Hwb i fywyd gwyllt arbennig wrth i brysgwydd gael ei dynnu o dwyni Pen-bre
Ym mis Rhagfyr eleni, bydd ardaloedd mawr o blanhigion ymledol - gan gynnwys helyg y môr sy'n niweidio iechyd y system twyni tywod eiconig - yn cael eu symud. Bydd hyn yn helpu i greu amgylchedd gwell ar gyfer bywyd gwyllt a phlanhigion prin, ac yn sicrhau bod y dirwedd arfordirol hon yn gallu gwrthsefyll heriau'r dyfodol, fel newid yn yr hinsawdd, yn well.
Rhestrir twyni tywod arfordirol fel y math o gynefin sy’n wynebu’r perygl mwyaf o golli bioamrywiaeth yn Ewrop, ac mewn llawer o achosion mae’r dirywiad mewn iechyd cynefinoedd yn deillio o dwf llystyfiant nad yw’n cael ei reoli. Mae prysgwydd yn mygu'r twyni tywod ac yn cael effaith ddinistriol ar y planhigion a'r infertebratau arbennig sy'n byw yno, gyda llawer ohonynt wedi addasu i fyw mewn tywod noeth neu dywod sy’n symud.
Mae’r arfordir o amgylch Pen-bre yn gartref i 20% o holl blanhigion Cymru ac mae’n cynnwys system twyni tywod mawr sy’n wynebu problemau gyda gormod o lystyfiant ar hyn o bryd. Mae tryslwyni trwchus o helyg y môr - planhigyn sy'n tyfu'n gyflym ac nad yw'n frodorol i arfordir Cymru - yn broblem arbennig. Os na chaiff twf prysgwydd ei reoli, bydd yn achosi i rywogaethau fel madfallod, tegeirianau a phansïau twyni ddioddef a hyd yn oed ddiflannu o'r twyni tywod hyn.
Y gaeaf hwn bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cael gwared ar helyg y môr anfrodorol trwchus, gan ddefnyddio peiriannau arbenigol mawr o ardaloedd twyni Coedwig Pen-bre a Pharc Gwledig Pen-bre i helpu bywyd gwyllt i ffynnu.
Ymgymerir â’r gwaith hwn fel rhan o’r prosiect Twyni ar Symud, a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac a ddarperir yng Nghymru gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae CNC yn gweithio ym Mhen-bre gyda Gwasanaeth Hamdden Awyr Agored Cyngor Sir Caerfyrddin i wella cyflwr y twyni hyn ar gyfer bywyd gwyllt.
Bydd cam cyntaf y gwaith hwn yn digwydd ym Mharc Gwledig Pen-bre ger Maes Parcio 8 ac yn agos at hen faes parcio’r pysgotwr a bydd yr ail yn digwydd ar y blaendwynni sy’n eiddo i CNC o flaen y goedwig. Bwriedir iddo ddechrau ar 5ed Rhagfyr a bydd yn para am bythefnos. Bydd Heol y Ffatri ar gau dros dro y tu allan i'r Parc Gwledig am wythnos – gan ailagor ar 10fed Rhagfyr.
Dywedodd Hannah Lee, Swyddog Ymgysylltu Cymru ar gyfer Twyni ar Symud:
“Mae gallu clirio prysgydd trwchus a rhywogaethau ymledol fel helyg y môr o safle fel hwn yn bwysig iawn i sicrhau bod gan y lle hardd hwn ddyfodol llewyrchus. Mae'n creu lle i'r holl rywogaethau anhygoel sydd ond yn gallu byw mewn cynefinoedd twyni tywod, ac mae'r gwaith hwn yn atal y llystyfiant rhag ysgubo ar draws rhannau helaeth o'r twyni yn y blynyddoedd i ddod - maen nhw'n blanhigion all dyfu'n gyflym iawn os nad ydyn ni’n eu rheoli.”
Bydd cael gwared â phrysgwydd yn helpu i adfer y mathau o gynefinoedd sydd eu hangen ar y rhywogaethau hyn, a bydd y gwaith hwn yn chwarae rhan i sicrhau bod gan dwyni Pen-bre ddyfodol iach, bioamrywiol. Bydd gwella'r cyflwr ecolegol yma yn cynyddu gallu'r dirwedd arfordirol hon i wrthsefyll bygythiadau eraill, megis tywydd eithafol ac amodau newidiol a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Dywedodd Ruth Harding, Uwch Swyddog yr Amgylchedd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae rheoli helyg y môr yn bwysig i wella cynefinoedd glaswelltir y twyni ym Mhen-bre. Mae Cyngor Sir Gâr a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal y math hwn o reolaeth cynefinoedd dros nifer o flynyddoedd sydd wedi arwain at adfer yr ardal yn laswelltir twyni sy'n gyfoethog gyda gwahanol rywogaethau o blanhigion. Gallwch chi fwynhau hyn orau yn ystod misoedd yr haf o fewn Gwarchodfa Natur Leol Twyni a Halwyndiroedd Pen-bre. Fel rhan o Dwyni ar Symud, rydym nawr yn parhau â’r gwaith hwn, a fydd yn arwain at gynnydd cyffredinol yng nghynefin glaswelltir y twyni.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Gareth John:
“Rydym yn falch o allu parhau â’r gwaith pwysig o ddychwelyd ein twyni i gyflwr a fydd yn caniatáu i fioamrywiaeth briodol twyni tywod wella. Mae cael gwared ar Helyg y Môr ymledol yn hanfodol i'r broses hon ac, er y gallai'r gwaith cychwynnol edrych yn llym, mae angen sicrhau bod cymaint â phosibl o'r llwyni dygn hyn yn cael ei symud ymaith.
“Bydd tarfu ar y ddaear yn bywiogi’r gwely hadau presennol, gan arwain at amrywiaeth eang o flodau gwyllt a gweiriau yn ailsefydlu ac yn dechrau’r broses o gynyddu bioamrywiaeth y twyni ym Mhen-bre.”
Nid Twyni ar Symud yw’r unig brosiect sy’n gweithio i adfer twyni tywod pwysig Pen-bre. Mae prosiect Sands of LIFE yr UE a ariennir gan LIFE, a reolir gan CNC, hefyd wedi bod yn rheoli twyni tywod i wella amodau ar gyfer bywyd gwyllt yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r ddau brosiect yn gweithio'n agos i adeiladu ar waith ei gilydd a'i gefnogi.