Cynnig rheolau newydd ar gyfer pysgota â rhwydi i amddiffyn eogiaid a brithyllod môr ar afon Dyfrdwy

Eog yn cael ei ryddhau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnig rheoliadau newydd ar gyfer pysgota â rhwydi i ddiogelu stociau eogiaid a brithyllod môr ar afon Dyfrdwy ac aber afon Dyfrdwy.

Disgwylir i'r Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi, sydd wedi rheoli'r bysgodfa rhwydi ar gyfer y rhywogaethau hyn am y degawd diwethaf, gael ei adnewyddu ym mis Mehefin 2025. Nid oes unrhyw drwyddedau rhwydi wedi'u rhoi o dan y gorchymyn ers 2009, sy'n golygu nad yw pysgota â rhwydi wedi digwydd ar afon Dyfrdwy ers 15 mlynedd.

Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos yn rhedeg o 18 Rhagfyr 2024 tan 12 Mawrth 2025. Mae'n canolbwyntio ar y rhan o afon Dyfrdwy sydd yng Nghymru, a dylid cyflwyno ymatebion i CNC. Bydd ymgynghoriad ar wahân ar gyfer y rhan o’r afon sydd yn Lloegr yn cael ei gynnal gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Yn anffodus, er gwaethaf y diffyg pysgota â rhwydi, mae niferoedd yr eogiaid a'r brithyllod môr sy'n dychwelyd i'r afon wedi parhau i ostwng dros y degawd diwethaf. Mae'r poblogaethau pysgod hyn yn llai ac yn llai gwydn, gan eu gwneud yn fwy agored i bwysau amgylcheddol a gweithgareddau dynol.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae CNC yn cynnig diddymu’r gorchymyn a chyflwyno is-ddeddfau newydd a fyddai'n cau'r bysgodfa rhwydi ar afon Dyfrdwy yn gyfan gwbl. Mae'r dull hwn yn blaenoriaethu diogelu'r rhywogaethau eiconig hyn yn y tymor hir, gan sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau eu harwyddocâd ecolegol a diwylliannol.

Dywedodd Richard Pierce, Uwch Swyddog Pysgodfeydd ar ran CNC:

"Mae diogelu eogiaid a brithyllod môr yn hanfodol ar gyfer iechyd afon Dyfrdwy ac ar gyfer cynnal y cysylltiad rhwng ein cymunedau a natur.
"Rydym yn gwahodd pawb i rannu eu barn ar y cynigion pwysig hyn. Mae mewnbwn y cyhoedd yn hanfodol er mwyn sicrhau penderfyniad cytbwys sy'n adlewyrchu anghenion ecolegol a buddiannau cymunedol."

Am fwy o wybodaeth am y cynigion a sut i ymateb, ewch i dudalen ymgynghori CNC yn: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/evidence-policy-and-permitting-tystiolaeth-polisi-a-thrwyddedu/rheolaethau-newydd-ar-bysgota-rhwydi-ar-afon-dyf/.