CNC i wella llwybr pysgod a llysywod yng nghored Afon Gwyrfai

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar fin dechrau gwaith hanfodol ar gored Bontnewydd ar afon Gwyrfai i hwyluso symudiad pysgod a llysywod.

Mae’r gored wedi’i nodi fel rhwystr i symudiad pysgod, a bydd addasiadau arfaethedig yn helpu rhywogaethau fel eogiaid a llysywod i symud yn rhwyddach i fyny’r afon.

Bydd y gwaith yn cynnwys newid y llwybr pysgod presennol (ramp creigiog) yn union i lawr yr afon o'r gored er mwyn gwella llwybr y pysgod. Bydd llwybr llysywod hefyd yn cael ei osod drwy addasu arwyneb y gored i greu gorffeniad garw, wedi'i frwsio y gall llysywod afael ynddo.  Byddwn hefyd yn atgyweirio rhan o’r wal adain ar y lan chwith, sy’n cael ei thanseilio ar hyn o bryd.

Er mwyn sicrhau cyn lleied o aflonyddu ag sydd bosibl, ni fydd argae llawn yn cael ei osod ar yr afon ar unrhyw adeg. Yn lle hynny, bydd gwaith yn cael ei wneud ar un hanner o’r sianel yn unig ar y tro, gan ganiatáu i ddŵr barhau i lifo. Bydd y gwaith o adeiladu'r llwybr pysgod newydd yn cael ei wneud mewn chwe rhan, gan ei gwneud yn broses hir, gan fod angen gosod cerrig â llaw yn y sylfaen goncrid. Bydd y wal adain yn cael ei newid am wal newydd debyg unwaith y bydd yr holl waith arall yn y sianel wedi'i gwblhau.

Y bwriad yw cychwyn y gwaith mynediad i'r safle ym mis Ebrill, gyda gwaith yn y sianel yn dechrau ym mis Mai. Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2025, er y gallai'r tywydd effeithio ar yr amseriadau. Bydd gwaith yn digwydd rhwng 8am a 6pm yn ystod yr wythnos, gyda mesurau lleihau sŵn ar waith.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan William Hughes (Peirianneg Sifil) Cyf. Mae trigolion a busnesau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod am y gwaith, a bydd CNC yn parhau i ymgysylltu â thirfeddianwyr er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl arnynt.

Meddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin CNC:

“Bydd y gwaith hwn yn helpu rhywogaethau pysgod a llysywod i ymfudo’n haws ar hyd afon Gwyrfai, gan gefnogi iechyd hirdymor ecosystem yr afon.
“Rydym yn deall y gall gwaith adeiladu darfu ar bethau, ac rydym yn gweithio’n agos â thirfeddianwyr a chymunedau lleol i leihau unrhyw anghyfleustra. Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y trigolion wrth i ni gyflawni’r gwelliannau hanfodol hyn.”

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, ewch i wedudalen y prosiect neu cysylltwch â thîm y prosiect yn enquiries@naturalresourceswales.gov.uk.