Strategaeth llythrennedd morol gyntaf y Deyrnas Unedig yn cael ei lansio yng Nghymru
Mae menter newydd dan arweiniad Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (CaSP Cymru) wedi lansio 'Y Môr a Ni' – sef fframwaith ar gyfer Llythrennedd Morol yng Nghymru; y cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig. Nod y strategaeth yw meithrin perthynas pobl â'n harfordiroedd a'n moroedd.
Mae Y Môr a Ni yn cyfuno gwybodaeth a phrofiad 22 o sefydliadau gan gynnwys CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru), Llywodraeth Cymru, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’n dylanwad ar y môr, a dylanwad y môr arnom ni.
Po fwyaf y cysylltiad y mae pobl yn ei deimlo â'r môr, y mwyaf ymwybodol y daw pobl am effeithiau unigolion a chymdeithas ar gynefinoedd arfordirol. Gall hyn arwain at newidiadau ymddygiadol sy’n cyfrannu at ddiogelu a gwarchod y mannau naturiol pwysig hyn - a’r holl fuddion y maent yn eu cynnig inni.
Mae mannau glas, fel y môr a’r arfordir, yn darparu ardaloedd a all wella eich lles corfforol a meddyliol, yn ogystal â darparu amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau - gyda rhai ohonynt i’w cael yn y Deyrnas Unedig yn unig.
Mae'r amgylcheddau morol hyn yn cefnogi diwydiannau lleol, yn cyfrannu at y sectorau bwyd ac ynni, ac yn darparu swyddi - yn enwedig mewn mannau poblogaidd o ran twristiaeth.
Mae ein moroedd - a'r holl fuddion a ddarperir ganddynt - yn wynebu bygythiadau o sawl cyfeiriad, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd a llygredd. Bwriad Y Môr a Ni yw galluogi unigolion, cymunedau, a busnesau i newid eu perthynas â’r môr, gan arwain at gamau - rhai mawr a rhai bach - a all gefnogi llesiant yn lleol, yn ogystal â diogelu’r amgylcheddau arbennig hyn.
Dywedodd Kirsty Lindenbaum, uwch gynghorydd arbenigol yn CNC:
“Mae ein harfordiroedd a’n moroedd wedi llywio bywydau pobl Cymru ers milenia ac maent yn rhan bwysig o’n dyfodol.
“Rydym yn falch o fod yn gweithio fel rhan o'r bartneriaeth amrywiol hon i gryfhau cysylltiadau pobl Cymru â'r môr.
“Wrth weithio gyda’n gilydd, rydyn ni am alluogi pawb yng Nghymru i fwynhau ein moroedd, a gofalu amdanynt.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Mae fframwaith newydd Cynghrair Llythrennedd Morol Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn hanfodol er mwyn helpu mwy o bobl i ddeall pwysigrwydd y môr, ei ddylanwad ar ein bywydau bob dydd, a sut y gall ein gweithredoedd effeithio arno.
'Mae'r môr o fudd i'n hiechyd a'n lles, egni, pysgota a dyframaeth, a chymaint mwy. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith cydweithredol hwn i ddiogelu ein hecosystemau morol ac arfordirol hanfodol.
"Dywedodd Reece Halstead, Cydlynydd Llythrennedd Morol Cymru yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:
“Mae wedi bod yn fraint gweld undod a brwdfrydedd partneriaid o bob rhan o Gymru wrth ddatblygu Strategaeth Llythrennedd Morol gyntaf y Deyrnas Unedig.
“Mae Y Môr a Ni yn gam mawr ymlaen yn y genhadaeth i warchod moroedd Cymru a’n bywyd gwyllt - a’r nod yw datblygu’r cysylltiad sydd gan bob dinesydd gyda’n hamgylchedd morol hardd.”
Mae Y Môr a Ni wedi bod yn cael ei ddatblygu ers 2022, a bydd ei lansiad swyddogol yn dechrau gyda nifer o ddigwyddiadau trwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror yn ogystal â dau ddigwyddiad yng Ngŵyl y Môr yn
Bydd diweddariadau am y prosiect ar gael ar wefan Y Môr a Ni a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnodau #YMôraNi a #TheSeaAndUs.