Plannu Coed i Gefnogi Ecosystem Afon Dyfrdwy

Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi bod yn cydweithio â busnes lleol i blannu coed a fydd yn helpu i adfywio ecosystem Afon Dyfrdwy a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Ar 20 Chwefror, plannwyd tua 200 o goed wrth gymer afon Ceiriog ac afon Dyfrdwy fel rhan o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy. Mae’r fenter hon yn gydweithrediad rhwng prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, sef prosiect a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac Adventure Tours UK, a’r nod yw gwella bioamrywiaeth yn lleol a chefnogi iechyd afon Dyfrdwy.

Mae’r ymdrech blannu ddiweddaraf yn ategu’r 20,000 o goed sydd eisoes wedi’u sefydlu ar draws y dalgylch o dan brosiect LIFE Afon Dyfrdwy. Fel safle, dewiswyd fferm ble mae’r prosiect eisoes wedi rhoi nifer o fesurau ymyrryd ar waith, er enghraifft ffensys a chafnau dŵr solar, a gwnaed hynny â gofal mewn cytundeb â’r tirfeddiannwr yn dilyn pedair blynedd o gydweithio llwyddiannus.

Bydd y coed newydd yn dod â nifer o fuddion i ecosystem yr afon. Drwy sefydlogi glannau a arferai gael eu pori’n ddwys, byddant yn cyfyngu ar erydiad ac yn lleihau effaith llygryddion i’r dŵr. Yn ogystal, bydd y coed yn creu ardaloedd cysgodol i ymateb i’r cynnydd yn nhymheredd y dŵr, sy’n hanfodol er mwyn i rywogaethau dŵr oer fel eogiaid oroesi.

Dros amser, bydd dail a changhennau sy’n cwympo o’r coed newydd yn cyfrannu at strwythur yr afon a’i ffynonellau bwyd, a bydd hynny o fudd i boblogaethau o bysgod ac infertebratau. Y tu hwnt i’w rôl ecolegol, bydd y coed hefyd yn atafaelu carbon, gan helpu i liniaru newid hinsawdd.

Dywedodd Joel Rees-Jones, Rheolwr Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy ar gyfer CNC:

“Ry’n ni wrth ein bodd i fod yn cydweithio ag Adventure Tours UK ar y fenter hon i blannu coed. Mae coed yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wella iechyd afon Dyfrdwy, o sefydlogi glannau’r afon a chynnig cysgod i gyfyngu ar lygryddion a chynnal bywyd gwyllt.
“Mae partneriaethau fel hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nodau cyffredin o adfer a gwarchod y dalgylch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ychwanegodd Clare Copeman, Adventure Tours UK:

“Ry’n ni’n gyffrous iawn i fod yn bartner gyda’r tîm yn Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi prosiect LIFE Afon Dyfrdwy. Fel busnes B-Corp ardystiedig, mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen yn ein cenhadaeth i wella bioamrywiaeth leol ar yr un pryd â lliniaru effaith carbon ein teithiau, wrth i ni barhau i weithio tuag at gyflawni ein Cynllun Argyfwng Hinsawdd. Ry’n ni eisoes wedi creu coetir brodorol newydd yn Nhy’n-y-Pistyll ym Mharc Gwledig Moel Famau trwy ein partneriaeth agos â Thirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ac ry’n ni’n falch o allu ymestyn ein cefnogaeth nawr i brosiect cadwraeth hanfodol arall yn agos at ein cartref yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Bob amser yn awyddus i gynnig help llaw, roedd ein staff, ein cleientiaid a’n gwesteion yn awyddus i dorchi eu llewys a sicrhau y câi pob coeden ei phlannu â gofal.”