Natur Greadigol – partneriaeth newydd i gyplysu’r celfyddydau â'r amgylchedd
Bydd cytundeb newydd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn meithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a'r amgylchedd naturiol, fel rhan o ymrwymiad y ddau gorff i wella lles amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Nod Natur Greadigol yw dod â chymunedau ledled Cymru at ei gilydd i adeiladu dyfodol cynaliadwy drwy annog pobl i werthfawrogi natur a thirwedd Cymru drwy weithgarwch creadigol.
Bydd yn cyflawni prosiectau i gynyddu gweithgarwch economaidd mewn rhannau allweddol o Gymru lle mae angen y buddion fwyaf a helpu pobl i gael mynediad i'r amgylchedd naturiol a'r celfyddydau mewn ffyrdd newydd er budd eu hiechyd a'u lles.
Bydd yn cysoni amcanion Cyfoeth Naturiol a’r Cyngor er mwyn cyflawni nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wella lles amgylcheddol, diwylliannol, economaidd, cymdeithasol, corfforol a meddyliol ein pobl.
Heddiw (25 Medi) mewn digwyddiad ar-lein, Tirwedd Greadigol, bydd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol, Clare Pillman a Chadeirydd y Cyngor, Phil George yn cyhoeddi memorandwm o gyd-ddealltwriaeth.
Mae’r digwyddiad yn rhan o Ŵyl Afon Gwy (21–25 Medi) fydd y yn cynnwys cydweithio creadigol ar-lein rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a rheolwyr tir yng Nghymru ac ar draws ffiniau.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol:
Ers oes ein beirdd cynharaf, mae natur yn ysbrydoli artistiaid. Ond heddiw mae ein theatrau ac orielau ar gau, ymwelwyr yn aros gartref a gwyliau wedi'u canslo. Dros y misoedd diwethaf roedd yn rhaid i bawb ddod o hyd i ffyrdd creadigol o gadw mewn cysylltiad â'n hamgylchedd naturiol a'n celfyddydau.
Mae dyfodol a ffawd ein hamgylchedd naturiol a'n sector creadigol erbyn hyn yn agosach nag erioed. Dyna pam mae'r bartneriaeth gyda’r Cyngor mor gyffrous. Bydd yn arwain at wledd o fanteision amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol i bobl Cymru yn y cyfnod rhyfedd yma.
Mae gennym draddodiad hir o ddefnyddio ein tirwedd ar gyfer perfformiadau. Wrth i'r sector creadigol chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o greu celfyddyd, bydd gan yr amgylchedd gyfraniad mawr i’w gynnig.
Mae datrys yr argyfwng yn yr hinsawdd yn cynnig pwnc cyfoethog i ysbrydoli ein hartistiaid. Rhaid cyfuno gwyddoniaeth amgylcheddol â’r celfyddydau i gyfleu brys a phwysigrwydd yr argyfwng sy'n ein hwynebu.
Bydd y bartneriaeth yn ein helpu ni i gefnogi creu celfyddyd sy'n tynnu sylw at yr argyfwng a helpu artistiaid i leihau eu hôl troed carbon.
Meddai Phil George, Cadeirydd y Cyngor:
Mae’r bartneriaeth o’r pwys mwyaf. Mae sawl agwedd ar ein tirwedd sy’n sbardun i’n dychymyg: golygfeydd cefn gwlad, y mynyddoedd gwyllt, y cymoedd diwydiannol, hanes hir ein llenyddiaeth a’r argyfwng yn yr hinsawdd.
Mae gweledigaeth Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd yn sbardun pwysig inni a dyma enghraifft wych o gydweithio er lles pawb. Mae'r celfyddydau wrth wraidd bywyd ein pobl. Maen nhw’n adeiladu'r economi greadigol, creu cydlyniant cymunedol a chefnogi iechyd a lles pobl Cymru. Mae’r celfyddydau hefyd wedi’u gwreiddio yn ein tirwedd. Mae artistiaid yn creu gwaith hygyrch sy’n ddeialog rhwng y dref a’r wlad, rhwng y mynydd a’r môr.
Mae gan y bartneriaeth bosibiliadau di-rif i gyfoethogi ein bywyd. Mae’n gam cyffrous a llawn gobaith.
Bydd Cyfoeth Naturiol yn cefnogi'r sector celfyddydol i fod yn fwy cynaliadwy i liniaru ar yr effaith ar yr amgylchedd. Ond mae hefyd yn addo sicrhau bod y tir cyhoeddus dan ei reolaeth ar gael i'r sector diwylliannol fel lleoliad a thestun ymchwil a datblygiad lle bynnag y bo modd.