CNC yn arwyddo Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth

Syr David Henshaw yn arwyddo siarter

Mae CNC wedi ymuno ymuno â 50 o sefydliadau cyhoeddus ledled Cymru sydd wedi llofnodi siarter sy'n golygu ein bod yn ymrwymo i ymateb i drasiedïau cyhoeddus mewn ffordd agored, dryloyw ac atebol

Mae'r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth drwy Drasiedi Gyhoeddus yn galw am newid diwylliannol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â theuluoedd mewn profedigaeth, gan sicrhau bod y gwersi o drychineb Hillsborough 1989 a'r hyn a ddigwyddodd wedi hynny yn cael eu dysgu er mwyn atal pobl rhag cael yr un profiad yn y dyfodol.

Mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, heddluoedd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaethau tân ac achub wedi ymrwymo i gynnig cymorth i deuluoedd sy'n dioddef profedigaeth a'r gymuned ar ôl digwyddiad mawr, gydag ymrwymiad clir i bobl ac i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad.

Caiff digwyddiad lansio ei gynnal ym Merthyr Tudful yr wythnos yma (dydd Mawrth 18 Mawrth).Yn bresennol yn y digwyddiad fydd yr Esgob James Jones KBE a ysgrifennodd y siarter fel rhan o'i adroddiad ar y gwersi i'w dysgu o drasiedi Hillsborough. Yn y digwyddiad hefyd fydd goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus, gan gynnwys Hillsborough, Tŵr Grenfell, Arena Manceinion ac Aberfan, sydd ond dafliad carreg i ffwrdd o leoliad y lansiad.

Dywedodd yr Esgob Jones:

Heddiw, mae Cymru yn arwain y ffordd gyda mwy na 50 o'i chyrff cyhoeddus yn llofnodi'r siarter. Wrth wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid ac mae ymrwymiad o'r newydd i wasanaeth cyhoeddus ac i barchu dynoliaeth y rhai rydym yn cael ein galw i wasanaethu.
Mae'r siarter yn cynrychioli addewid na chaiff unrhyw un ei gadael i lywio'i daith galaru a goroesi ar ei ben ei hun. Ni fydd neb yn dioddef 'tueddfryd nawddoglyd pŵer anesboniadwy' eto. 
Mae hyn yn foment allweddol ym mywyd y genedl wrth i ni groesawu egwyddorion y siarter ac addo parchu dynoliaeth pob un o'i dinasyddion a ddylai fod wrth galon pob gwasanaeth cyhoeddus.

Arwyddwyd y siarter gan Syr David Henshaw gan ddweud:

Mae’n fraint cael arwyddo’r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth, gan ymrwymo i gefnogi pobl sydd mewn galar gyda thosturi a pharch. 
Drwy fabwysiadu egwyddorion y Siarter, mae CNC yn ymrwymo i sicrhau bod teuluoedd sy’n galaru – sy’n un o brofiadau mwyaf heriol bywyd – yn cael eu cefnogi, a hynny gyda charedigrwydd, tosturi ac empathi bob cam o’r ffordd.