Yr adferiad yn dilyn Storm Bert
Dywedodd Katie Davies, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae'r llifogydd a achoswyd gan Storm Bert wedi cael effaith enfawr ar nifer o gymunedau yng Nghymru, ac rydym yn meddwl am bawb sydd wedi'u heffeithio - yn enwedig y rhai sydd wedi dioddef llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf.
"Yn ystod y storm, fe wnaethom gyhoeddi 2 Rybudd Llifogydd Difrifol, 66 Rybudd Llifogydd a 65 Rhybudd Llifogydd: Byddwch yn Barod ar draws Cymru.
"Er bod llawer o afonydd wedi dechrau cilio, mae gennym Rybuddion Llifogydd mewn grym ar draws ochr ddwyreiniol Cymru, yn enwedig ar gyfer yr afonydd sy'n ymateb yn araf. Rydym yn disgwyl i’r rhybuddion hyn aros mewn grym am gyfnod wrth i’r glaw trwm symud i lawr drwy’r ardaloedd. Rydym am atgoffa pobl i beidio â cherdded na gyrru lle mae dŵr llifogydd yn dal i fod ar lawr, ac i gadw draw o lannau afonydd sydd wedi chwyddo.
"Er bod llawer o'n timau'n parhau i fod allan yn cefnogi ein partneriaid a'n cymunedau gyda’r gwaith o lanhau, rydym hefyd wedi troi ein ffocws at adferiad.
"Rydym eisoes yn archwilio'r amddiffynfeydd rhag llifogydd rydym yn eu rheoli ar draws y wlad am unrhyw gyweiriadau sydd eu hangen, ac yn gwirio ein llwybrau am ddifrod yn dilyn y gwyntoedd cryfion. Ac fel rydym yn ei wneud ar ôl pob digwyddiad llifogydd difrifol, rydym yn cynnal ein gwaith adfer ac adolygu rhagweithiol ein hunain, er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o'r profiad, a defnyddio'r gwersi hynny i wneud unrhyw welliannau.
"Rydym yn gwybod bod llawer o gymunedau’n lot rhy gyfarwydd â llifogydd, ac y bydd y risg yn cynyddu i eraill yn y dyfodol hefyd wrth i newid hinsawdd gyflymu. Bydd angen i ni i gyd newid ac addasu i wneud ein hunain mor wydn â phosib i’r effeithiau hynny. Yn y tymor byr a hir, rydym yn benderfynol o weithio mewn partneriaeth â'r llywodraeth ac awdurdodau eraill sy’n rheoli risg llifogydd, i adeiladu'r gwytnwch ac i wella ein parodrwydd i fynd i’r afael â risgiau llifogydd a’r argyfwng hinsawdd.
"Rydym am annog pawb i wirio eu risg llifogydd ar ein gwefan, ac os ydynt yn darganfod eu bod mewn perygl, i gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd a dysgu beth y gallant ei wneud i baratoi ar gyfer llifogydd y gaeaf hwn."
Archwilio mwy
Yn yr adran hon hefyd
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.