Effaith Storm Darragh ar goetiroedd CNC

Ardal mawr o goed wedi cwympo gan wynt,  Coedwig Mynydd Du ger Crucywel

Wrth i'r genedl barhau i adfer o effeithiau sylweddol gwyntoedd 90mya a glaw yn ystod Storm Darragh (7 ac 8 Rhagfyr), mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn parhau â'r dasg heriol o asesu'r difrod i'w goedwigoedd a'i warchodfeydd natur a’n gweithio’n galed i atgyweirio’i safleoedd i ymwelwyr allu dychwelyd.

Mae rheolwyr tir CNC wedi bod yn gweithio'n galed ledled Cymru ers y storm i asesu'r difrod i'r tir sydd dan ei ofal, gan flaenoriaethu clirio coed sydd wedi rhwystro mynediad i gartrefi, a galluogi gwasanaethau brys a chyfleustodau i adfer pŵer a gwasanaethau i'r cyhoedd.

Ymddengys bod y storm wedi cael cryn dipyn o effaith ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru gyda llawer o goed wedi cwympo.

Mae gwerth cilomedrau o ffyrdd coedwig, llwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd wedi’u rhwystro gan goed a changhennau - bydd yn cymryd cryn amser i glirio popeth. 

Wrth i’r gwaith pwysig hwn i adfer mynediad i lwybrau barhau, cynghorir pobl ar hyn o bryd i beidio â theithio i goedwigoedd a gwarchodfeydd CNC. Er bod canolfannau ymwelwyr yn ailagor yn raddol yn dilyn y storm, dylai pobl edrych ar wefan CNC cyn cynllunio ymweliad gan y gallai fod angen cau meysydd parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i waith adfer fynd rhagddo. 

Bydd y gwaith adfer yn canolbwyntio ar sicrhau bod llwybrau a ffyrdd coedwig yn hygyrch. Dylai ymwelwyr ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ar arwyddion neu gan staff lleol, gan gynnwys am unrhyw ddargyfeiriadau neu unrhyw lwybrau sydd ar gau. Hefyd, byddwch yn wyliadwrus o beryglon o ran coed a changhennau’n cwympo.

Dywedodd Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau y Canolbarth i CNC:

"Effeithiodd Storm Darragh ar gymunedau ledled Cymru, gyda miloedd o gartrefi ledled Cymru yn profi toriadau pŵer, a chymunedau wedi eu heffeithio gan goed wedi cwympo a llifogydd. Rydym yn cydymdeimlo â’r bobl sydd wedi'u heffeithio.
"Mae'r storm wedi cael effaith sylweddol ar y tir yn ein gofal ni hefyd. Aeth llawer iawn o waith i baratoi ar gyfer Storm Darragh, ac ymateb iddo - ac mae'r tywydd gwell yr wythnos hon wedi ein galluogi i ddechrau gwaith adfer. 
"Rydym yn asesu'r difrod ar ein safleoedd. Y flaenoriaeth i'n rheolwyr tir a'n contractwyr yw clirio ffyrdd a llwybrau sydd wedi'u blocio. Ond bydd hyn yn cymryd peth amser. Mae'n debygol y bydd yr hyn a brofwyd yn effeithio ar weithrediadau mewn coedwig a gwaith cynaeafu arfaethedig am yr ychydig flynyddoedd nesaf.
"Wrth i ni ymgymryd â'r gwaith pwysig hwn i gael eich llwybrau yn ôl i'r arfer, cynghorir y rhai sy'n eu defnyddio ar gyfer hamdden i beidio â theithio i'n safleoedd ar hyn o bryd.
"Rydym yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am statws safleoedd a llwybrau penodol ar ein gwefan, ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ar arwyddion neu gan staff lleol, gan gynnwys am ddargyfeiriadau neu lwybrau sydd ar gau - a byddwch yn wyliadwrus o beryglon o ran coed neu ganghennau’n cwympo."

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddargyfeiriadau neu bethau sydd ar gau yn ein canolfannau ymwelwyr, coedwigoedd neu warchodfeydd natur ar y dudalen Lleoedd i ymweld.