child looking at oak leaves

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi croesawu cyhoeddiad ‘Diogelu Addysg’, canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion, sy’n cydnabod y manteision sylweddol a ddaw o ddysgu yn yr awyr agored.

Mae’r canllawiau, sydd wedi’u cyhoeddi yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws, yn nodi y dylid ystyried chwarae a dysgu yn yr awyr agored “yn rhan ganolog o unrhyw ddychwelyd yn raddol” ac y “dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn treulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr agored”.

Gyda ffocws cryf ar gefnogi iechyd a lles dysgwyr a staff, mae’r canllawiau yn tynnu sylw at fanteision dysgu yn yr awyr agored o ran lles corfforol, meddyliol, emosiynol ac addysgiadol. Mae hefyd yn pwysleisio’r rôl allweddol y gall ei chwarae wrth helpu i gadw pellter cymdeithasol a lleihau’r risg o ledaenu’r haint o fewn ysgolion yng Nghymru sy’n paratoi i ailagor ddiwedd y mis yn dilyn lleddfu rhai o’r cyfyngiadau coronafeirws.

Meddai Sue Williams, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol: Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes & Sgiliau gyda CNC:

“Rydyn ni’n hynod falch o weld fod dysgu yn yr awyr agored a’r holl fanteision a ddaw o hynny yn cael lle mor ganolog yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon.
“Un o’n prif flaenoriaethau yw helpu pob plentyn yng Nghymru i gael profiad o, a gwerthfawrogi’r amgylchedd. Rydyn ni ers peth amser wedi bod yn pwysleisio mor fanteisiol yw dysgu yn yr awyr agored – dysgu yn, dysgu am a dysgu ar gyfer yr amgylchedd naturiol.
“Mae tystiolaeth yn dangos fod dysgu yn yr awyr agored yn cryfhau ein cysylltiad gyda byd natur sy’n fanteisiol i ni fel pobl, ond hefyd yn llesol tu hwnt i’r amgylchedd.
“Mae gosod dysgu yn yr awyr agored wrth graidd y system addysg yn helpu i wella cyrhaeddiad, sicrhau gweithredu amgylcheddol positif o oed cynnar a hyrwyddo ymddygiad positif hir oes – sy’n allweddol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur a’r argyfwng newid hinsawdd sy’n ein wynebu.”

Mae CNC wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod rôl ganolog i ddysgu yn yr awyr agored wrth ddelifro’r Cwricwlwm i Gymru.

Ychwanegodd Sue:

“Mae’n galonogol iawn gweld fod yr ymrwymiad i ddysgu yn yr awyr agored yn cael ei adlewyrchu yn ‘Diogelu Addysg’ yn enwedig gan y gall helpu cymaint o ran gwarchod iechyd a lles yn ystod pandemig y coronafeirws.
“Wrth i ysgolion ailagor yn raddol, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yng Nghyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored, Rhwydwaith Hyfforddiant Dysgu yn yr Awyr Agored a Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru i roi cefnogaeth ar gyfer dysgu trwy ddarparu hyfforddiant, adnoddau ac ymgyrchoedd cenedlaethol.”