Porfeydd unigryw yr iseldir yn noddfa i löyn byw sydd dan fygythiad

glöyn byw Britheg y Gors  ar law agored person

Mae Porfeydd Rhos sy’n fath unigryw o laswelltir yr iseldir ac sydd i’w gael mewn rhannau o Gymru unwaith eto wedi profi i fod yn noddfa gyfoethog i rywogaeth o löyn byw sydd bellach dan fygythiad.

Yn ddiweddar fe gynhaliodd Tîm Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Ngheredigion arolygon hanfodol i fonitro’r glöyn byw Britheg y Gors ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Rhosydd Brynmaen. Mae’r ymdrechion hyn yn rhan o genhadaeth ehangach i warchod y gloÿnnod byw prin hyn a’r rhosydd unigryw y maent yn byw ynddynt.

Mae Porfeydd Rhos yn fath o laswelltir corsiog â chyfoeth o rywogaethau sydd i’w cael mewn ardaloedd iseldirol fel Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a maes glo De Cymru. Mae’r cynefinoedd hyn yn hanfodol i Fritheg y Gors, ac yn amgylchedd delfrydol iddynt oroesi ac atgenhedlu ynddynt. Mae Porfeydd Rhos yn adnabyddus am eu hamrywiaeth o blanhigion a chydbwysedd bregus yr ecosystem maent yn ei chynnal.

Y nod ar gyfer cam cyntaf yr arolygon, a wnaed ddiwedd Mehefin, oedd casglu data hanfodol ar Fritheg y Gors, sy’n ffynnu yn y glaswelltiroedd unigryw hyn. Bydd yr ail gam, a fydd yn cael ei wneud ddiwedd yr haf, yn canolbwyntio ar gyfrif y gweoedd wyau y mae’r gloÿnnod byw hyn yn eu dodwy, a bydd hynny’n bwrw rhagor o oleuni ar iechyd y boblogaeth.

Unwaith yn gyffredin ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, mae dosbarthiad poblogaeth Britheg y Gors wedi chwalu gan 79% ers canol yr 1970au a’u helaethrwydd yng Nghymru wedi cwympo 60%. Mae dirywiad Porfeydd Rhos wedi bod yn ffactor arwyddocaol yn y cwymp hwn. Heddiw, mae gorllewin a de Cymru yn gadarnleoedd hanfodol o hyd i’r rhywogaeth hon sydd mewn perygl.

Yn ystod yr arolwg, gwelodd swyddogion o CNC nifer dda o’r gloÿnnod byw, ac fe wnaethon nhw hefyd ddogfennu’r amrywiaeth o blanhigion sy’n cynnal yr ecosystem hon, gan gynnwys Pys y Ceirw, Tamaid y Cythraul, y Tegeirian Llydanwyrdd a’r Tegeirian Llydanwyrdd Bach, Tegeirian Brith y Rhos, a Charpiog y Gors.

Wrth ystyried yr arolwg, dywedodd Arweinydd Tîm Ceredigion CNC, Dr. Carol Fielding, “Mae bob amser yn bleser treulio’r diwrnod ar Borfa Rhos hardd yn arolygu gloÿnnod byw ac yn gweld y cyfoeth o blanhigion sy’n gwneud Porfeydd Rhos.”
“Fe welon ni niferoedd calonogol o loÿnnod byw, ond welwn ni ddim o’r canlyniadau tan ar ôl i ni gynnal ail hanner yr arolygon ddiwedd yr haf. Roedd canlyniadau’r llynedd yn galonogol, ac ry’n ni’n gobeithio am ganlyniadau tebyg eleni.”
“Mae’n galonogol iawn gweld bod cyflwr y cynefinoedd hynny lle mae gyda ni gytundebau rheoli mewn lle gyda thirfeddianwyr yn gwella,” meddai Dr. Fielding, gan dynnu sylw at effaith gadarnhaol yr ymdrechion hyn ar yr amgylchedd a dyfodol Britheg y Gors.