CNC yn cyflwyno camau rheoleiddio cryfach yn wyneb argyfyngau’r hinsawdd, natur a llygredd
Heddiw (13 Tachwedd 2025) mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol, gan dynnu sylw at sut mae'r sefydliad yn defnyddio ei bwerau rheoleiddio i amddiffyn amgylchedd Cymru, lleihau risg llygredd, a thargedu adnoddau lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl a natur.
Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, mae CNC yn chwarae rhan hanfodol wrth oruchwylio diwydiannau ledled y wlad. O gwmnïau dŵr i safleoedd rheoli gwastraff, rydym yn ymateb i'r nifer gynyddol o ddigwyddiadau amgylcheddol a achosir gan newid hinsawdd, dirywiad byd natur a llygredd.
Mae ein Hadroddiad Rheoleiddio, a gyhoeddir bob blwyddyn, yn darparu adolygiad cynhwysfawr o'n gweithgareddau rheoleiddio a gorfodi ar draws ein cylch gwaith ar gyfer blwyddyn galendr 2024. Mae'n cwmpasu ymateb i ddigwyddiadau, trwyddedu, cydymffurfio, troseddu a'n camau gorfodi a chosbi.
Mae adroddiad 2024 yn dangos blwyddyn o weithgarwch rheoleiddio dwysach, gyda chynnydd sydyn mewn adrodd ar ddigwyddiadau, gwiriadau cydymffurfio a chamau gorfodi. Mae'r data'n adlewyrchu maint yr heriau a gyflwynir gan yr argyfyngau hinsawdd, natur a llygredd, ac ymrwymiad CNC i ymdrin â digwyddiadau sy'n peri'r risg fwyaf i'n hamgylchedd.
Dyma brif ganfyddiadau'r adroddiad ar gyfer blwyddyn galendr 2024:
- Derbyniwyd 12,922 o adroddiadau am ddigwyddiadau yn 2024 - cynnydd o 46% ar 2023
- Aseswyd 976 o ddigwyddiadau fel rhai 'lefel uchel' sy'n gofyn am ymateb ar unwaith. Fe wnaethon ni ymateb i 95% o ddigwyddiadau lefel uchel o fewn pedair awr
- Aethom i 20% o'r holl ddigwyddiadau yn 2024 (2,118) - sy’n debyg i flynyddoedd blaenorol, er ein bod wedi delio gyda dros 4,400 yn rhagor o adroddiadau digwyddiadau
- Roedd digwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwastraff a dŵr yn cyfrif am 80% (8,288) o'r holl adroddiadau o fewn ein cylch gwaith yn 2024
- Cymerwyd camau gorfodi yn erbyn 619 o gwmnïau a 636 o unigolion, gan gynnwys 80 o achosion erlyn a oedd yn cwmpasu 112 o droseddau
- Fe wnaethon ni gynnal 3,769 o asesiadau cydymffurfio, gan gynnwys 650 o arolygiadau o dan y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (CoAPR)
- Cafwyd cynnydd o 39% mewn rhybuddion ffurfiol, gyda 36 wedi'u cyhoeddi
- Bu cynnydd o 27% mewn asesiadau cydymffurfiaeth ffermio dwys
- Bu cynnydd o 91% mewn asesiadau cydymffurfiaeth â thrwyddedau rhyddhau dŵr, gyda chyfanswm o 1,243
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at waith CNC ar draws sectorau gan gynnwys bioamrywiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth, perygl llifogydd, a rheoleiddio morol.
Mae CNC wedi gwneud newidiadau strategol i ganolbwyntio’n fanylach ar feysydd lle gall gyflawni’r effaith fwyaf. Drwy symleiddio gweithrediadau a chanolbwyntio adnoddau ar wasanaethau hanfodol, mae'r sefydliad wedi gallu buddsoddi mewn meysydd blaenoriaeth a fydd yn creu manteision hirdymor i amgylchedd Cymru.
Meddai Becky Favager, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu gyda CNC:
“Rydym yn parhau i gryfhau ein system reoleiddio drwy wella’r modd yr ydym yn monitro cydymffurfiaeth - gan gynnwys cynnal mwy o ymweliadau safle ac archwiliadau. Mae'r cynnydd mewn digwyddiadau a gweithgarwch rheoleiddiol yn adlewyrchu'r pwysau cynyddol ar ein hamgylchedd, ond hefyd ymroddiad ein timau i amddiffyn pobl a natur.
“Rydym hefyd wedi bod yn ceisio pwerau ychwanegol i ystyried sancsiynau sifil ar gyfer ystod ehangach o droseddau amgylcheddol, fel offeryn ychwanegol yn ein pecyn cymorth gorfodi.
“Wrth i ni wynebu effeithiau newid hinsawdd, llygredd a cholli bioamrywiaeth, byddwn yn parhau i addasu ein dulliau a rhoi ein sylw i’r meysydd pwysicaf, gan weithio gyda phartneriaid a chymunedau i gyflawni gwelliannau parhaol.”
Gallwch ddarllen Adroddiad Rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru 2024 yn llawn yma.