CNC yn rhannu canllawiau newydd ar gyfer newidiadau i drwyddedau cwympo coed yng Nghymru
Heddiw (13 Mawrth) mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi canllawiau ar bwerau newydd o dan y Ddeddf Coedwigaeth, a fydd yn caniatáu i’r corff amgylcheddol bennu amodau, diwygio, atal neu ddirymu trwyddedau cwympo coed yng Nghymru. Bydd y pwerau hyn hefyd yn caniatáu i ddeiliaid trwydded wneud cais i CNC i ddiwygio eu trwydded.
Bydd y pwerau newydd, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2024, yn caniatáu i CNC ddiogelu bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn well yn ystod gwaith cwympo coed.
Nid oedd y ddeddf flaenorol, Deddf Coedwigaeth 1967, yn caniatáu ychwanegu amodau at drwyddedau cwympo coed a fyddai’n helpu i sicrhau cyfanrwydd safleoedd a warchodir, rhywogaethau a warchodir, neu elfennau sensitif eraill o’r amgylchedd.
Gallai hyn fod wedi arwain at roi trwydded cwympo coed a allai fod wedi cael effaith negyddol ar yr amgylchedd ac a allai fod wedi mynd yn groes i ddeddfwriaeth amgylcheddol arall, megis Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
O dan y Ddeddf Goedwigaeth flaenorol, nid oedd gan CNC ychwaith unrhyw bwerau i ddiwygio, atal neu ddirymu trwydded a oedd wedi’i rhoi, pe bai rhywbeth am y gweithgaredd trwyddedig hwnnw’n dod yn annerbyniol (er enghraifft clefyd coedwigaeth yn effeithio ar y dewis o rywogaeth wrth ailstocio).
Bydd y diwygiadau newydd yn helpu i ffurfioli cydymffurfiaeth ag amodau trwyddedau cwympo coed ac yn mynd i’r afael ag anghysondebau o fewn y ddeddfwriaeth bresennol.
Mae’r canllawiau newydd yn cyflwyno’r amodau a byddant yn rhoi mwy o wybodaeth i’r rhai sy’n gwneud cais am drwydded cwympo coed ynghylch sut cânt eu gweithredu. Maent ar gael i’w gweld yma:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Coetiroedd a fforestydd (naturalresources.wales)
Mae’r pwerau newydd yn debyg i’r pwerau sydd eisoes gan awdurdodau coedwigaeth yn yr Alban.
Meddai Stephen Attwood, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru:
Rydyn ni’n falch iawn o allu rhannu cyhoeddiad y canllawiau heddiw, a fydd yn ein helpu i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau yng Nghymru yn well ac yn diogelu rhag difrod amgylcheddol yn ystod gwaith cwympo coed.
Drwy gydol y broses o ddatblygu’r canllawiau, roedd yn bwysig i ni ein bod yn ymgysylltu â’r diwydiant coedwigaeth a’n grŵp rhanddeiliaid, a hoffem ddiolch iddynt am eu hadborth drwy gydol y broses hon sydd wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae llawer o’r rhai sy’n gwneud cais am drwydded cwympo coed gyda ni heb gefndir coedwigaeth proffesiynol. Mae ychwanegiad yr amodau hyn wedi gwneud y safonau sy’n ofynnol ar gyfer diogelu’r amgylchedd yn gydnaws â Safon Coedwigaeth bresennol y DU a’r holl Ddeddfwriaeth Amgylcheddol berthnasol, gan eu gwneud yn gliriach ac yn haws i’w deall.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu’r canllawiau ymarferol hyn.
Mae’r canllawiau newydd yn nodi’r dull pwyllog y bydd CNC yn ei ddefnyddio i arfer y pwerau newydd hyn, sy’n bwysig i warchod bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn well yn ystod gwaith torri coed.
Gallwch wirio a oes angen trwydded cwympo coed arnoch ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwiriwch a oes angen i chi gael trwydded gwympo coed