CNC yn croesawu ymrwymiad i fuddsoddi mewn perygl llifogydd yng Nghymru yn y dyfodol
Cafodd ymrwymiadau i fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd cynyddol Cymru yn wyneb yr argyfwng hinsawdd eu croesawu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (25 Ebrill).
Mae Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi amlinellu amrywiaeth o brosiectau a fydd yn cael eu cefnogi dros y flwyddyn sy’n dod fel rhan o raglen fuddsoddi Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, 2023-24.
Gydag 1 o bob 8 eiddo (tua 245,000) yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd, bydd yr ymrwymiad yn caniatáu i CNC ddatblygu ei gynlluniau i adeiladu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd ar draws ardaloedd perygl llifogydd allweddol ledled y wlad. Bydd hefyd yn caniatáu buddsoddiad mewn gwasanaethau rhybuddio a hysbysu hanfodol.
Daw'r cyhoeddiad yn sgil cyhoeddi adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a oedd yn pwysleisio'r brys sydd ei angen wrth i’r byd weithredu i liniaru effeithiau'r hinsawdd.
Disgwylir i ddigwyddiadau tywydd eithafol ddod yn amlach ac yn fwy difrifol yng Nghymru yn y dyfodol. Bedwar mis yn unig ar ôl COP27 a COP15, lle ymrwymodd arweinwyr y byd i weithredu'n gyflym ar newid hinsawdd a dirywiad natur, ystyrir bod maint y dasg yn fwy tyngedfennol nag erioed.
Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r dystiolaeth o'r argyfwng hinsawdd yn gwbl amlwg. Mae angen i bob un ohonom gynllunio nawr ar gyfer dyfodol lle bydd mwy o berygl llifogydd ac rydym yn croesawu'r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru heddiw i gefnogi prosiectau perygl llifogydd.
“Byddwn yn parhau i adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd a chynnal ein hamddiffynfeydd cyfredol. Ond bydd angen i ni hefyd fabwysiadu dull ehangach o wella gallu Cymru i wrthsefyll tywydd eithafol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau rhybuddio a hysbysu hanfodol, sy'n grymuso pobl i wybod a deall y perygl llifogydd sy’n eu hwynebu a'r camau y gallant eu cymryd er mwyn paratoi.
“Mae hefyd yn golygu rhoi mwy o bwyslais ar y dulliau dalgylch afon cyfan sydd eu hangen i fynd i'r afael â phroblemau llifogydd cymhleth. Mae rheoli llifogydd yn naturiol yn rhan o hyn, ac yn helpu i arafu llif y dŵr ar draws y dirwedd ac yn uwch i fyny yn y dalgylchoedd. Mae hefyd yn golygu gweithio gyda pherchnogion tir a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i wneud lle ar gyfer y lefelau aruthrol o ddŵr yr ydym yn eu gweld yn ystod llifogydd, a’u rheoli.”
Drwy Gymru gyfan, mae 73,000 eiddo sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd eisoes yn elwa ar amddiffynfeydd llifogydd CNC.
Dyma rai o gynlluniau CNC sydd wedi'u clustnodi i elwa ar raglen llifogydd 2023/24:
Prosiectau sy’n cael eu hariannu
- Stryd Stephenson, Casnewydd — dechrau ar y gwaith adeiladu i wella amddiffynfeydd llifogydd llanwol yn ardal Llyswyry, Casnewydd, gan leihau'r perygl o lifogydd i 194 o gartrefi a 620 o fusnesau.
- Rhydaman, Sir Gaerfyrddin — dechrau ar y gwaith adeiladu i wella amddiffynfeydd llifogydd lleol yn Rhydaman a fydd o fudd i fwy na 200 o adeiladau.
- Aberteifi, Ceredigion — datblygu cynllun ar gyfer ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd llanwol yn y dref o amgylch y Strand a Heol Eglwys Fair a datblygu gwaith cynllunio cyn adeiladu amddiffynfa yn y dyfodol.
- Porthmadog, Gwynedd — gwaith modelu parhaus a datblygu'r cynllun, gan weithio gyda'r gymuned a rhanddeiliaid, gan archwilio cyfleoedd i amddiffyn cannoedd o eiddo rhag perygl llifogydd afonol a llanwol.
- Pwllheli, Gwynedd – dechrau’r cam nesaf o ddatblygu achos busnes, mynd i'r afael â pherygl llifogydd afonol a llanwol sy’n wynebu cannoedd o eiddo ym Mhen Llŷn.
- Parhau i ddatblygu Cynllun Rheoli Llifogydd Strategol Dalgylch yr Afon Taf mewn ymateb i lifogydd mis Chwefror 2020. Mae CNC yn parhau i gynnal gwaith manwl ar fodelu perygl llifogydd yn nalgylch Taf Isaf ac Afon Cynon a’r Rhondda i gefnogi cam nesaf y gwaith sydd wedi'i gynllunio i ddatblygu'r cynllun. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud ar y cyd â holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd yr ardal hon.
Bydd cyllid ar gael hefyd i helpu i ddatblygu gwaith gwerthuso manwl a gwaith datblygu prosiect perygl llifogydd mewn lleoliadau yn cynnwys Dinbych-y-pysgod, Ynysgynwraidd, Y Rhyl, Prestatyn ac Aberdulais.
Bydd CNC hefyd yn derbyn cyllid i barhau â'i brosiect gwella sylweddol ar ei systemau Rhybuddion Llifogydd a TGCh a gwasanaethau cysylltiedig eraill megis ei systemau telemetreg. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu rhai o'r camau a amlinellwyd a'r gwersi a ddysgwyd yn yr adolygiadau o lifogydd Chwefror 2020 pan alwodd CNC am newid chwyldroadol yn y modd y mae Cymru'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac yn rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol.
Bydd y cytundeb ariannol hefyd yn caniatáu i CNC ddatblygu gwaith mapio a modelu pwysig a fydd yn cyfarwyddo cynlluniau llifogydd posibl a chynllunio addasu arfordirol yn y dyfodol. Bydd hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni llawer o brosiectau llai ledled Cymru gan gynnwys cynnal a chadw'r gwaith hydrometrig ac adnewyddu ac atgyweirio ei rwydwaith o strwythurau amddiffyn rhag llifogydd.