Camau gorfodi CNC yn lleihau perygl llifogydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Mae camau gorfodi llwyddiannus a gymerwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer gwaith heb ganiatâd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru wedi arwain at lai o berygl llifogydd ac wedi cyfyngu ar y potensial ar gyfer effeithiau andwyol ar yr amgylchedd lleol.
Yn ddiweddar, cwblhaodd tîm Datblygu a Pherygl Llifogydd CNC gyfres o gamau gorfodi llwyddiannus yn erbyn gweithgareddau nad oedd ganddynt ganiatâd ar sawl safle ar draws y rhanbarth.
Mae cyngor atal llygredd, llythyrau rhybuddio a hysbysiadau adfer wedi'u rhoi i amrywiaeth o dirfeddianwyr i wella effeithiau gwaith niweidiol a allai gynyddu'r perygl o lifogydd neu achosi difrod amgylcheddol.
Cafodd swyddogion CNC wybod fod bwnd pridd yn cael ei adeiladu, a hynny heb ganiatâd, o fewn gorlifdir Afon Alun yn Llong yn Sir y Fflint. Er bod y bwnd wedi'i gynllunio'n wreiddiol i leihau perygl llifogydd i lan afon y tirfeddiannwr, gallai fod wedi newid llif llifogydd yn y gorlifdir ac arwain at fwy o berygl llifogydd ar y lan gyferbyn. Er gwaethaf trafodaethau cychwynnol, ni ostyngodd y tirfeddiannwr lefel y bwnd, gan arwain at hysbysiad adfer. Yn y pen draw, torrodd y tirfeddiannwr 600mm oddi ar y bwnd, gan leihau'r perygl o lifogydd posibl. Cyhoeddwyd llythyr rhybuddio hefyd.
Yn Rhuthun, rhoddodd CNC sylw i waith i garthu Afon Alun ym Mhlas yn Rhal, a ddigwyddodd ar adeg pan nad oedd gwaith yn yr afon yn cael ei ganiatáu. Roedd perygl o effeithiau geomorffolegol niweidiol yn sgil y gwaith, a chynyddodd berygl llifogydd yn yr ardal. Roedd y camau adfer yn cynnwys dychwelyd gwaddod wedi'i garthu a chyflwyno ffensys a waliau cynnal meddal i sefydlogi'r glannau.
Yn Bridge House yn Wrecsam, cafodd caergewyll eu gosod heb ganiatâd. Y bwriad oedd atal erydiad ar lannau Nant Melin Halchdyn ond cynyddodd y perygl o erydiad a llifogydd ar ôl eu gosod. Yn dilyn hysbysiad adfer, tynnwyd y caergewyll, ac adferwyd y clawdd gyda llystyfiant brodorol i wella sefydlogrwydd.
Ym Mhrestatyn, gosododd perchennog tir geuffosydd dwbl ar Ddraen Neuadd y Nant a oedd yn rhy fach ac ni chafwyd y caniatâd gofynnol. Rhoddwyd cyngor ac arweiniad ar atal llygredd a llythyr rhybuddio i'r tirfeddiannwr, a chafodd y groesfan ei symud yn y pen draw. Fe’u cynghorwyd hefyd i wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd i osod croesfan fynediad newydd dros yr afon.
Mae'r pedwar achos hyn yn rhan o 90 o gamau gorfodi parhaus ac mae'r nifer yn parhau i godi.
Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau CNC, Rheoli Llifogydd a Dŵr:
“Mae rheoli perygl llifogydd yn effeithiol yn hanfodol ar gyfer lleihau perygl llifogydd i’n cymunedau a’r amgylchedd. Cwblhawyd y gweithgareddau gan y tirfeddianwyr yn yr achosion hyn heb y trwyddedau angenrheidiol ar gyfer gweithgareddau perygl llifogydd. Mae’r ystod o gamau gorfodi a ddefnyddiwyd yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau perygl llifogydd a diogelu ein hadnoddau naturiol.
“Trwy fynd i’r afael â gweithgareddau perygl llifogydd nas caniateir, gallwn helpu i leihau perygl llifogydd yn y dyfodol a gwella gallu’r rhanbarth i addasu a lliniaru effeithiau hinsawdd yn y dyfodol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer sicrhau iechyd hirdymor ein dyfrffyrdd a diogelwch ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd.”