Cynnig cyllid i’r rhai sydd â mawndir i baratoi i’w adfer

Cynllunio adfer mawndir gyda lefel laser

Wrth i weithgareddau adfer mawndiroedd yng Nghymru gyflymu, bydd rownd newydd o Grantiau Datblygu yn agor ar 13 Hydref. Bydd y grantiau’n cynnig rhwng £10,000 a £30,000 i ddatblygu prosiectau i fod yn barod i gychwyn adfer.

Mawndir yw’r adnodd tir mwyaf gwerthfawr yng Nghymru o ran carbon, o ystyried ei botensial i storio 30% o garbon y pridd. Ac eto, amcangyfrifir bod 90% o fawndiroedd Cymru mewn cyflwr gwael ac yn allyrru nwyon tŷ gwydr, ac felly mae eu hadfer yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.

Mae’r Grant Datblygu yn cyllido’r paratoadau y mae eu hangen er mwyn cyflawni gwaith adfer mawndir. Bydd y ceisiadau’n manylu ar y mesurau safle-benodol a bennwyd er mwyn paratoi cynllun adfer ymarferol; gallai’r rhain gynnwys arolygon mawn, hydroleg a chynefin, caniatadau ac ymgynghori â’r gymuned, a pharatoadau eraill.

Mae angen gwaith cynllunio a pharatoi sylweddol er mwyn adfer cynefinoedd mawndir. Mae sicrhau prosiectau sy’n barod i gychwyn yn hanfodol er mwyn galluogi gwaith adfer mawndiroedd yn y tymor hir. Mae’r Grant hwn yn elfen hanfodol o’r ymdrech i gynyddu capasiti Cymru i adfer mawndiroedd ar y raddfa a’r cyflymder y mae eu hangen er mwyn cyflawni yn erbyn ein hymrwymiadau o ran datgarboneiddio, addasu a bioamrywiaeth. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15fed o Ionawr 2024.

Esboniodd Mannon Lewis, sy’n arwain y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd:

“Nod y Grant Datblygu hwn yw annog tirfeddianwyr i ddeall eu mawndir a datblygu cynllun fel eu bod yn barod i gychwyn ar y gwaith adfer. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dangos sut bydd y cyllid yn datblygu cynllun adfer mawndir ymarferol. Unwaith y bydd y cynllun adfer yn ei le, bydd yr opsiynau i symud ymlaen i’r camau adfer yn cynnwys ein Grant Cyflawni cystadleuol dilynol (£50K-£250K).”

Mae cyfanswm o £100,000 ar gael yn y gronfa o gyllid ar gyfer y drydedd rownd o Grantiau Datblygu, a bydd gweminarau arweiniol am ddim yn cael eu cynnal ar 27ain o Hydref i ddarpar ymgeiswyr. Gellir cael mynediad i’r broses ymgeisio am Grantiau Datblygu drwy dudalen we y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.

Meddai’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Gwelsom gynnydd mewn adfer mawndiroedd yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae cymaint eto i ni wneud er mwyn cyflymu’r adfer. Hon yw ein dalfa garbon fwyaf ar y tir, a thrwy gyllido’r Grantiau Datblygu, rydym yn cymryd cam pwysig i gyflymu’r gwaith adfer. Mae hon yn ymdrech hirdymor. Bydd paratoi nawr yn ein helpu i feithrin y gallu i fynd ymhellach ac yn gyflymach yn y dyfodol. Rwy’n annog y rhai sydd â mawndir i wneud cais am y cyllid hwn, gan fod mawndiroedd iach yn helpu i amddiffyn rhag yr argyfwng hinsawdd.”

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd wedi cael y dasg gan Lywodraeth Cymru o arwain gyda dull cydlynol ar gyfer Gweithredu ar Fawndiroedd Cymru drwy gyllid, gwaith monitro ac adrodd safonol, a chydgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn rhannu arferion da. Mae gwaith adfer mawndiroedd yn cyfrannu at yr ymdrechion cenedlaethol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Gellir gweld y mawndiroedd sydd wedi’u cofnodi yng Nghymru ar y porth mynediad agored, Porth Data Mawndiroedd Cymru, ble bydd unrhyw waith i adfer mawndiroedd hefyd yn cael ei gofnodi.

Mae’r Grant Datblygu yn rhan o waith adfer mawndiroedd mwy helaeth y Rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru hyd at dros £2.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Er mwyn gwneud y gorau o waith adfer mawndiroedd Cymru, mae’r Rhaglen hefyd yn dyrannu Grantiau Cyflawni a chyllid cyflawni strategol i bartneriaid allweddol fel y parciau cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac asiantaethau cadwraeth ar hyd a lled Cymru.