CNC yn cynyddu camau gweithredu i ymateb i’r cyfnod hir o dywydd sych

Yn dilyn y cyfnod hir o dywydd sych a chynnes, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau heddiw (22 Mai 2025) bod y trothwyon sbarduno wedi'u cyrraedd i symud Cymru gyfan o statws 'arferol’ i statws 'tywydd sych estynedig'.
Mae'r penderfyniad yn seiliedig ar ffactorau hydrolegol ac amgylcheddol a phryderon ynghylch y pwysau y mae tymereddau uchel a diffyg glawiad sylweddol wedi'u rhoi ar afonydd, lefelau dŵr daear, bywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol ehangach ledled Cymru.
Mae cyfnod hir o dywydd sych yn ddigwyddiad naturiol sydd wedi dod yn fwy tebygol wrth i newid hinsawdd gyflymu. Mae'n digwydd pan fo glawiad yn is na'r disgwyl am gyfnod estynedig gan arwain at lefelau isel mewn afonydd, cronfeydd dŵr a dŵr daear yn ogystal â thir a phriddoedd yn sychu.
Yn dilyn mis Mawrth eithriadol o sych, sef y pedwerydd sychaf ers 1944, cafwyd rhywfaint o law nodedig mewn rhannau o Gymru ym mis Ebrill, ond dychwelodd y tywydd cynnes a sych ym mis Mai.
Roedd y glawiad cronnus tri mis (Chwefror-Ebrill 2025) yng Nghymru yn 59% yr hyn a ddisgwylid ar gyfer yr adeg honno o'r flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i un o'r cyfnodau tri mis sychaf a gofnodwyd erioed.
O'r herwydd, mae timau ym mhob rhan o CNC yn adrodd bod llif y rhan fwyaf o afonydd ar hyn o bryd yn isel neu'n eithriadol o isel. Mae monitro dŵr daear hefyd yn cadarnhau bod lefelau'n gostwng yn gynharach na’r disgwyl fel arfer yn ystod y flwyddyn.
Mae timau ar lawr gwlad yn adrodd am bryderon ynghylch y cyfnod estynedig o dywydd sych ar yr amgylchedd, gan gynnwys adroddiadau am welyau afonydd sych, gordyfiant algâu a phryderon ynghylch mudo pysgod a gleisiaid mewn llifoedd isel.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tanau gwyllt wedi dwysáu mewn sawl ardal o Gymru ac mae swyddogion CNC yn rhoi cefnogaeth barhaus i wasanaethau tân ac achub er mwyn mynd i'r afael â nifer o ddigwyddiadau tanau gwyllt a glaswellt ar y tir y mae'n ei reoli.
Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy yn adrodd bod rhai lefelau dŵr mewn cronfeydd dŵr yn is nag y byddent fel arfer yr adeg hon o'r flwyddyn, ond ceir amrywiadau ar draws eu hardal weithredu, sy'n adlewyrchu lle mae'r glaw wedi disgyn.
Mae CNC yn cymerwyo eu cyngor i bobl ym mhob rhan o’r wlad o ddefnyddio dŵr yn ddoeth a helpu i ddiogelu cyflenwadau dŵr a'r Amgylchedd.
Meddai RhianThomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC:
“Er bod rhywfaint o law gwerthfawr yn cael ei ragweld ar gyfer y penwythnos ac yn ystod y wythnos nesaf, bydd yn cymryd amser a mwy o lawiad sylweddol cyn y bydd lefelau afonydd a chronfeydd dŵr yn adfer ar ôl y cyfnod estynedig poeth a sych hwn.
“Mae dechrau mor sych i’r flwyddyn yn achosi pryder sylweddol i iechyd ein hecosystemau a’n cynefinoedd, yn ogystal ag i reoli tir a’r sector amaethyddol. O'r herwydd, rydym wedi gwneud y penderfyniad i symud Cymru gyfan i statws tywydd sych estynedig.
“I ni, mae hyn yn golygu cynyddu ein camau gweithredu a’n gwaith monitro ar draws Cymru i helpu i liniaru’r effeithiau ar yr amgylchedd, y tir, a’r defnyddwyr dŵr a phobl, ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.
“Bydd ein timau sychder yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i adolygu’r statws, a byddant yn gweithio’n agos â’n partneriaid i sicrhau ein bod yn cymryd camau priodol i leihau’r effeithiau ar yr amgylchedd a defnyddwyr dŵr eraill ar hyd a lled Cymru.
“Er mwyn sicrhau y gellir parhau i gyflenwi dŵr heb niweidio’r amgylchedd, mae’r cyhoedd a busnesau ledled Cymru yn cael eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a rheoli’r adnodd gwerthfawr hwn.”
Cafodd penderfyniad CNC i gyhoeddi statws tywydd sych estynedig ei rannu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru yn gynharach heddiw. Mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys uwch-wneuthurwyr penderfyniadau o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmnïau dŵr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, undebau ffermio a chynrychiolwyr awdurdodau lleol.
Mae CNC yn ymgysylltu’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y dalgylchoedd trawsffiniol.
Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i’r llinell gymorth 24/7 drwy ffonio 0300 065 3000.
Gallai rhai ardaloedd hefyd fod â risg uwch o danau. Os gwelwch chi dân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.
Er mwyn cael gyngor ynghylch tywydd sych ac arferion amaethyddol ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyngor i ffermwyr mewn cyfnodau o dywydd sych
Mae gwefan Waterwise yn rhoi manylion ar sut i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Mae cwmnïau dŵr Cymru,Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) a Hafren Dyfrdwy (HD), hefyd yn cynnig cyngor i gwsmeriaid ar eu gwefannau ar sut i arbed dŵr.