Ymyrraeth CNC yn arwain at adfer llednant afon Clwyd oedd wedi'i difrodi

Mae gweithgarwch anghyfreithlon yn un o lednentydd afon Clwyd wedi cael ei atal ac mae'r safle wedi'i adfer yn dilyn camau gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ymatebodd swyddogion CNC i adroddiad o weithgarwch sylweddol heb awdurdod ar y cwrs dŵr dienw sy'n llifo i'r afon ger Rhuthun.
Wrth ymweld â'r safle, canfu swyddogion fod rhywun wedi aflonyddu ar tua 250 metr o'r cwrs dŵr. Roedd peiriant cloddio wedi cael ei ddefnyddio i newid y sianel trwy grafu'r glannau, ac roedd yr holl lystyfiant ar hyd y glannau - a elwir yn llystyfiant torlannol - wedi cael ei dynnu oddi yno.
Gall addasiadau o'r fath arwain at effeithiau amgylcheddol difrifol. Gallant niweidio cynefinoedd bywyd gwyllt, lleihau ansawdd dŵr a chynyddu'r risg o lifogydd yn lleol ac i lawr yr afon.
Mewn ymateb, cyhoeddodd CNC Hysbysiad Gwaith Difrod Hydromorffolegol. Roedd yr hysbysiad ffurfiol hwn yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog y tir roi’r gorau i unrhyw weithgaredd ar unwaith, cyflwyno datganiad dull yn amlinellu sut y byddai’r ardal a ddifrodwyd yn cael ei hatgyweirio, a chynnal gwaith adfer priodol. Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn drosedd.
Yn dilyn yr hysbysiad, cysylltodd perchennog y tir â swyddogion CNC a derbyniodd gyngor ac eglurhad pellach ynglŷn â’r hyn oedd ei angen. Yna cydymffurfiodd perchennog y tir yn llawn â'r hysbysiad. Cafod gwaith adfer ei wneud, gan gynnwys ffensio o amgylch y darn o’r cwrs dŵr a oedd wedi'i ddifrodi er mwyn cadw da byw allan a chaniatáu i lystyfiant a oedd newydd gael ei blannu ymsefydlu ar hyd y glannau.
Meddai Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae afonydd a nentydd yn rhan hanfodol o’n hamgylchedd naturiol. Maen nhw’n darparu cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt, maen nhw’n helpu i reoli perygl llifogydd, ac yn cynorthwyo iechyd ein hecosystemau.
“Gall gweithgarwch fel hyn achosi difrod hirdymor. Rydym yn falch o weld bod ein hymyrraeth wedi arwain at gamau gweithredu cadarnhaol, a bod y tirfeddiannwr yn cymryd camau i adfer y cwrs dŵr er mwyn atal difrod pellach.
“Rydym yn annog tirfeddianwyr a rheolwyr tir i gysylltu â ni cyn gwneud unrhyw waith mewn neu gerllaw cyrsiau dŵr er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac yn osgoi gwneud difrod i’r amgylchedd.”
Dyma lun o'r nant ar ôl gwaith adfer.