Dyluniad Adweithydd Modiwlaidd Bach Rolls-Royce yn cwblhau ail gam yr asesiad rheoleiddio

Mae dyluniad Adweithydd Modiwlaidd Bach 470 MWe Rolls-Royce SMR Limited wedi cwblhau Cam 2 o Asesiad Dylunio Generig.

Heddiw, cyhoeddodd y Swyddfa Reoleiddio Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn symud i gam nesaf eu hasesiad o ddyluniad Adweithydd Modiwlar Bach (SMR, sef Small Modular Reactor) 470 MW Rolls-Royce SMR Ltd.

Mae'r broses, a elwir yn Asesiad Dyluniad Generig (GDA, sef Generic Design Assessment), yn galluogi'r rheoleiddwyr i ddechrau asesu agweddau diogelwch ac amgylcheddol ar ddyluniadau adweithyddion newydd cyn i gynigion safle-benodol gael eu cyflwyno.

Mae GDA yn ffordd o helpu i sicrhau y bydd gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn bodloni safonau uchel o ran diogelwch a mesurau diogelu'r amgylchedd a rheoli gwastraff tra'n darparu'r modd i'r ymgeisydd leihau risgiau cyffredinol y prosiectau a chael lefelau cynyddol o hyder rheoliadol yn eu dyluniad.

Dechreuodd asesiad SMR Rolls-Royce ym mis Ebrill 2022 gyda cham cychwyn blwyddyn o hyd, ac yna Cam 2, sy’n asesiad 16 mis yn edrych ar hanfodion y dyluniad.

Mae Cam 2 bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus yn dilyn gwaith sylweddol gan Rolls-Royce SMR Ltd a'r rheoleiddwyr, gan arwain at ganiatáu, am y tro cyntaf ers lansio'r broses GDA fodern, ddatganiadau GDA Cam 2. Mae heddiw hefyd yn nodi dechrau Cam 3 ar gyfer GDA y Rolls-Royce SMR Limited.

Cam 2 yw cam asesu technegol sylweddol cyntaf y GDA, gan adeiladu ar y gwaith i gytuno ar gwmpas a threfniadau prosiect a wnaed yn ystod Cam 1. Roedd yr asesiad yn canolbwyntio ar ddigonolrwydd sylfaenol yr achosion dylunio a diogelwch, mesurau diogelu a'r amgylchedd, ac addasrwydd y methodolegau, dulliau, codau, safonau a’r athroniaethau sy'n ffurfio'r blociau adeiladu ar gyfer y dyluniad generig.

Yn ystod proses Cam 2, mae Rolls-Royce SMR Limited wedi cwblhau'r holl ofynion o ganllawiau'r rheoleiddwyr.

Dywedodd Rob Exley, Pennaeth Asesu Dyluniad Generig y Swyddfa Reoleiddio Niwclear (ONR):

"Mae GDA’r Rolls-Royce SMR yn llawn achosion cyntaf. Ni yw'r rheoleiddwyr cyntaf i asesu dyluniad yr adweithydd hwn, gan benderfynu a yw'n bodloni ein safonau diogelwch, ein mesurau diogelu a’n safonau diogelu'r amgylchedd cadarn yma ym Mhrydain Fawr. Dyma'r tro cyntaf i ni hefyd ddilyn y broses GDA wedi'i moderneiddio, gan edrych ar ddyluniad adweithydd modiwlaidd bach.
"Mae’r ONR yn fodlon bod Rolls-Royce SMR Ltd yn symud ymlaen ac, fel rheoleiddwyr, gallwn nawr barhau i gam 3 gan asesu'n fanylach y dystiolaeth sy'n cefnogi'r honiadau a wnaed am y dyluniad yng nghyflwyniadau Cam 2.
"Byddwn yn parhau i weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod Rolls-Royce SMR Ltd yn deall ac yn bodloni ein disgwyliadau rheoleiddio ar gyfer dyluniad ei adweithydd arfaethedig.
“Yn seiliedig ar ein gwaith yn ystod Cam 1, gall y cynllun Rolls-Royce SMR generig symud ymlaen i Gam 2 y GDA.”

