Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu Neil Sachdev fel cadeirydd newydd
                    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi croesawu Neil Sachdev, sy'n dechrau ei rôl yn swyddogol fel Cadeirydd y Bwrdd yr wythnos hon, yn dilyn ei benodiad gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni.
Mae'n olynu Syr David Henshaw, a ymddiswyddodd ar 31 Hydref ar ôl cwblhau dau dymor o wasanaeth.
CNC yw'r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli adnoddau naturiol Cymru, mynd i'r afael a llygredd, a chefnogi ymateb y wlad i'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae Mr Sachdev yn ymuno â CNC gyda chyfoeth o brofiad yn y sectorau amgylcheddol a choedwigaeth, a dyfarnwyd MBE iddo am ei waith mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.
Yn ogystal â rolau sy'n canolbwyntio ar newid hinsawdd a llunio strategaethau datblygu cynaliadwy, gwasanaethodd fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni gan arwain ar leihau carbon a mabwysiadu ynni adnewyddadwy.
Mae ganddo hefyd brofiad o ymgorffori dulliau addasu i newid hinsawdd a gwydnwch mewn buddsoddiadau seilwaith ar raddfa fawr gyda Network Rail a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Meddai Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Rwy’n dymuno’n dda i Neil wrth iddo ddechrau ei dymor fel Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad o weithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac rwy'n hyderus y bydd hynny'n rhoi'r gefnogaeth a'r arweinyddiaeth angenrheidiol i Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i lunio'r sefydliad er mwyn iddo ymdopi â'r heriau gwirioneddol sydd o'n blaenau.
Dywedodd Neil Sachdev, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae’n fraint wirioneddol dechrau yn fy rôl fel Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar adeg mor allweddol i’r sefydliad ac i’r genedl.
Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan ymrwymiad ac arbenigedd cydweithwyr ar draws CNC sy'n gweithio bob dydd i amddiffyn pobl, natur a'n hadnoddau naturiol. Er bod heriau newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a phwysau ar adnoddau yn real, mae uchelgais gyfatebol i’w gweld ar draws y sefydliad i weithredu gydag uniondeb, tryloywder a phwrpas.
Mae gan CNC rôl hanfodol i’w chwarae wrth lunio ymateb Cymru i’r argyfyngau hinsawdd a natur — ond rydyn ni’n gwybod na allwn ni wneud hynny ar ein pennau ein hunain. Bydd ein llwyddiant yn dibynnu ar gydweithio ar draws y llywodraeth, diwydiant, cymunedau a'r trydydd sector.
Rwy’n canolbwyntio ar sicrhau bod CNC yn parhau i gryfhau ei enw da, cyflawni dros Gymru, a helpu i greu dyfodol lle gall ein hamgylchedd a’n heconomi ffynnu gyda’i gilydd.
Meddai Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru:
Rydym yn falch iawn o groesawu Neil fel ein Cadeirydd newydd. Bydd ei brofiad a'i arweinyddiaeth yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur a chyflawni dros bobl ac amgylchedd Cymru.
Hoffwn hefyd ddiolch i Syr David Henshaw am ei ymroddiad a’i arweiniad dros y ddau dymor diwethaf ac am ei gyfraniadau sylweddol yn ystod ei wasanaeth ers 2018.
Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â Neil a’r Bwrdd wrth i ni fwrw ymlaen â’n blaenoriaethau a chryfhau ein heffaith ledled Cymru.