Prosiect Rainscape Abertawe yn gosod safon newydd ar gyfer cymunedau sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd

Mae ardal drefol sy'n dueddol o ddioddef llifogydd y tu allan i ysgol gynradd yn Abertawe wedi cael ei thrawsnewid yn ddatrysiad bywiog, sy'n seiliedig ar natur, ar gyfer rheoli dŵr glaw, hybu bioamrywiaeth a gwella mynediad.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Urban Foundry, a chymuned Sandfields, yn falch o nodi cwblhau prosiect trawsnewidiol RainScape yn Ysgol Gynradd San Helen.
Mae'r cynllun arloesol hwn yn ailddychmygu sut y gall mannau trefol reoli dŵr glaw, cefnogi bioamrywiaeth a chreu llwybrau mwy diogel a hygyrch ar gyfer cerdded a beicio.
Mae'r prosiect wedi darparu 12 gardd law, palmentydd athraidd ac elfennau chwareus a gynlluniwyd gyda'r gymuned ac ar ei chyfer. Mae wedi darparu atebion sy'n seiliedig ar natur, sy'n arafu, yn glanhau ac yn amsugno dŵr glaw, gan leihau'r risg o lifogydd, ysgafnhau'r pwysau ar garthffosydd cyfun, a gwella ansawdd dŵr i lawr yr afon.
Meddai Fran Rolfe, Arbenigwr Seilwaith Gwyrdd, CNC:
“Mae RainScape Abertawe yn dangos yr hyn sy’n bosibl pan fydd cymunedau a sefydliadau partner yn dod at ei gilydd. Nid rheoli dŵr yw’r unig nod, mae’r prosiect hefyd yn ymwneud â chreu lleoedd lle mae natur a phobl yn ffynnu ochr yn ochr. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gosod y duedd ar gyfer prosiectau tebyg ledled Cymru.”
Mae'r cynllun hefyd yn gwella mynediad i Ysgol San Helen am y tro cyntaf ers 150 mlynedd, gyda nodweddion dylunio cynhwysol sy'n adlewyrchu anghenion teuluoedd lleol. Mae ymylon pren wedi'u codi, pyst cynefin i wenyn, a phlanhigion bioamrywiol yn creu gofod sy'n addysgiadol, yn ymarferol, ac yn brydferth.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd a Seilwaith:
“Mae’r prosiect hwn yn ffordd ardderchog o wella cymunedau lleol, annog balchder dinesig a datblygu cysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy gwell i bobl leol. Mae'n fodel rhagorol o sut y gallwn fynd i'r afael â llifogydd, hyrwyddo teithio egnïol ac adeiladu gwydnwch hinsawdd mewn ffordd sy'n hwyl, yn gynhwysol, ac yn cael ei harwain gan y gymuned.”
Meddai Athro Ben Reynolds, o Urban Foundry:
“Bu Urban Foundry yn gweithio’n agos â CNC, Cyngor Abertawe a’r gymuned i wneud y prosiect hwn yn llwyddiant. Roedd y bartneriaeth hon yn allweddol – ac roedd yn cyfuno arbenigedd â gwybodaeth leol a chreadigrwydd. Fe wnaethon ni gynnwys plant, athrawon a theuluoedd o'r cychwyn cyntaf a chreu rhywbeth sydd nid yn unig yn rheoli dŵr glaw ond sydd hefyd yn cryfhau'r cysylltiad rhwng pobl a natur. Mae'r math hwn o gydweithio yn dangos gymaint mwy y gallwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd ar gyfer gwydnwch hinsawdd a lles cymunedol.”
Chwaraeodd y gymuned rôl ganolog drwyddi draw, o’r gwaith o lunio'r dyluniad i ddathlu'r cyffyrddiadau olaf.
Yn ôl Amina Yusuf, rhiant lleol, mae'r effaith yn cael ei theimlo’n barod. Amina Meddai:
“Cyn hyn, dim ond ffordd wedi’i blocio a phwll dŵr enfawr oedd yma. Nawr mae'n ardal heddychlon, hardd lle gall fy mhlant chwarae a lle gallaf innau gael hoe fach ar ôl gwaith. Mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n bywyd bob dydd.”
Wrth i Gymru barhau i wynebu heriau newid hinsawdd, mae RainScape Abertawe yn cynnig glasbrint ar gyfer sut y gall dylunio trefol addasu ar gyfer newid hinsawdd, natur a'r gymuned.
Ariannwyd y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru drwy'r Grant Teithio Llesol, Cyllid Mannau Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, Rhaglen Gyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru a ddarperir gan CNC ac Ymddiriedolaeth Menter Deuluol Wates (cywir).