Dywedodd Saffron Price-Finnerty, Rheolwr Rhaglen Adweithyddion Newydd Asiantaeth yr Amgylchedd:

"Rydym yn falch o gyhoeddi, yn dilyn llawer iawn o waith caled gan bawb, ein bod wedi cwblhau Cam 2, sef asesiad sylfaenol o ddyluniad SMR Rolls-Royce, yn llwyddiannus - gan fodloni amserlen rhaglenni'r cwmni.                                                                                                                  
"Mae ein tîm o aseswyr arbenigol wedi gweithio'n ddiwyd i asesu cannoedd o gyflwyniadau a dogfennau a ddarparwyd gan Rolls-Royce SMR Limited ac wedi mynychu nifer o gyfarfodydd technegol gyda'r cwmni.
"Ar hyn o bryd nid ydym wedi nodi unrhyw broblemau neu bryderon sylweddol gyda'r dyluniad ac mae Rolls-Royce SMR Limited wedi gallu dangos bod diogelu'r amgylchedd a rheoli gwastraff ymbelydrol yn feysydd allweddol yn ei ddyluniad esblygol.
"Rydym yn falch bod Rolls-Royce SMR Limited wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ystyried cynaliadwyedd wrth ddatblygu ei sylfaen a'i ddyluniad. 
"Rydyn ni i gyd yn cydnabod bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd, ac rydyn ni nawr yn dechrau ar y rhan asesu fanwl o'r broses. Yn ystod Cam 3, byddwn yn ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ar ein barn ragarweiniol o dderbynioldeb y dyluniad."

Dywedodd Paul Gibson, Arweinydd Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Trwy gydol Cam 2 rydym wedi gweithio'n agos gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Reoleiddio Niwclear tuag at asesiad sylfaenol o SMR Rolls-Royce. Byddwn yn parhau i weithio gyda rheoleiddwyr partner wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen i graffu manylach ar y dyluniad yng Ngham 3."

Mae proses sylwadau Rolls-Royce SMR Ltd yn parhau trwy Gam 3. Mae'n galluogi unrhyw un i gyflwyno sylwadau a chwestiynau am ddyluniad yr adweithydd i'r cwmni am ei ymateb. Bydd materion perthnasol a godwyd yn ystod y broses sylwadau, ac ymatebion Rolls-Royce SMR Ltd i’r materion hyn, yn cael eu defnyddio i helpu i lywio asesiadau’r rheoleiddwyr drwy weddill proses y GDA.

Mae proses y GDA yn canolbwyntio ar ddyluniad gorsaf ynni niwclear generig ac nid yw'n benodol i safle.

Mae'r broses yn systematig ac yn cynnwys nifer o gamau, gyda'r asesiad yn mynd yn fwyfwy manwl wrth i'r broses ddatblygu.

Bydd Cadarnhad o Dderbyn Dyluniad (DAC, sef Design Acceptance Confirmation) neu Ddatganiad o Dderbynioldeb Dyluniad (SoDA, sef Statement of Design Acceptability) gan yr ONR a'r rheoleiddwyr amgylcheddol, yn y drefn honno, yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd Cam 3 o'r GDA, a hynny, wrth gwrs, dim ond os yw'r dyluniad yn bodloni'r mesurau diogelwch cadarn a’r safonau uchel o ran diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff a ddisgwylir gan ein fframweithiau rheoleiddio.

Nid yw’r dyfarniadau rheoleiddiol hyn yn gwarantu o gwbl y caiff trwydded safle na chaniatâd dilynol ei roi o dan amodau trwydded safle na thrwyddedau amgylcheddol ar gyfer adeiladu gorsaf bŵer yn seiliedig ar ddyluniad SMR Rolls-Royce ar safle penodol ym Mhrydain Fawr.

Am fwy o wybodaeth, ewch i :

https://www.gov.uk/government/publications/gda-step-2-of-the-rolls-royce-smr-fundamental-assessment

Cyfoeth Naturiol Cymru / Sut rydym yn rheoleiddio safleoedd niwclear (naturalresources.wales)

https://www.onr.org.uk/generic-design-assessment/