CNC yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni gweledigaeth 25 mlynedd i helpu i ragweld a rheoli perygl llifogydd
- Mae’r map trywydd yn casglu safbwyntiau mwy na 100 o arbenigwyr o dros 50 sefydliad
- Bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio sut rydym yn addasu i berygl llifogydd o’n hafonydd, dŵr wyneb, dŵr daear a chronfeydd dŵr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr o bob rhan o'r DU i ddatblygu map trywydd ar gyfer hydroleg llifogydd a chyflwyno gweledigaeth i helpu gwyddonwyr ac ymarferwyr i ragweld llifogydd yn well yn y dyfodol a gwella gwydnwch yn erbyn llifogydd ledled y DU.
Mae'r map trywydd ar gyfer hydroleg llifogydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn dwyn ynghyd safbwyntiau mwy na 100 o arbenigwyr o dros 50 o sefydliadau sydd â'r uchelgais cyffredin o wella data, modelau a gwyddoniaeth hydrolegol. Yna, gellir defnyddio hyn i lywio sut rydym yn addasu i berygl llifogydd o'n hafonydd, dŵr wyneb, dŵr daear a chronfeydd dŵr.
Bydd y modelau hyn yn sail i waith rheoli perygl llifogydd am ddegawdau i ddod, a dyma rai o’r manteision y bydd ardaloedd yn elwa ohonynt:
- dylunio a chynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd;
- asesu a mapio perygl llifogydd ar lefel genedlaethol a lleol;
- dylunio a gweithredu cynlluniau rhagweld a rhybuddio am lifogydd;
- dylunio a gweithredu systemau draenio cynaliadwy; a
- deall effaith newid y yr hinsawdd ar berygl llifogydd yn y dyfodol.
Bydd y map trywydd hefyd yn ein helpu i ddeall effaith newid yn yr hinsawdd ar berygl llifogydd a bydd yn cefnogi gwaith modelu effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y gorffennol ac yn y dyfodol.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd eisoes wedi sicrhau £6.9 miliwn dros chwe blynedd i ddechrau cyflawni’r map trywydd ac mae'n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Alban, Adran Seilwaith Gogledd Iwerddon ac Ymchwil ac Arloesi y DU i ganfod llwybrau at gyllid pellach.
Meddai Dr Sean Longfield, y Gwyddonydd Arweiniol ar Ymchwil i Reoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol, ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd:
"Mae'r map trywydd hwn yn rhoi cyfle gwych i ni ddeall yn well y wyddoniaeth y tu ôl i lifogydd a bydd yn arf amhrisiadwy i'n helpu i ddeall perygl llifogydd yn y dyfodol.
"Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio'n galed i sicrhau bod argymhellion y map trywydd yn cael eu dilyn fel y gallwn ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o wybodaeth, dulliau, modelau a systemau hydroleg llifogydd a fydd yn sail i reoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol am ddegawdau i ddod."
Bwriedir i'r map trywydd gynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon rhwng 2021 a 2046. Mae Bwrdd Llywodraethu ar gyfer y Map Trywydd Hydroleg Llifogydd wedi'i sefydlu i sicrhau bod y map trywydd yn cael ei ddatblygu.
Meddai Andrew Wall, sef Rheolwr Gwasanaethau Perygl Llifogydd Cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae hydroleg yn sail i bopeth rydym yn ei wneud i amcangyfrif perygl llifogydd mewndirol hirdymor ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth lywio sut mae awdurdodau rheoli perygl llifogydd fel CNC yn targedu ymdrechion a buddsoddiad i leihau'r risg honno i bobl ac eiddo.
"Mae'r tywydd eithafol a'r llifogydd difrifol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi tynnu sylw at bwysigrwydd deall sut mae ein hafonydd, ein llynnoedd a'n cronfeydd dŵr yn ymateb i law trwm.
"Mae'n hanfodol bod y data a'r dulliau dadansoddol diweddaraf a ddefnyddiwn yn ystyried sut y gall tirwedd sy'n esblygu'n barhaus a newid yn yr hinsawdd effeithio ar berygl llifogydd. Rydym wedi croesawu'r cyfle i asiantaethau ledled y DU ddod at ei gilydd i adolygu hydroleg llifogydd a datblygu map trywydd ar gyfer gwella ein data a'n technegau yn y dyfodol. Mae CNC yn edrych ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn yr ymdrech bwysig hon a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu a chyflawni'r weledigaeth ar gyfer hydroleg llifogydd ledled y DU."
- Bydd yr adroddiad ar gael yma: map trywydd hydroleg llifogydd
- Nod y map trywydd hydroleg llifogydd yw cyflwyno gweledigaeth 25 mlynedd ar gyfer hydroleg llifogydd yn y DU a chynllun gweithredu i wireddu'r weledigaeth honno. Mae prosiect y map trywydd wedi'i arwain gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar ran cymuned hydroleg llifogydd y DU.
- Mae hydroleg llifogydd yn is-set o hydroleg sy'n arbenigo mewn agweddau ar y cylch dŵr sy'n gysylltiedig â llifogydd.
- Er mwyn llwyddo i gyflawni'r weledigaeth o greu map trywydd hydroleg llifogydd y DU, bydd angen arweinyddiaeth gref, a gwell trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws y gymuned hydroleg llifogydd.