Mae data ansawdd dŵr newydd yn taflu goleuni ar iechyd dyfroedd Cymru

Mae data ar lefelau ffosfforws yn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Cymru yn dangos gwelliannau bach, tra bod dosbarthiadau ansawdd dŵr dros dro ar gyfer afonydd Cymru yn aros ar lefel gyson.
Mae’n rhaid i ymdrechion cydweithredol, a chydunol, o fynd i’r afael â llygredd dŵr barhau ar raddfa fawr er mwyn ysgogi gwelliannau i ansawdd dŵr, meddai arbenigwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wrth i ddata newydd ar ansawdd dŵr, a data dros dro, gael eu cyhoeddi.
Mae data ar gyfer cydymffurfiaeth lefelau ffosfforws yn dangos bod 50% o gyrff dŵr unigol afonydd ACA Cymru bellach yn cyrraedd y targedau llym, o gymharu â 39% yn 2021
Aseswyd cyfanswm o 122 o gyrff dŵr unigol o fewn naw afon ACA yng Nghymru – wyth yn fwy nag a aseswyd ar gyfer adroddiad 2021.
Mae cymhariaeth uniongyrchol rhwng y rheini a aseswyd yn 2021 a’r rheini a aseswyd yn 2024 yn dangos bod 17 yn symud i statws pasio, tra bod pump yn methu â chydymffurfio bellach.
Ond er bod gwelliannau wedi’u cofnodi, mae nifer y dalgylchoedd afonydd ACA sy’n methu â chydymffurfio wedi cynyddu o bump yn 2021 i saith yn yr asesiad diweddaraf oherwydd newidiadau o ran pasio a methu yng nghyrff dŵr unigol.
Roedd afonydd ACA afon Gwyrfai ac afon Eden yng ngogledd-orllewin Cymru ill dwy yn cwrdd â thargedau ffosfforws yn flaenorol, ond erbyn hyn mae gan bob un corff dŵr sy'n methu.
Mae hyn bellach yn golygu y bydd afon ACA afon Gwyrfai yn destun cyfyngiadau datblygu er mwyn atal rhagor o ffosfforws rhag effeithio ar ansawdd y dŵr. Ni fydd ei angen ar gyfer dalgylch afon Eden gan mai un sampl uchel oedd yn gyfrifol am y methiant.
Mae gwelliannau i lawr yr afon yn afon Gwy, sydd bellach yn pasio’r targed ffosfforws, yn golygu y gellir codi’r cyfyngiadau ar ddatblygu yn y corff dŵr mwyaf i lawr yr afon yn unig.
Fodd bynnag, bydd angen datblygu cynaliadwy parhaus i gynnal cydymffurfiaeth yn y dyfodol.
Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol CNC:
“Mae’r canlyniadau ar gyfer ein hafonydd Ardal Cadwraeth Arbennig yn galonogol, ac yn awgrymu bod y camau gweithredu a gymerwyd yn y blynyddoedd diwethaf yn dechrau gwneud gwahaniaeth.
“Ond rhaid i ni gofio hefyd fod yna oedi rhwng ein gweithredoedd ac unrhyw welliannau mesuradwy o ran ansawdd y dŵr, ac yn sicr fe fydd yn cymryd mwy o amser cyn i ni weld y math o welliannau sylweddol rydyn ni i gyd eisiau eu gweld.
Ers ein hadroddiad yn 2021, rydym wedi gweld camau gweithredu ar raddfa fawr gennym ni fel rheoleiddwyr amgylcheddol, a chan y llywodraeth, diwydiant a chymunedau, i wella iechyd ein hafonydd.
Yr hyn sy'n bwysig nawr yw ein bod yn defnyddio'r dystiolaeth hon i barhau i weithio tuag at ein nod cyffredin o wella iechyd afonydd ar gyfer pobl a byd natur. Rhaid inni gadw’r momentwm sydd wedi’i adeiladu dros y blynyddoedd diwethaf, a rhaid inni i gyd chwarae ein rhan i leihau ffosfforws a llygredd yn ein dyfroedd.”
