Effaith Storm Darragh ar dir preifat ac eithriadau Deddf Coedwigaeth
Mae'r gwyntoedd cryfion digynsail o ganlyniad i Storm Darragh wedi cael effaith sylweddol ac wedi achosi colledion di-ri i goed, coetiroedd a choedwigoedd ledled Cymru ac mae ein meddyliau gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt wrth i'r broses adfer ddechrau.
At ei gilydd yng Nghymru, o dan y Ddeddf Coedwigaeth, mae angen trwydded gwympo coed gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cwympo coed sy'n tyfu oni bai eu bod yn cael eu cynnwys gan eithriad o dan y Ddeddf.
Os ydych chi'n hawlio eithriad rhag y gofyniad i geisio trwydded cwympo coed (er enghraifft, pan fo coed yn achosi perygl uniongyrchol), eich cyfrifoldeb chi yw cofnodi unrhyw dystiolaeth o sut mae'n berthnasol i'r gwaith cwympo rydych chi'n bwriadu ei wneud. Rydym yn cynghori'n gryf eich bod yn tynnu nifer o luniau o unrhyw sefyllfa lle rydych yn hawlio eithriad ac yn cofnodi penderfyniadau a wnaed yn eich asesiad risg a'ch datganiad dull ar gyfer y dasg, ac yn cadw'r cofnodion hyn am o leiaf tair blynedd.
Mae gwaith cwympo coed sy'n angenrheidiol er mwyn atal perygl neu leihau niwsans yn cael ei gynnwys gan eithriad. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod perygl gwirioneddol ac uniongyrchol, yn hytrach na risg ganfyddedig a allai ddatblygu’n berygl yn y dyfodol. Enghraifft o hyn fyddai atal perygl uniongyrchol i lwybr troed, ffordd neu eiddo.
Mae eithriad arall yn bodoli ar gyfer coed sydd wedi’u cwympo gan neu ar gais ymgymerwyr statudol (megis cwmnïau pŵer a dŵr) lle mae'r coed wedi chwythu dros linellau pŵer a neu’n cael eu chwythu ar draws ffyrdd a thraciau sydd eu hangen er mwyn cyrraedd y llinell yn ddiogel.
Os nad ydych yn siŵr a oes eithriad yn bodoli, yna rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymgynghori â gweithiwr coedwigaeth proffesiynol neu’n ceisio trwydded gwympo.
Mae angen i dirfeddianwyr ac asiantau coedwigaeth ystyried y risg y gallai coed sy'n cael eu chwythu i lawr gan y gwynt fod yn agored i blâu a phathogenau coed. Gellir rhoi gwybod am unrhyw bryderon drwy ddefnyddio Treealert https://www.forestresearch.gov.uk/tools-and-resources/fthr/tree-alert/
Cyhoeddodd y Forest Industry Safety Accord (Hafan) ganllawiau craidd sy'n rhoi gwybodaeth i'r rhai sy'n gweithio ym maes Coedwigaeth gan amlinellu’n glir y cyfarwyddyd ar reoli Iechyd a Diogelwch mewn Coedwigaeth a nodi rolau a chyfrifoldebau. Mae hyn yn cwmpasu ystod o bynciau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Gynllunio Argyfwng, Trydan yn y Gwaith, Gweithio ger Rheilffyrdd, Defnyddio Llif Gadwyn i glirio Coed sydd wedi’u chwythu i lawr.
Gellir gweld y rhestr lawn o eithriadau yma Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch