Wedi Codi o'r Lludw: 25 mlynedd o lwyddiant cadwraeth yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd

Pen-blwydd Gwlyptiroedd Casnewydd 25 Mlynedd

Mae’r hyn a fu unwaith yn dir diffaith diwydiannol bellach yn hafan i fywyd gwyllt ac yn symbol o wydnwch natur yn wyneb yr argyfyngau natur a bioamrywiaeth.

Mae eleni’n garreg filltir arbennig i Warchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd – sy’n nodi 25 mlynedd ers ei sefydlu gyntaf – ar safle a fu unwaith yn gartref i lagwnau storio ar gyfer lludw tanwydd maluriedig o orsaf bŵer gyfagos.

Heddiw, diolch i reolaeth ofalus ar gynefinoedd, mae’r warchodfa’n noddfa ar gyfer bywyd gwyllt a phlanhigion arbenigol ac yn cael ei gwerthfawrogi gan y gymuned leol, gan ddangos sut y gall ymdrechion cadwraeth helpu natur i ffynnu ochr yn ochr â threftadaeth Casnewydd.

Rheolir y warchodfa gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag RSPB Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd.

Agorodd y warchodfa, a oedd gynt yn dir diffaith wedi’i orchuddio â lludw, yn 2000 i helpu i wneud iawn am golli cynefinoedd bywyd gwyllt ar ôl cwblhau Morglawdd Bae Caerdydd.

Gwnaed gwaith helaeth i greu cynefin newydd, gan gynnwys symud a thirweddu cannoedd o filoedd o dunelli o bridd, clai a gwastraff diwydiannol. Gosodwyd system ddraenio soffistigedig hefyd i ganiatáu i lefelau dŵr yn y warchodfa gael eu haddasu yn ôl yr angen.

Heddiw, mae’r warchodfa’n cynnwys ystod amrywiol o gynefinoedd isel, gan gynnwys glaswelltir gwlyb, gwelyau cyrs, morfa heli a morlynnoedd hallt – sy’n un o’r cynefinoedd prinnaf ym Mhrydain.

Mae’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys gwencïod, carlymod, dyfrgwn, cardwenyn meinlais, gweision y neidr a chyfoeth o adar gwlyptir.

Un o lwyddiannau cadwraeth mwyaf y warchodfa yw bridio dau o adar y gorstir prinnaf a mwyaf anodd eu gweld yn y DU – adar y bwn a bodaod y gwerni – am y tro cyntaf ers 200 mlynedd.

Diolch i ymdrechion helaeth i adfer gwelyau cyrs ac ymdrechion cadwraeth, mae adar y bwn wedi magu’n llwyddiannus yn y gwlyptiroedd am bum mlynedd yn olynol – heb gael eu cofnodi fel rhai sy’n bridio yng Ngwent o’r blaen.

Mae prosiect adfer ym mis Chwefror y llynedd hefyd wedi rhoi hwb sylweddol i boblogaeth y madfallod dŵr cribog, Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop. Ar un adeg dan fygythiad oherwydd colli cynefinoedd, mae’r amffibiaid hyn bellach yn ffynnu mewn pyllau magu a reolir yn ofalus yn y warchodfa.

Dywedodd Kev Boina M’Koubou Dupé, Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae cyrraedd y garreg filltir 25 mlynedd hon yn achos dathlu gwirioneddol ac yn dyst i ymroddiad ein staff, partneriaid a gwirfoddolwyr, sydd, dros y blynyddoedd, wedi helpu i drawsnewid y safle o storfa gwastraff diwydiannol i’r warchodfa lewyrchus a welwn heddiw. 
Mae’n enghraifft ysbrydoledig o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ymrwymiad i adfer cynefinoedd. 
Mae gwlyptiroedd yn gynefin pwysig sydd angen ein cymorth ni.Yn ogystal â chaniatáu i rywogaethau fel aderyn y bwn ddod yn ôl o ymyl y dibyn, gallant hefyd ein helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy storio carbon niweidiol a dal dŵr llifogydd yn ôl.
Rydym yn hynod falch o lwyddiannau pawb: cefnogi bywyd gwyllt a gwella llesiant cymunedol trwy ddarparu lle mor brydferth i bobl gysylltu â natur.

Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros newid hinsawdd a bioamrywiaeth:

Mae’r gwlyptiroedd yn bwysig i’r ddinas mewn cymaint o ffyrdd, gan gynnwys eu cyfraniad gwerthfawr i’n hamgylchedd ac fel hafan i fywyd gwyllt. Mae hefyd yn lle gwych y gall pobl ymweld ag ef i dreulio amser gyda natur, cerdded, ymlacio, a hybu eu lles.
Llongyfarchiadau ar gyrraedd y pen-blwydd nodedig hwn a diolch i bawb, gan gynnwys y gwirfoddolwyr anhygoel, sy’n helpu i ofalu am yr adnodd gwych hwn yn ein dinas.

Dywedodd Lewis James, Cyfarwyddwr Gweithrediadau RSPB Cymru:

Mae gwlyptiroedd yn rhai o’n lleoedd mwyaf gwerthfawr, yn cynnal cymunedau prin ac unigryw o blanhigion ac anifeiliaid. Mae Gwlyptiroedd Casnewydd, a aned yn dilyn colli cynefinoedd gwerthfawr ar ôl adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd, yn hafan i fywyd gwyllt – o'r gardwenynen feinlais, sydd mor anodd ei gweld, i boblogaethau ffyniannus adar y bwn.
Rydym yn falch o fod wedi chwarae ein rhan yn arddangos rhai o rywogaethau prinnaf Cymru i filoedd o ymwelwyr dros y blynyddoedd. Dod â phobl a natur at ei gilydd yw’r hyn a wnawn a, gyda’n partneriaid, edrychwn ymlaen at ysbrydoli hyd yn oed fwy o bobl i weithredu dros natur lle maent yn byw.

Dywedodd Chris Harris, Rheolwr Rhaglen Partneriaeth Tirwedd y Gwastadeddau Byw:

Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei gyflawni trwy gydweithio dros fyd natur, ac yn drysor mwyaf Gwastadeddau Gwent. Mae llawer o lwyddiannau cadwraeth y warchodfa dros y 25 mlynedd diwethaf i’w priodoli i waith caled ac ymroddiad ei staff a’i gwirfoddolwyr.

I gynllunio eich ymweliad â Gwlyptiroedd Casnewydd, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd