CNC yn adolygu adroddiad peirianneg ar adeiladu cell newydd ar Safle Tirlenwi Withyhedge
Ni fydd gweithredwr Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro ond yn gallu derbyn gwastraff i gell newydd ar y safle pan fydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn fodlon bod sylfaen y gell wedi’i hadeiladu i’r safonau peirianneg angenrheidiol.
Mae CNC yn cynnal adolygiad trylwyr o adroddiad dilysu Sicrwydd Ansawdd Adeiladu (CQA) a dderbyniwyd gan y gweithredwr Resources Management UK Ltd (RML), sy’n ceisio cymeradwyaeth derfynol i dderbyn gwastraff mewn cell newydd.
Tra bod CNC yn dal i ymchwilio i’r safle, cafodd gwaith i adeiladu Cell 9 ei awdurdodi gan y drwydded amgylcheddol gyfredol. Mae’r adroddiad CQA yn ymwneud â Chell 9A - un o dair is-gell o fewn Cell 9 sydd, yn ôl RML, bellach yn barod i dderbyn gwastraff.
Mae cyflwyno adroddiad dilysu CQA yn ofyniad hanfodol o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR). Dylai ddarparu'r dystiolaeth i ddangos bod sylfaen y gell tirlenwi newydd wedi'i hadeiladu a'i pheiriannu yn unol â'r dyluniad a'r manylebau cymeradwy i atal llygredd yn y tir a'r dŵr daear oddi tano.
Ni all unrhyw waith gwaredu gwastraff ddechrau yng Nghell 9A nes bod CNC wedi adolygu’r adroddiad, a chadarnhau ei fod yn fodlon bod y gwaith adeiladu wedi’i wneud yn unol â’r dyluniad a’r fanyleb gymeradwy.
Yn ogystal â’r gwaith peirianyddol ar gyfer y celloedd newydd, mae CNC hefyd wedi gofyn i RML am weithdrefnau a chynlluniau wedi’u diweddaru ar gyfer gweithredu Cell 9. Mae rheoli Cell 9 yn effeithiol yn hanfodol i sicrhau nad yw gweithgareddau yn y safle tirlenwi yn achosi rhagor o broblemau arogleuon. Bydd CNC yn cynnal adolygiad cyson o’r holl offer rheoleiddio sydd ar gael i’r sefydliad.
Dywedodd Caroline Drayton, Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer De Orllewin Cymru yn CNC:
“Rydym yn sylweddoli y bydd rhywfaint o bryder ymhlith y cyhoedd ynghylch y posibilrwydd y bydd gwastraff yn cael ei dderbyn unwaith eto gan Safle Tirlenwi Withyhedge. Fodd bynnag, hoffwn roi sicrwydd y bydd asesiad trylwyr o sicrwydd ansawdd gwaith adeiladu’r gell newydd. Yn ogystal, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod y gweithredwr yn rhoi gwelliannau pellach ar waith yn Safle Tirlenwi Withyhedge i leihau’r posibilrwydd y bydd unrhyw allyriadau ac arogleuon oddi ar y safle yn y dyfodol.”
Bydd yr adolygiad o’r adroddiad dilysu CQA yn cymryd sawl wythnos. Ar ôl ei gwblhau, bydd CNC yn hysbysu gweithredwr y safle o’i gasgliad.
Mae CNC yn parhau â’i bresenoldeb rheoleiddiol ar y safle i sicrhau bod RML yn parhau i wthio am y gwelliannau sydd eu hangen i'r system rheoli nwyon, a sicrhau eu bod yn dangos eu bod yn rheoli'r nwy tirlenwi sy’n deillio o’u gweithrediadau mewn modd effeithiol.
Mae ymchwiliadau sy'n ymwneud â Safle Tirlenwi Withyhedge yn parhau. Dim ond pan fydd y broses honno wedi'i chwblhau y gall CNC benderfynu a ddylid erlyn am unrhyw drosedd mewn perthynas â thorri amodau trwydded amgylcheddol.