Mae CNC yn blaenoriaethu gwelliannau effeithlonrwydd dŵr ar draws ei adeiladau
Mae CNC wedi cymryd camau i wella ei effeithlonrwydd dŵr ar draws ei holl swyddfeydd ac ystadau wrth i Gymru ddygymod eto â chyfnod hir o dywydd sych.
Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau a bydd yn digwydd rhwng 1 Mehefin a 30 Medi 2023 fel rhan o raglen adnewyddu asedau CNC. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi tri amcan ein Cynllun Corfforaethol er mwyn sicrhau’r canlynol erbyn 2030:
- Byd natur wrthi'n gwella
- Cymunedau'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd
- Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf
Mae'r Cynllun Corfforaethol yn cydnabod bod effeithlonrwydd dŵr yn chwarae rhan allweddol wrth leihau ein hallyriadau carbon. Mae defnyddio llai o ddŵr yn lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn, gan ein helpu i gyflawni sero net.
Mae defnyddio llai o ddŵr yn gwella ein heffeithlonrwydd adnoddau a’n gwytnwch ac yn lleihau'r dŵr gwastraff rydym yn ei gynhyrchu, gan leihau ein heffaith gyffredinol ar yr amgylchedd.
Bydd y rhaglen yn adeiladu ar yr asedau effeithlonrwydd dŵr rydym eisoes wedi’u rhoi ar waith trwy wneud y canlynol:
- Gosod unedau fflysio deuol newydd yn lle’r toiledau presennol (lleihau’r defnydd o ddŵr i 4.5 / 3 litr bob tro y'u defnyddir)
- Gosod awyryddion newydd yn lle’r tapiau presennol, gan leihau’r llif dŵr i 4 litr y funud o 8 litr y funud, a gosod falfiau gwthio i gychwyn/stopio'r llif dŵr o'r tap
- Gosod falfiau cymysgu thermostatig (TMVs) i leihau'r defnydd o ynni wrth ddefnyddio dŵr poeth
Rhagwelir y bydd y mesurau hyn yn arbed 65% o'r dŵr rydym yn ei ddefnyddio ar unwaith.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol CNC:
“Yn dilyn sychder 2022, a’r cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf bod Cymru unwaith eto yn dechrau cyfnod o ‘dywydd sych hir’, rhaid i ni i gyd gymryd camau i sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau dŵr gwerthfawr yn ddoeth bob dydd.”
“Gyda'r cyfnodau o dywydd sych yn mynd i gynyddu wrth i’r argyfwng hinsawdd waethygu, rydym wedi penderfynu blaenoriaethu ein rhaglen effeithlonrwydd dŵr ar draws ein hystâd ac annog pawb i edrych ar y camau y gallant eu cymryd i ddefnyddio dŵr yn ddoeth, gan ein helpu ni a phobl Cymru i addasu i’r argyfwng natur a hinsawdd rydyn ni i gyd yn ei wynebu.”
Bydd CNC yn monitro ein safleoedd i sicrhau arbedion eraill, gan rannu ein profiad ac annog busnesau, trigolion a phob sector o gymdeithas i gymryd camau eu hunain i liniaru ein heffaith ar yr amgylchedd a thrwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth bob dydd.
Mae 95% o’n dŵr yfed yng Nghymru yn cael ei gymryd o ddŵr wyneb (cronfeydd dŵr, llynnoedd, afonydd) ac mae lleihau faint rydym yn ei ddefnyddio hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y rhywogaethau a’r fioamrywiaeth sy’n dibynnu ar yr amgylcheddau dyfrol hyn.
Cydnabu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei adroddiad CCRA3 mai effeithlonrwydd dŵr sydd â’r gymhareb budd a chost fwyaf o unrhyw gamau y gallwn eu cymryd i addasu i effeithiau newid hinsawdd.
Gyda bron i 20% o’n biliau ynni cartref yn gysylltiedig â gwresogi dŵr ar gyfer golchi neu gynhesu, gall gwella ein heffeithlonrwydd dŵr a bod yn ymwybodol o’n defnydd o ddŵr gael effaith wirioneddol ar ein biliau ynni yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gweler Waterwise am rai awgrymiadau am sut i arbed dŵr.
I gael gwybod sut y gallwch chi wneud mwy o newidiadau, fel cael mesurydd dŵr, cysylltwch â'ch darparwr dŵr DCWW neu Hafren Dyfrdwy. Gallwch gael cymorth a chyngor ganddynt hefyd os ydych yn rhedeg busnes.
Rydym yn annog pob ffermwr i ymgymryd ag archwiliad dŵr fel rhan o'r cyngor ehangach rydym yn ei roi yn ystod cyfnodau o dywydd sych ac i helpu i gynllunio ar gyfer digwyddiadau tywydd sych yn y dyfodol.