CNC yn cyhoeddi Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol

Mae angen gweithredu ar frys ac ar y cyd ar unwaith os yw Cymru am unioni’r cydbwysedd rhwng dirywiad a diogelu ein hadnoddau naturiol o ystyried yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd yr ydym yn eu hwynebu nawr.

Dyma’r alwad gan arbenigwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dilyn cyhoeddi’r Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR 2025), sy’n nodi cam hollbwysig tuag at ddeall a diogelu’r elfennau hanfodol o natur sy’n sail i’n bywydau bob dydd. 

Fel un o ofynion Deddf yr Amgylchedd, mae CNC yn cyhoeddi adroddiad SoNaRR bob pum mlynedd, gan asesu’r pwysau y mae ecosystemau Cymru yn eu hwynebu, eu hansawdd a’u cyfraniadau at ein llesiant. Mae’n ymdrin ag ansawdd ein dyfroedd, yr aer yr ydym yn ei anadlu, y gwerth a’r buddion a gawn o’n tiroedd, moroedd, mannau trefol a gwyrdd, a chyfoeth ein planhigion, ein hanifeiliaid a’n pryfed.  

Bydd adroddiad llawn SoNaRR 2025 yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn a bydd yn darparu sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr ac unedig wedi’i diweddaru i’w defnyddio gan Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, a grwpiau eraill i lywio’r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru. Bydd CNC yn gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru a thu hwnt i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth hon dros y flwyddyn i ddod.

Cyn cyhoeddi’r adroddiad llawn, mae’r adroddiad interim yn dangos sut y byddwn yn cyflwyno’r dystiolaeth hon a rhai o’r heriau, blaenoriaethau a chyfleoedd allweddol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

Mae’n cyflwyno’r dystiolaeth ddiweddaraf ar yr heriau mwyaf enbyd sy’n wynebu’r amgylchedd ar hyn o bryd, tra hefyd yn tynnu sylw at dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg a cherrig milltir a gyrhaeddwyd ers cyhoeddi’r adroddiad llawn diwethaf yn 2020.

Nodir dirywiad cyflym byd natur ac effeithiau cynyddol ddwys newid yn yr hinsawdd a llygredd fel yr heriau mwyaf dybryd, gan fygwth nid yn unig yr amgylchedd ond hefyd iechyd a sefydlogrwydd economaidd cymunedau ledled Cymru.

Mae’r adroddiad yn amlygu lle mae cynnydd wedi’i wneud ar draws meysydd fel uchelgeisiau Cymru i gyrraedd sero net, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu cyfraddau ailgylchu. Mae hefyd yn myfyrio ar ymrwymiadau’r DU a Chymru i gefnogi adferiad byd natur erbyn 2030 drwy Addewid yr Arweinwyr dros Natur(2020), a thrwy uchelgeisiau Cymru i gyflawni'r argymhellion hynny drwy Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru.

Ac eto mae’r dystiolaeth sy’n dogfennu dirywiad parhaus byd natur yn ddiymwad, gyda’r adroddiad yn amlygu’r effeithiau canlyniadol y gall hyn eu cael ar bobl, eu llesiant a ffyniant y genedl.

O ystyried y dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, mae CNC yn galw ar Gymru i wneud pethau’n wahanol a gweithredu ar y cyd yn awr wrth inni geisio symud systemau cymdeithasol, economaidd ac ecolegol tuag at gyfeiriad mwy cynaliadwy. 

Wrth i Gymru symud tuag at flwyddyn etholiad yn 2026, mae’r adroddiad yn tanlinellu’n bendant pa mor bwysig yw hi i bobl sy’n gweithio ar draws llywodraethau, busnesau, sefydliadau a phob rhan o gymdeithas fanteisio ar eu gallu eu hunain a sefydlu meddylfryd, penderfyniadau a gwaith cyflawni sydd oll o blaid natur er mwyn cefnogi cynaliadwyedd adnoddau naturiol Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Syr David Henshaw:

“Mae adnoddau naturiol yn hanfodol i Gymru ac yn sail i bopeth o’r aer rydyn ni’n ei anadlu a’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, i’r diwydiannau sy’n gyrru ein heconomi. Ond, fel y mae’r adroddiad tystiolaeth hwn yn ei bwysleisio, mae’r adnoddau hyn dan bwysau cynyddol.
“Mae'n rhaid i gyhoeddiad yr adroddiad interim hwn arwain at foment dyngedfennol yn nhaith Cymru tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i'r adnoddau naturiol hyn. Er bod yr heriau sy'n ein hwynebu yn hysbys ac yn ddiymwad, mae cyfle arbennig i weithredu hefyd.  
“Wrth i ni edrych tuag at gyhoeddi’r adroddiad llawn ar ddiwedd y flwyddyn, ac etholiad y Senedd yn 2026, mae’r dystiolaeth a amlinellir yn yr adroddiad interim hwn yn darparu map ffordd clir ar gyfer yr hyn y gellir ei wneud i wrthdroi’r difrod ac adeiladu dyfodol iachach a mwy llewyrchus i Gymru.
“Bydd cymryd camau ataliol yn hollbwysig os ydym am gyrraedd y nod hwnnw. Ond drwy ddod ynghyd—llywodraeth, busnes, a chymdeithas—a thrwy roi’r strategaethau, y polisïau, a’r buddsoddiadau cywir yn eu lle, mae potensial sylweddol i wella cyflwr adnoddau naturiol Cymru a sicrhau bod eu buddion yn parhau am genedlaethau i ddod.”

Bydd adroddiad SoNaRR2025 yn ffrwyth blynyddoedd o ddadansoddi arbenigol, gan ddefnyddio’r data mwyaf diweddar a chadarn sydd ar gael. Mae’r data, sydd wedi’i baratoi gan arbenigwyr yn CNC gyda chyfraniadau gan arbenigwyr a rhanddeiliaid o Gymru ac yn ystyried ymchwil a gyhoeddwyd ledled y byd, yn cynnig sylfaen dystiolaeth hanfodol i arwain y broses o wneud penderfyniadau.

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Rydyn ni i gyd eisiau aer, dŵr a phridd glân ar gyfer ein hanwyliaid, a bwyd iach, fforddiadwy a hygyrch ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol - ac eto mae’r adroddiad pwysig hwn yn rhybuddio bod colledion natur, y newid i’r hinsawdd, llygredd a gwastraff, ac effeithiau hyn oll, yn gwaethygu.
“Mae’r rhan fwyaf o’r atebion sydd eu hangen ar gyfer achub byd natur eisoes yn bodoli, ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r adroddiad arwyddocaol hwn - a gyhoeddwyd yn negfed flwyddyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol - i weithredu ar y cyd, a hynny ar fyrder, nawr.
“Gall Cymru wneud cymaint mwy nawr i adfer natur a bywyd gwyllt er budd ein hiechyd, ein heconomi a’n diwylliant - gan gynnwys buddsoddi mewn cynlluniau natur sy’n eiddo i’r gymuned sy’n lleihau anghydraddoldeb ac sy’n ysgogi buddion go iawn i bobl, heddiw ac yfory.”

Bydd Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn cael ei gyhoeddi yn ei gyfanrwydd erbyn diwedd 2025 a bydd yn darparu mewnwelediadau pellach ac argymhellion ar gyfer gweithredu.