Gall y sector cyhoeddus fod yn ddylanwad tyngedfennol a phweru’r symudiad cryf sydd ei angen i wrthdroi colledion bioamrywiaeth ac osgoi trychineb hinsawdd. Dyma fydd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ei ddweud mewn araith yn Nulyn heddiw (14 Medi).

Wrth siarad yng Nghynhadledd Amgylchedd Iwerddon, bydd Clare yn rhannu ei syniadau am werth arweinyddiaeth gadarn yn y sector cyhoeddus wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio a rhannu gwybodaeth, a chydnabod y bydd angen newidiadau radical yn y ffordd mae'r sector yn gweithio er mwyn mynd i'r afael â heriau mwyaf ein hoes.

Wrth annerch y cynrychiolwyr yn ei phrif araith yn y gynhadledd, disgwylir iddi ddweud:

“Y sector cyhoeddus yw sector economaidd mwyaf y rhan fwyaf o genhedloedd, ac mae’n cael dylanwad enfawr, nid yn unig ar yr economi, ond hefyd ar gymdeithas a'r amgylchedd. 

“Ond nid ni yw'r unig arbenigwyr, ac nid gennym ni mae’r holl atebion. Rhaid i ni fod yn agored ynglŷn â beth y mae hyn [mynd i’r afael â newid hinsawdd] yn ofyn amdano: Mae'n gofyn am symudiad. Ac mae'r pŵer i greu'r symudiad hwnnw yn yr ystafell hon ac ar draws y sector cyhoeddus ehangach.”

Yn ei haraith, bydd Clare yn tanlinellu pwysigrwydd cael strwythurau a rhwydweithiau cryf ar waith i wthio pob rhan o'r sector cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i gyflawni cerrig milltir 2030 a 2050 ar gyfer hinsawdd a natur ac ar gyfer ein cymunedau.

Gan fyfyrio ar y blociau adeiladu sydd wedi’u gosod i helpu'r sector cyhoeddus i gyflawni dros bobl Cymru, bydd hi’n rhoi sylw i’r rôl a chwaraeir gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i rannu gwybodaeth a mynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf ar lefel leol.

Bydd hefyd yn nodi cyfraniadau hanfodol cyrff anllywodraethol i ysgogi newid ymddygiad a'r sylfeini cadarn a ddarperir gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Bydd Clare yn dweud:

“Mae'r arweinyddiaeth a ddangosir trwy'r holl fforymau hyn yn cael ei llywio gan arbenigedd y rhai sy'n byw yn y byd ac sy’n ei weld fel y mae ar hyn o bryd. Nid dull 'o'r brig i lawr' yw hwn o bell ffordd.

“Beth bynnag fo’r materion dan sylw - addasu i gynnydd yn lefel y môr, gwella ansawdd aer lleol - rydym yn gwrando ac yn dysgu gan awdurdodau lleol a chymunedau lleol er mwyn canfod y cyfuniad gorau o fesurau i fynd i'r afael â'r risgiau unigryw a geir mewn mannau penodol.”


Bydd yr araith hefyd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau bod mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn greiddiol i waith y sector cyhoeddus, gan danlinellu y gall y manteision o wneud hynny fod yn bellgyrhaeddol a sicrhau bod y rhai sy'n gweithio yn y sector yn cael eu huwchsgilio ac yn cael yr offer angenrheidiol i weithredu.

Bydd Clare yn dweud:

“Ar hyn o bryd, rydym yn gweld newid hinsawdd yn cael ei daclo mewn modd cymharol ynysig yn y sector cyhoeddus, a hynny o bosibl gan un adran o fewn corff cyhoeddus yn hytrach na chael ei ystyried yn gyfannol.

“Efallai bod hyn yn dangos yr angen am arweinyddiaeth gryfach gan uwch arweinwyr a rheolwyr ar draws y sector cyhoeddus, gan roi cyfle iddynt ddangos sut y gall gweithredu ar newid hinsawdd hefyd gysylltu ag amcanion ehangach yr awdurdod lleol - fel taclo llygredd aer neu gyfiawnder cymdeithasol.

“Yn sylfaenol, bydd angen i ni sicrhau bod staff y sector cyhoeddus ar bob lefel yn cael yr hyfforddiant cywir a fydd yn helpu staff ar bob lefel i flaenoriaethu'r newid yn yr hinsawdd, fel bo pawb - waeth pa sgiliau a'r math o rôl sydd ganddyn nhw - yn gweld bod lliniaru newid hinsawdd ac addasu yn rhan annatod o'r gwaith maen nhw'n ei wneud.

“Yn syml, mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn ein cydweithwyr nawr er mwyn sicrhau gwytnwch yn nes ymlaen. Dyna’r unig ffordd y byddwn yn gallu cryfhau a chynnal arbenigedd o ran yr hinsawdd o fewn y sector cyhoeddus.”

Daw'r alwad i weithredu yn ystod y flwyddyn y lansiodd CNC ei Gynllun Corfforaethol hyd at 2030 — Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd. Mae'n canolbwyntio ar dri amcan llesiant a fydd yn arwain ei ymateb i'r bygythiadau triphlyg sy’n wynebu'r blaned: Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd byd natur yn adfer; cymunedau yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd; a llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf.

Mae'r cynllun yn cydnabod beth yw’r sefyllfa orau i CNC er mwyn arwain y ffordd i gyrraedd targedau 2030 ar gyfer natur a'r hinsawdd gyda'r offer a'r pwerau unigryw sydd ganddo.  Ac eto, yn wyneb anghydraddoldebau cynyddol ac argyfwng costau byw, mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd rhannu adnoddau a chydweithio â phartneriaid, gan hoelio’r sylw fwyfwy ar gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol i sicrhau na chaiff unrhyw ran o gymdeithas ei gadael ar ôl.

Bydd hi'n dweud:

“Mae ein cynllun corfforaethol wedi rhoi'r mandad i ni graffu ar ein harferion, y ffordd draddodiadol o wneud pethau, a herio’n hunain o ddifrif i fod yn arloesol ac archwilio’r hyn sy’n bosibl.

“Drwy gyflwyno newidiadau mawr i’r ffordd yr ydym yn byw, sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd, sut rydym yn meddwl am y dyfodol ac yn cynllunio ar ei gyfer – a chyda'r sector cyhoeddus yn arwain y ffordd - gallwn yn llythrennol wneud gwyrthiau, ac adeiladu economi ffyniannus, cymunedau bywiog, a byd mwy gwydn ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.”