Prosiect partneriaeth yn dechrau i adfer tair afon yn Ne Ddwyrain Cymru

Afonydd Rhymni

Lansiwyd Prosiect Adfer Afonydd Ddwyrain Cymru i arwain dull partneriaeth o adfer tair afon yng nghymoedd y De-ddwyrain.

Mae strategaeth prosiect pum mlynedd, a ddatblygwyd ar y cyd â Phartneriaeth Afonydd y De-ddwyrain a'r Ganolfan Adfer Afonydd, wedi cael ei rhoi ar waith ac mae’n nodi'r camau sydd eu hangen i adfer y dalgylch.

Dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bydd y prosiect yn cyflwyno sawl ymyriad a fydd yn helpu i amddiffyn, gwella ac adfer Afonydd Ebwy, Rhymni ac Afon Lwyd.

Bydd hefyd yn gwella gwytnwch cynefinoedd coridor afonydd, gan sicrhau llu o fanteision i gymunedau lleol a'r amgylchedd ehangach. 

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Gwella cysylltedd gorlifdir trwy adfer prosesau afonydd naturiol
  • Lleihau effaith Rhywogaethau Estron Goresgynnol (e.e. Jac y Neidiwr, Efwr Enfawr)
  • Creu ac adfer cynefinoedd ar hyd pob coridor afon (e.e. coetir gwlyb, glaswelltir gorlifdir)
  • Gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i helpu i leihau gwaddodion a maetholion rhag mynd i mewn i’r afonydd, gan wella ansawdd dŵr.

Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Genedlaethol Adfer Afonydd CNC ac mae'n ategu'r gwaith ehangach sy'n cael ei wneud drwy brosiectau eraill i adfer afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru, fel afonydd Wysg a Gwy.

Bydd y gwaith adfer afonydd hwn hefyd yn ategu'r rhaglen waith barhaus ar bysgodfeydd; cynllun grant partneriaeth Adfer Cynefinoedd Pysgodfeydd Mewndirol, a'r Rhaglen Eogiaid Yfory, gan ddarparu llwybr teithio pysgod a gwella cynefinoedd.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:

Bydd prosiect adfer Afonydd y De-ddwyrain yn gwneud newid sylweddol i dair o'n hecosystemau afonydd gwerthfawr. 
Byddaf yn dilyn cynnydd y gwaith hwn yn agos, gan y bydd y dull amlsector hwn, gobeithio, yn sicrhau manteision ar draws sawl maes.

Meddai Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De-ddwyrain Cymru:

Rydym yn hynod o falch o weld y prosiect cydweithredol hwn ar y gweill. Bydd yn datblygu ac yn cyflawni gwaith adfer ar raddfa dalgylch hyd at 2030 i gefnogi ein gweledigaeth o bobl a natur yn ffynnu gyda'i gilydd.
Gan ddefnyddio atebion seiliedig ar natur, nod y prosiect fydd gwella statws ecolegol Afonydd Ebwy, Rhymni ac Afon Lwyd a chynorthwyo adferiad natur, meithrin gwytnwch er mwyn gwrthsefyll newid hinsawdd a lleihau llygredd.
“Drwy dargedu gweithredu ar y raddfa hon a mabwysiadu dull partneriaeth integredig, rwy'n edrych ymlaen at weld y manteision a'r cyfleoedd hirdymor ehangach y mae'r prosiect hwn yn eu cynnig i natur a phobl.

Meddai Gwyn Teague, Cadeirydd Partneriaeth Afonydd De Ddwyrain Cymru:

Bydd y prosiect hwn yn chwarae rhan allweddol wrth wella afonydd Ebwy, Rhymni ac Afon Lwyd yn ogystal â’r cynefinoedd coridor afon sy’n gysylltiedig â phob un. Mae Partneriaeth Afonydd De Ddwyrain Cymru yn falch o allu cynnig ei chefnogaeth i’r mesurau sydd wedi’u cynnwys ac i’r gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud.