Annog trigolion ym Mhowys i archwilio eu tanciau olew gwresogi ar ôl cyfres o ddigwyddiadau llygredd

Mae trigolion ym Mhowys yn cael eu hannog i archwilio eu tanciau olew gwresogi domestig i atal difrod amgylcheddol a gollyngiadau costus.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar drigolion ym Mhowys sy’n defnyddio olew gwresogi domestig i wneud yn siŵr bod eu tanciau mewn cyflwr da. Daw’r alwad ar ôl cynnydd yn nifer yr achosion o lygredd a adroddwyd i linell ddigwyddiadau CNC a gafodd eu holrhain i ollyngiadau o danciau olew gwresogi o gartrefi.

Daeth nifer sylweddol o’r adroddiadau hyn o ardal Llanfair Caereinion, a’r Ystog, gan amlygu’r angen dybryd i berchnogion tai gymryd camau ataliol.

Mae prif achosion y gollyngiadau hyn yn cynnwys hen danciau un gragen sydd wedi dirywio dros amser, methiannau mewn pibellau o dan y ddaear, llenwi tanciau'n anghywir, a diffyg cynnal a chadw ac archwiliadau rheolaidd cyn ail-lenwi tanciau.

Pwysleisiodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Canolbarth Cymru y ddyletswydd sydd gan berchnogion tanciau, “Mae gan berchnogion tai sy’n storio olew gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau nad yw eu tanciau storio yn achosi llygredd.

“Er gwaethaf hyn, rydym wedi gweld cyfres o ddigwyddiadau a achoswyd gan danciau diffygiol. Gall tanwydd sy'n gollwng ddifrodi'r amgylchedd yn ddifrifol, gan ladd planhigion, niweidio bywyd gwyllt, llygru afonydd, a halogi dŵr yfed.

“Mae hefyd yn arwain at golledion ariannol sylweddol i berchnogion tai, a allai fod angen prynu mwy o olew a thalu’r costau uchel i lanhau gollyngiad olew. Gallwn hefyd gymryd camau gorfodi lle mae’r difrod yn sylweddol.”

Un arwydd sicr o ollyngiad yw cynnydd sydyn o ran faint o olew a ddefnyddir. Mae CNC yn cynghori’n gryf eich bod yn ceisio cymorth gan weithiwr gwresogi olew proffesiynol cymwysedig os ydych yn amau bod problem.

Er mwyn helpu i atal gollyngiadau olew, mae CNC yn argymell sicrhau y llenwir tanciau'n ddiogel trwy gadarnhau bod lle i'r olew a bod y gyrrwr yn defnyddio'r pwynt llenwi cywir yn y tanc, archwilio sylfaen neu gynheiliaid y tanc am graciau neu ymsuddiant, edrych ar yr holl bibellau, falfiau, a hidlwyr gweladwy ar gyfer unrhyw ddifrod neu arwyddion o ollyngiadau, ac archwilio’r systemau atal eilaidd (byndiau’r tanc) ar gyfer hylif neu falurion, a sicrhau bod hambyrddau diferion ar gyfer pibellau llenwi o bell yn glir o olew, dŵr, dail a sbwriel.

I gael rhagor o wybodaeth am effaith amgylcheddol a chynnal a chadw tanciau olew gwresogi domestig, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Archwiliwch eich tanc olew cartref am ollyngiadau.

Mae CNC yn annog pobl i roi gwybod am unrhyw achosion o lygredd a amheuir drwy eu llinell gymorth digwyddiadau 24 awr ar 0300 065 3000 neu drwy ffurflen adrodd ar-lein CNC.