Dyn o Gasnewydd yn euog o droseddau gwastraff anghyfreithlon

Canfod pentwr mawr o wastraff Clwb Gwaith Courtybella yng Nghasnewydd

Mae dyn o Gasnewydd wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am ollwng symiau sylweddol o wastraff ar ei dir, heb drwydded amgylcheddol, yn dilyn achos llys deuddydd o hyd yn Llys Ynadon Caerdydd.

Gorchmynnwyd Mohammed Zishan Ali Hassan a’i gwmni CF39 Ltd i dalu cyfanswm cyfunol o £19,886 ar ôl ei gael yn euog o ganiatáu i wastraff cymysg cyffredinol a gwastraff sy’n gyson â gwaith clirio ac adnewyddu tai, gael ei ollwng ar ei dir yng Nghlwb Gwaith Courtybella yn Casnewydd, a gweithredu cyfleuster a reoleiddir heb drwydded amgylcheddol.

Mae hon yn drosedd o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Ymwelodd CNC â’r safle am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2022, ynghyd â swyddogion o Gyngor Casnewydd a Heddlu Gwent ar ôl derbyn adroddiadau am weithgarwch gwastraff anghyfreithlon ar y safle.

Ar ôl cyrraedd, daethant o hyd i lawer iawn o wastraff cymysg gan gynnwys brics, llechi, concrit, teils, a serameg, yn ogystal â bwrdd plastr, ewyn inswleiddio, eitemau trydanol, a matresi.

Cyflwynwyd Hysbysiad Adran 59 i Mr Hassan a'r Cwmni, yn ei gwneud yn ofynnol i symud y gwastraff o'r safle.

Fe'i hysbyswyd gan swyddogion fod gollwng gwastraff ar dir yn anghyfreithlon a dywedwyd wrtho na ddylid gwaredu unrhyw wastraff pellach yn y lleoliad.

Yn ystod ymweliad dilynol ym mis Mai 2022, canfu swyddogion CNC fod Mr Hassan wedi methu â chydymffurfio’n llawn â’r hysbysiad a bod tystiolaeth bod gweithgarwch gwastraff yn parhau ar y safle.

Yna, cyflwynwyd Hysbysiad A34 i Mr. Hassan a'i Gwmni yn gofyn iddo ddarparu nodiadau trosglwyddo gwastraff, i ddangos ei fod wedi cyflawni ei rwymedigaethau dyletswydd gofal, wrth sicrhau ei fod wedi cadw disgrifiad ysgrifenedig o'r gwastraff a fewnforiwyd neu a gynhyrchwyd yn y safle. Eto, ni wnaeth gydymffurfio â'r hysbysiad hwn.

Meddai Su Fernandez, Uwch Swyddog Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru:

Rydym yn cymryd adroddiadau am wastraff sy’n cael ei waredu’n anghyfreithlon o ddifrif. Mae'r gweithgaredd yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd lleol ac yn tanseilio gweithredwyr gwastraff cyfreithlon sy'n cadw at y rheolau.
Mae rheoliadau amgylcheddol ar waith am reswm. Mae angen trwyddedau i fusnesau sy'n symud ac yn storio gwastraff, er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw'n peri risg i'r amgylchedd nac i iechyd pobl.
Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos hwn yn cyfleu neges glir ein bod yn trin troseddau o'r math hwn yn hynod ddifrifol. Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd y camau priodol i ddiogelu pobl a natur ac i helpu i ddiogelu'r farchnad ar gyfer gweithredwyr cyfreithlon.

Meddai’r Cynghorydd Yvonne Forsey, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth:

Roedd hwn yn achos cymhleth, ac mae’n dangos bod gweithio’n dda mewn partneriaeth yn hollbwysig os ydym am atal troseddau gwastraff difrifol.
Mae’r math yma o weithgarwch yn difetha ein cymunedau, ac mae’r cyngor yn falch iawn o weld bod yr achos llys hwn wedi arwain at erlyniad llwyddiannus.

Er iddo bledio’n ddieuog, cafwyd Mr Hassan yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher 10 Gorffennaf a gorchmynnwyd iddo dalu dirwy o £3000.

Gorchmynnwyd ei gwmni CF39 Ltd, y mae Mr Hassan yn unig gyfarwyddwr arno, i dalu £8,000. Yn ogystal, gorchmynnwyd Mr Hassan a’i gwmni i dalu costau llawn CNC o £8,506 a gordal dioddefwr o £380, gan ddod â’r cyfanswm i £19,886.

Er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ffoniwch 0300 065 3000 neu defnyddiwch y ffurflen adrodd ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad