Ail flwyddyn prosiect olrhain eogiaid yn cychwyn ar afon Wysg
Mae prosiect sydd â’r nod o olrhain eogiaid arian wrth iddynt fudo ar hyd afon Wysg wedi dechrau ar ei ail flwyddyn wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) barhau i fynd i’r afael â dirywiad y rhywogaeth - a hynny drwy nodi'r heriau sy'n wynebu’r eogiaid ar eu taith i'r môr.
Mae'r prosiect, a gefnogir gan Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg, yn golygu dal hyd at 100 o eogiaid arian y flwyddyn - a'u tagio â throsglwyddyddion acwstig sy'n pingio ar amledd uchel yn rheolaidd.
Eogiaid ifanc sy’n paratoi i fudo i'r môr yw eogiaid arian. Mae'r trosglwyddyddion yn rhoi cipolwg ar eu symudiadau, yn ogystal â darparu data sy'n gysylltiedig â chyfraddau goroesi ac ymddygiad mudo, gan helpu i lywio gwaith rheoli eogiaid a gwaith cadwraeth yn y dyfodol.
Ym mlwyddyn gyntaf y prosiect y llynedd (2021), arweiniodd Mis Mai anarferol o wlyb at flwyddyn dda debygol o ran llwyddiant mudo. Llwyddodd o leiaf 67% o'r eogiaid arian a dagiwyd i wneud y daith can cilomedr a mwy o hyd, o'r safle tagio ar ran uchaf yr afon i Aber Afon Hafren. Yr amser teithio unigol cyflymaf o’r safle monitro i fyny'r afon o Aberhonddu i'r safle monitro terfynol yn yr aber yng Nghasnewydd (taith 95.6 cilomedr o hyd) oedd 36.22 awr.
Dywedodd Oliver Brown, Swyddog Dyframaeth, sy'n arwain y prosiect ar ran CNC:
Mae niferoedd eogiaid – yn rhai hen ac ifanc – ar eu hisaf erioed yn afonydd Cymru, yn ogystal â rhannau eraill o'r byd, ac mae'n rhaid i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i'w cadw a diogelu goroesiad y rhywogaeth eiconig hon.
Bydd y prosiect yn rhoi syniad da i ni o'r hyn sy'n digwydd i'r pysgod hyn ar adeg dyngedfennol yn eu cylch bywyd. Yn flaenorol, nid oeddem yn gwybod faint o eogiaid arian oedd yn cyrraedd y môr, felly mae'r prosiect hwn yn rhoi syniad da i ni o gyfraddau goroesi, yn ogystal â'n helpu i ddeall sut y gallai rhwystrau canfyddedig – gwaelodion pontydd neu goredau er enghraifft – effeithio ar fudo.
Gan ddysgu o'r canlyniadau ym mlwyddyn un, rydym wedi defnyddio 15 derbynnydd ychwanegol ar hyd Afon Wysg eleni, gan ddod â'r cyfanswm i 46, i helpu i gynyddu cywirdeb y data. Rydym hefyd wedi addasu ein methodoleg trapio i gynyddu effeithlonrwydd.
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg gyda’r prosiect hwn. Yn y pen draw, bydd y wybodaeth a'r data a gasglwn yn llywio ein gwaith cydweithredol ym maes cadwraeth eogiaid, a fydd yn amhrisiadwy yn ein hymdrechion i fynd i'r afael ag achos y dirywiad yn y boblogaeth yn y tymor hir.