Ers adroddiad CNC ar gydymffurfedd ffosfforws yn 2021, mae byrddau rheoli maethynnau wedi’u sefydlu mewn dalgylchoedd ACA sy’n methu, gyda’r dasg o leihau llygredd ffosffadau.
Mae cyfres o uwchgynadleddau ynghylch llygredd afonydd dan arweiniad gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dod â chynrychiolwyr pwysig o wahanol ddiwydiannau at ei gilydd i gyflawni cynllun gweithredu, gan gynnwys camau gweithredu i alluogi datblygiadau tai mewn dalgylchoedd sy’n sensitif i ffosfforws.
Mae hyn yn cynnwys prosiect helaeth dan arweiniad CNC i adolygu trwyddedau amgylcheddol gollyngiadau dŵr gwastraff mwy mewn dalgylchoedd ACA. Mae CNC wedi amrywio cyfanswm o 162 o drwyddedau i gynnwys terfyn ffosfforws neu dynhau terfyn ffosfforws – naill ai ar unwaith neu o fewn rhaglenni rheoli asedau Dŵr Cymru.
Mae’r gwaith hwn wedi bod yn hanfodol i hysbysu cwmnïau dŵr, ac awdurdodau cynllunio lleol, ynghylch lle mae capasiti ar gyfer datblygiadau tai newydd, heb ychwanegu at y llwyth ffosfforws mewn dalgylchoedd sy’n methu’r targedau yn barod.
Mae dosbarthiadau dros dro o dan Reoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr hefyd yn cael eu cyhoeddi heddiw.
Mae’r rhain yn dangos bod ansawdd dŵr yn parhau ar lefel gyson, gyda 40% o gyrff dŵr ar statws cyffredinol da neu well. Mae hyn yr un fath â dosbarthiad diweddaraf CNC yn 2021, ond yn cynrychioli gwelliant o 3% ers 2015, a 8% ers 2009.
Mae Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn defnyddio dull ‘un yn methu, pob un yn methu’ ar gyfer yr asesiad statws cyffredinol, sy’n golygu, os bydd un o’r elfennau a aseswyd yn methu, bydd y corff dŵr cyfan yn methu. Heb hyn, o edrych ar bob elfen unigol, mae 93% o gyrff dŵr yn cyrraedd statws da neu statws gwell.
Mae Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn gofyn am fesurau i ddiogelu iechyd ecolegol ein hafonydd, llynnoedd, aberoedd a dyfroedd daear, gan ddefnyddio Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd i sefydlu'r camau gweithredu cyfunol sydd eu hangen i gyflawni statws ecolegol da.
Mae'n darparu set o safonau amgylcheddol ar gyfer asesu statws pob corff dŵr. Mae'n ofynnol i reoleiddwyr gynnal yr asesiad hwn bob chwe blynedd. Mae CNC wedi penderfynu cyhoeddi dosbarthiad dros dro ym mlwyddyn tri er mwyn olrhain unrhyw welliannau i ansawdd dŵr yn well.
Y flwyddyn ariannol nesaf mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo £16m i Rhaglen Gyfalaf Dŵr CNC i’n helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau allweddol sy’n wynebu ein dyfroedd.
Yn ddiweddarach eleni, mae CNC hefyd yn bwriadu cyhoeddi asesiadau o gyflwr ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol sy’n gyfan gwbl yng Nghymru.
Ychwanegodd Mary:
“Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol Cymru yn cynnal cyfoeth o gynefinoedd a rhywogaethau, ond fel ein hafonydd, maen nhw dan bwysau cynyddol.
“Bydd yr asesiadau o gyflwr hyn yn dystiolaeth hanfodol a fydd yn helpu i flaenoriaethu’r camau gweithredu a’r mesurau sydd eu hangen i wella’r safleoedd gwarchodedig iawn hyn.
“Ein huchelgais hirdymor yw alinio’r holl adroddiadau ar ddata ansawdd dŵr i ddarparu trosolwg mwy cyfannol o gyflwr presennol ansawdd y dŵr yn ein hafonydd, llynnoedd a dyfroedd, a'r môr.”