'i ddiweddaru, opsiynau dylunio rhagarweiniol ac amcangyfrifon cost.

Er i'r astudiaeth ddod i'r casgliad nad oedd yn bosibl datblygu achos busnes economaidd hyfyw i ariannu cynllun, mae partneriaid yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio ac maent yn agored i archwilio atebion amgen.

Meddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau’r Gogledd-orllewin:

Hoffem ddiolch unwaith eto i’r gymuned a Grŵp Wardeiniaid Llifogydd Llangefni am eu gwaith ar y cynllun llifogydd cymunedol.
Gan weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir, Dŵr Cymru a’r gymuned, mae’r cynllun yn cynnig fframwaith i reoli perygl llifogydd ac yn nodi rolau a chyfrifoldebau.
Er nad yw cynllun gwella llifogydd yn bosibl, mae pryderon yn parhau ynglŷn â pherygl llifogydd gweddilliol yn y dref. Rydym yn parhau i fod yn agored i gydweithredu ag unrhyw sefydliad neu fenter sy'n dymuno datblygu cynigion yn y dyfodol tra'n parhau i weithio gyda phartneriaid i reoli'r risg barhaus yn y ffordd orau.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar raglenni cynnal a chadw ac archwilio asedau, gan ddiweddaru ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth llifogydd cymunedol ac edrych ar y posibilrwydd o system rhybudd llifogydd safle-benodol.
Rydym yn bwriadu edrych ar warchod ar lefel eiddo, ond bydd hyn yn gofyn am fwy o waith, ac yn seiliedig ar adnoddau a chyllid, ni allwn roi amserlen bendant ar gyfer hyn ar hyn o bryd.
Rydym hefyd yn annog pobl i gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd fel y gallant fod yn barod a chymryd camau i ddiogelu eu heiddo cyn unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol.

Mae CNC yn parhau i weithio â thirfeddianwyr i’w hatgoffa o’u cyfrifoldeb i reoli a gofalu am goed sydd ar eu tir fel nad ydynt yn syrthio i’r afon neu’n cyfyngu ar lif dŵr syn gallu cynyddu’r perygl o lifogydd.

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 1 o bob 7 eiddo (272,817) mewn perygl o lifogydd ar hyn o bryd. Dros y ganrif nesaf, gallai 46,000 o gartrefi ychwanegol wynebu mwy o berygl llifogydd o afonydd a’r môr.

Ychwanegodd Sian:

Mae effeithiau newid hinsawdd i’w teimlo ar draws ein cymunedau, gan gynyddu’r perygl o lifogydd.  Ni allwn atal pob llifogydd ond trwy'r blaenoriaethau a nodir yn ein Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd gallwn weithio i leihau risg mewn ardaloedd lle mae gennym gyfrifoldeb arweiniol.
Does dim ateb cyflym i atal llifogydd. Ni allwn adeiladu ein ffordd allan o hyn ac felly mae’n bwysig ein bod yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael yn ein pecyn cymorth perygl llifogydd.

Dywedodd Huw Percy, Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn:

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i barhau i gydweithio â CNC a’r gymuned leol, i wneud y mwyaf o gydnerthedd a lleihau, cyn belled ag sy’n ymarferol bosibl, y perygl o lifogydd sy’n bodoli yn Llangefni.

Gall aelodau o’r gymuned gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd yn Gymraeg ac yn Saesneg drwy Cyfoeth Naturiol Cymru / Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd