Cwblhau gwaith diogelwch yn un o gronfeydd dŵr Eryri
Mae gwaith i sicrhau diogelwch hirdymor cronfa ddŵr yn Eryri wedi cael ei gwblhau.
Lleolir cronfa ddŵr Llyn Tynymynydd yng Nghoedwig Gwydir ger Betws-y-Coed, a golyga’r gwaith y bydd modd iddi allu gwrthsefyll digwyddiadau tywydd eithafol yn well.
Roedd y gwaith hwn, a wnaed ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gan y Brodyr Jones (contractwyr peirianneg sifil), yn cynnwys cryfhau argloddiau ac adeiladu gorlifan newydd i gludo dŵr yn ddiogel o’r gronfa ddŵr i nant leol.
Gan fod y gwaith hwn wedi’i leoli mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), cafodd ei wneud mewn modd sensitif a bellach mae’n helpu i gynnal lefel y dŵr yn y cynefin gwlyptir hwn – sy’n safle o bwysigrwydd cenedlaethol.
O amgylch y gronfa ddŵr ceir llecynnau o fawn dwfn sy’n doreithiog o laswellt y gweunydd, helyg Mair a grug croesddail. Hefyd, ceir pyllau’n llawn o hesg gylfinfain, marchrawn y dŵr, ffa’r gors a phlu’r gweunydd, y mae gweision y neidr yn ymweld â nhw.
Medd Andrew Basford, Rheolwr Prosiectau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: “Caiff cronfeydd dŵr eu harchwilio’n rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod yn ddiogel, ac fe ddeilliodd y gwaith yma o archwiliad o’r fath.
“Mae’r gwaith wedi’i gwblhau’n ôl safon uchel, gan sicrhau diogelwch y gronfa ddŵr a chyfanrwydd y SoDdGA yn yr hirdymor.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i drigolion yr ardal am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith – bu hyn yn help garw inni gwblhau’r gwaith o fewn y pedwar mis y neilltuwyd ar ei gyfer.”
Medd Mike Davies, uwch reolwr contractau cwmni’r Brodyr Jones. “Bu’n bleser gweithio gyda CNC unwaith eto i gwblhau’r prosiect hollbwysig hwn yng Nghonwy.
“Yn ystod y gwaith, aethom ati i sicrhau bod eiddo preifat yn cael cyflenwad dŵr parhaus o’r gronfa, gan weithio gydag archeolegydd ac ecolegydd i sicrhau bod nodweddion SoDdGA’r ardal yn cael eu gwarchod a’u cyfoethogi.
“Fe wnaethom fewnforio rhyw 1,500 tunnell o glai a 1,000 tunnell o amddiffynfeydd meini ar gyfer y gwaith ar yr orlifan. Bydd y rhain yn llyncu grym y dŵr ac yn arafu ei lif, gan helpu i amddiffyn rhag erydu yn y dyfodol.”
Mae’r gwaith hwn yn rhan o ddyletswydd CNC i reoli ei gronfeydd dŵr yn ddiogel dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, ac mae’n rhan o raglen ehangach o waith ar ddiogelwch cronfeydd dŵr ledled Cymru.
Ceir mwy o wybodaeth gefndir a fideos yma – https://naturalresources.wales/about-us/our-projects/reservoir-safety-projects/gwydir-reservoirs/?lang=cy