Ailblannu coed yn mynd rhagddo yn Bont Evans
Mae bron i 12,000 o goed brodorol wedi cael eu plannu uwchben priffordd brysur yng Nghanolbarth Cymru fel rhan o brosiect Gwaith Coed a Sefydlogi Llechwedd Bont Evans.
Mae hyn yn dilyn prosiect mawr i gwympo coed yn 2019, a gliriodd coed conwydd enfawr ac ansefydlog o lethr serth uwchben yr A487, i'r gogledd o Fachynlleth.
Roedd llawer o'r conwydd – a oedd yn 40 metr o daldra ac yn pwyso 12 tunnell – yn risg uchel i bobl, ceir, adeiladau a ffyrdd islaw.
Bydd rhywogaethau llydanddail brodorol – gan gynnwys ceirios gwyllt, derw digoes, drain gwynion, coed criafol a bedw cyffredin – yn cael eu plannu yn lle'r coed conwydd dros y ddwy flynedd nesaf.
Pan fydd y prosiect wedi ei gwblhau, bydd 35,000 o goed wedi cael eu plannu ar y safle a fydd yn dod yn hafan i bryfed, adar a mamaliaid bach megis pathewod, gan gysylltu â chynefinoedd bywyd gwyllt eraill yn nyffryn Dulas.
Dywedodd Jared Gethin, Rheolwr Prosiect ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):
“Trwy blannu coed llydanddail llai, sy'n tyfu'n arafach, ar rannau mwy gwastad y safle, rydym yn adfer yr ardal hon yn goetir hynafol ac ar yr un pryd yn lleihau'r risg y bydd yr un broblem yn codi eto.
“Yn ystod y gwaith cwympo, cafodd coed a llwyni brodorol eu gadael yn eu lle pan oedd hynny'n bosibl, a chafwyd gwared â llwyni goresgynnol, megis rhododendron, er mwyn rhoi'r dechrau gorau posibl i'r coetir newydd hwn.”
Dywedodd Simon Quincey, Dirprwy Gadeirydd Cyngor Cymuned Corris:
“Mae'r modd y cafodd contract Gwaith Coed a Sefydlogi Bont Evans ei gyflawni wrth glirio’r coed conwydd mawr uwchben Pont Evans wedi creu argraff fawr ar Gyngor Cymuned Corris.
“Cafwyd llawer llai o effaith na'r disgwyl ar y gymuned a'r traffig wrth i'r contract gael ei gwblhau. Ni chafwyd y tywydd gorau, ond cyflawnwyd y prosiect o fewn yr amserlen a ragwelwyd a chyda chyn lleied o lanast â phosibl.
“Yn fwyaf arwyddocaol, ni chafodd yr un gŵyn ei chofrestru gyda'r cyngor hwn.
“Mae'r cyngor yn edrych ymlaen at yr adeg pan fydd y rhaglen ail-blannu wedi dod i ben gyda rhywogaethau lleol yn cael eu hadfer. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau mewn modd proffesiynol ac amgylcheddol gadarn.
“Hoffem ganmol y staff am y canlyniad boddhaol iawn hwn.”
Er na fydd coed yn cael eu plannu ar y rhan mwyaf serth, bydd grug a llus yn rhydd i dyfu.
Mae coed marw a bonion rhydd, sy'n hanfodol i bryfed a ffyngau, wedi cael eu gadael ar rannau o'r safle.
Cafodd y pren a dorrwyd ei werthu i fasnachwyr, a bydd yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi'r diwydiannau adeiladu, amaethyddiaeth a thanwydd coed.
Cynhyrchwyd gwerth tua £500,000 o bren, a bydd yr arian hwn yn cael ei ail-fuddsoddi yn Ystad Coetir Llywodraeth Cymru.