Paratowch ar gyfer effeithiau llifogydd ledled Cymru dros y penwythnos

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus ac yn barod ddydd Gwener a dydd Sadwrn yr wythnos hon wrth i Storm Claudia ddod â glaw trwm a fydd yn arwain at lifogydd a tharfu yng Nghymru.

Er y bydd y rhan fwyaf o Gymru yn gweld glaw trwm ac effeithiau llifogydd posibl, disgwylir llifogydd sylweddol mewn ardaloedd yn ne-ddwyrain a chanolbarth Cymru o ddydd Gwener hyd at ddydd Sadwrn.

Gyda'r afonydd eisoes wedi chwyddo a'r ddaear yn ddirlawn, rydym yn disgwyl gweld llawer o rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi.

Mae rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd am law wedi'i gyhoeddi ar gyfer de-ddwyrain a chanolbarth Cymru o 12pm ddydd Gwener 14 Tachwedd tan yn hwyr y noson honno. Mae rhybudd melyn am law ar waith ar gyfer rhannau helaeth o Gymru o 6am ddydd Gwener 14 Tachwedd i 6am ddydd Sadwrn 15 Tachwedd.

Mae pobl yn cael eu hannog i ystyried unrhyw gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd nawr i baratoi.

  • Edrychwch ar y tudalennau rhybuddion llifogydd ar wefan CNC i gael negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a Rhybuddion Llifogydd lleol. Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru bob 15 munud
  • Meddyliwch sut y gallwch chi baratoi eich cartref a'ch busnes nawr. Symudwch bethau gwerthfawr a cherbydau i leoliad uwch a meddyliwch am bacio pecyn llifogydd. Mae gan wefan CNC amrywiaeth o wybodaeth ar sut y gall pobl baratoi ar gyfer llifogydd. 

Rydym yn galw ar bobl i gadw draw oddi wrth lannau afonydd chwyddedig a pheidio â gyrru na cherdded trwy ddyfroedd llifogydd. Er nad oes disgwyl effeithiau llifogydd arfordirol ar hyn o bryd, rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus.

Mae ein timau hefyd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'r Ganolfan Rhagolygon Llifogydd, ymatebwyr brys a'n partneriaid awdurdod lleol i baratoi ar gyfer y tywydd hwn, gan fonitro rhagolygon a rhagfynegiadau glawiad a darparu'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i hyder yn y rhagolygon gynyddu.

Bydd yr holl rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi gan CNC wrth i afonydd gyrraedd lefelau trothwy.

Meddai Alun Attwood, Rheolwr Tactegol Cymru ar Ddyletswydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Disgwylir i’r rhybuddion glaw oren a melyn sydd ar waith o oriau mân ddydd Gwener a dydd Sadwrn gael effeithiau sylweddol ledled Cymru. Gyda'r afonydd eisoes wedi chwyddo a'r ddaear yn ddirlawn, rydym yn disgwyl gweld rhybuddion byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi o ganlyniad i Storm Claudia.

"Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i wneud paratoadau nawr ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd. Gallwch ddarganfod a ydych chi’n byw mewn ardal sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd ar ein gwefan a chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim.

“Nid ydym yn darparu rhybuddion llifogydd ar gyfer llifogydd o ddŵr wyneb, felly mae'n bwysig i bawb wybod eu risg llifogydd.

“Os rhagwelir llifogydd yn eich ardal, hoffem eich sicrhau bod pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw eu hunain yn ddiogel. Meddyliwch am baratoi pecyn llifogydd gydag unrhyw ddogfennau a meddyginiaeth bwysig, symud eich car i dir uwch a symud eiddo gwerthfawr i fyny'r grisiau neu i le uwch.

Hoffem atgoffa pobl i gadw draw oddi wrth lannau afonydd a glan y môr a pheidio â gyrru na cherdded trwy ddyfroedd llifogydd gan na wyddoch beth sydd o dan y dŵr.

“Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd ac ewch i’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhybuddion llifogydd, a dod o hyd i gyngor ymarferol ar beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.”

Mae negeseuon llifogydd: byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud ac maent ar gael yma www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd  

Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188. 

Yn ogystal â gwirio risg llifogydd a chofrestru ar gyfer rhybuddion, gall pobl hefyd wirio ein rhagolygon llifogydd 5 diwrnod ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru, a dod o hyd i gyngor ymarferol ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd.