Cynllun i gynorthwyo llwybr naturiol pysgod yng nghored Rhydaman

Mae addasiadau arbennig wedi’u gwneud i gored ar Afon Llwchwr a oedd yn atal pysgod rhag cyrraedd eu mannau magu, diolch i brosiect gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Am flynyddoedd lawer, roedd pysgod a oedd yn teithio i fyny’r afon o’r môr yn ei chael hi’n anodd iawn i basio dros y gored goncrit yn Rhydaman, a oedd yn eistedd tua metr uwchlaw lefel yr afon.

Nawr, mae cyfres o risiau bychain wedi’u gosod o flaen y gored er mwyn caniatáu i rywogaethau o bysgod mudol, fel eogiaid, sewin, llysywod a llysywod pendoll, basio yn ddiogel. Mae hyn wedi lleihau’r gwahaniaeth uwchlaw’r dŵr i lai na 30cm.

Nid oedd y gored ei hun yn addas i’w thynnu, gan ei bod yn cynnal gorsaf fesur ar yr afon, a phibell garthffosiaeth oddi tani.

Meddai Dave Charlesworth, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Pysgodfeydd Dŵr Croyw CNC:
“Flynyddoedd lawer yn ôl, roedd hi’n gyffredin rhoi coredau mewn afonydd am nifer o wahanol resymau, ond dros amser maen nhw wedi gadael afonydd tameidiog ar eu holau ac wedi arwain at golli cynefinoedd gwerthfawr i bysgod.
“Mae ein gwaith i addasu cored Rhydaman wedi gwella mynediad i bysgod at tua 20km o gynefin newydd mewn lleoliad gwych o ran tiroedd silio, a fydd o fudd i eogiaid a rhywogaethau eraill.
“Mae’r prosiect yn rhan o’n rhaglen adfer afonydd ehangach yng Nghymru, sydd â’r nod o adfer prosesau naturiol afonydd ac ailgyflwyno cynefinoedd sydd wedi’u colli yn sgil gweithgareddau pobl yn hanesyddol.”

Mae poblogaethau eogiaid yng Nghymru a ledled y DU o dan bwysau cynyddol yn sgil nifer o ffactorau, gan gynnwys newid hinsawdd ac ansawdd dŵr a chynefinoedd. Ar y rhan fwyaf o afonydd Cymru, mae poblogaethau o eogiaid bellach wedi’u dosbarthu’n ffurfiol fel rhai sydd ‘Mewn Perygl’.

Addasiadau ffisegol i afonydd, fel coredau, yw’r prif reswm o hyd pam y mae llawer o afonydd yn methu â chyrraedd statws ecolegol da, oherwydd yr effaith a gânt ar gynefinoedd a rhywogaethau.

Ariannwyd y prosiect yn Rhydaman gan Raglen Cyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru a chostiodd tua £350,000.

Y flwyddyn ariannol hon mae CNC wedi ymrwymo i wario £15m drwy’r Rhaglen Cyfalaf Dŵr, sy’n cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer afonydd, lliniaru effeithiau mwyngloddiau metel, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr.