Paratoi ar gyfer llifogydd a gwyntoedd niweidiol Storm Darragh
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus a bod yn barod y penwythnos hwn wrth i law trwm a gwyntoedd Storm Darragh, a allai fod yn niweidiol, effeithio’n sylweddol ar Gymru.
Er y bydd y rhan fwyaf o Gymru yn gweld glaw trwm ac yn gallu gweld effeithiau llifogydd, mae llifogydd sylweddol yn bosibl mewn ardaloedd o Dde Cymru yfory ac yn ystod dydd Sul.
Er nad oes disgwyl i lefelau glaw fod mor uchel â'r hyn a welwyd yn ystod Storm Bert, bydd y glaw trwm a gafwyd yng Nghymru eto'r wythnos hon yn golygu bod y tir yn ddirlawn tu hwnt a gallai afonydd godi'n gyflym. Bydd rhai afonydd hefyd yn cynnwys malurion nad ydynt wedi cael eu symud eto yn dilyn Storm Bert a gallai’r rhain gynyddu’r perygl o lifogydd.
Mae rhybudd oren am law mewn grym ar gyfer rhannau deheuol o Gymru rhwng 3am a 6pm ddydd Sadwrn.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd coch o wyntoedd sy'n ymestyn dros holl arfordir Cymru rhwng 3am ac 11am ddydd Sadwrn gyda rhybudd oren am wynt mewn grym rhwng 1am a 9pm ddydd Sadwrn.
Bydd holl ganolfannau ymwelwyr, coetiroedd, llwybrau a meysydd parcio CNC ar gau ddydd Sadwrn oherwydd y risg i ddiogelwch y cyhoedd.
Er nad oes disgwyl effeithiau llifogydd arfordirol ar hyn o bryd, rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus. Cadwch draw o lan y môr a phromenadau oherwydd y peryglon a achosir gan y tonnau mawr a ddisgwylir, yn sgil gwyntoedd cryfion y storm.
Mae pobl yn cael eu hannog i ystyried unrhyw gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd nawr i baratoi.
- Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim CNC yn wales/flooding neu drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.
- Edrychwch ar y tudalennau rhybuddion llifogydd ar wefan CNC i gael negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a Rhybuddion Llifogydd lleol. Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru bob 15 munud.
- Meddyliwch sut y gallwch chi baratoi eich cartref a’ch busnes nawr. Symudwch eiddo gwerthfawr a cherbydau i leoliad uwch a meddyliwch am bacio pecyn llifogydd. Mae gan wefan CNC amrywiaeth o wybodaeth ar sut y gall pobl baratoi ar gyfer llifogydd.
Mae ein swyddogion wedi bod allan mewn cymunedau ledled Cymru, yn paratoi ein safleoedd ac yn atgyweirio unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd yr effeithiodd Storm Bert arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn barod i leihau unrhyw berygl llifogydd yn y dyfodol.
Mae ein timau hefyd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'r Ganolfan Ddarogan Llifogydd ac awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer y storm hon, gan fonitro rhagolygon a rhagfynegiadau glawiad a darparu diweddariadau wrth i’r hyder yn y rhagolygon hyn gynyddu.
Bydd yr holl rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi gan CNC wrth i afonydd gyrraedd lefelau trothwy.
Meddai Becky Favager, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae disgwyl i Storm Darragh gael effaith sylweddol yng Nghymru. “Gan fod afonydd eisoes yn llawn a chan fod y ddaear mor wlyb, rydym yn disgwyl gweld llawer o rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi os bydd afonydd yn cyrraedd lefelau trothwy yn ystod Storm Darragh.
"Gan fod rhybuddion coch ac oren ar gyfer gwyntoedd mewn grym dros rannau helaeth o Gymru yfory, rydym yn cau ein holl ganolfannau ymwelwyr, ein coetiroedd, ein gwarchodfeydd a’n meysydd parcio er diogelwch ymwelwyr. Rydym hefyd yn annog pobl i gadw draw o lan y môr a phromenadau, oherwydd gallai tonnau mawr ysgubo pobl oddi ar eu traed yn ddigon hawdd.
"Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i wneud paratoadau nawr ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd. Gallwch ddarganfod a ydych chi’n byw mewn ardal sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd ar ein gwefan a chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim.
"Mae ein timau wedi bod yn gweithio’n ddi-baid dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf, gan wneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r risg i gymunedau a sicrhau bod amddiffynfeydd mewn cyflwr da yn dilyn Storm Bert a chyn i Darragh gyrraedd.
Ond bydd llifogydd rydym ni eisiau gofalu bod pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw eu hunain yn ddiogel. Hoffem atgoffa pobl i gadw draw oddi wrth lannau afonydd a glan y môr a pheidio â gyrru na cherdded trwy ddyfroedd llifogydd gan na wyddoch beth sydd o dan y dŵr.
Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd ac ewch i'n gwefan i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhybuddion llifogydd. Gallwch ddod o hyd i gyngor ymarferol ar lifogydd ar ein gwefan hefyd.”
Mae negeseuon llifogydd: byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud ac maent ar gae l i'w gweld yn www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd
Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.
Yn ogystal â gwirio perygl llifogydd a chofrestru i dderbyn rhybuddion, gall pobl hefyd wirio ein Rhagolygon llifogydd 5 diwrnod ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru, a dod o hyd i gyngor ymarferol ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd, megis symud eiddo gwerthfawr i fyny'r grisiau a gofalu bod eitemau allweddol fel dogfennau pwysig a meddyginiaeth ar gael yn hwylus mewn pecyn llifogydd.